Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)

Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM): Crynodeb

Canllawiau ar gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM): Crynodeb

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Gorffennaf 2025
Hanes diwygio
Rhif y diwygiad Dyddiad Diben y diwygiad Diwygiwyd gan
1 Gorffennaf 2025 - -

Crynodeb

Diben

Rhoi canllawiau ar sut y dylid cymhwyso’r diffiniad o gig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM) yn Atodiad I, pwynt 1.14 o Reoliad a gymathwyd (CE) Rhif 853/2004 a Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 yng Ngogledd Iwerddon.

Statws cyfreithiol

Canllawiau Cydymffurfiaeth Reoleiddiol; mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar sut i gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol.

Ar gyfer pwy mae’r cyngor hwn?

Mae’r canllawiau hyn wedi’u hanelu’n bennaf at:

  • weithredwyr busnesau bwyd (FBOs)
  • gweithgynhyrchwyr/proseswyr/trinwyr MSM a/neu baratoadau cig
  • busnesau sy’n ymgorffori MSM a/neu baratoadau cig mewn cynhyrchion eraill
  • busnesau sy’n rhoi cynhyrchion o’r fath ar farchnad y DU, ac allforwyr

Gellir eu defnyddio hefyd gan:

  • awdurdodau lleol
  • staff gweithredol yr ASB
  • a staff yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon er mwyn cefnogi rheolaethau swyddogol a sicrhau cysondeb y dull rheoleiddio

I ba wledydd yn y DU mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?

  • Cymru
  • Gogledd Iwerddon
  • Lloegr

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn yr Alban at Safonau Bwyd yr Alban.

Dyddiad adolygu

Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn erbyn 3 Ionawr 2027.

Geiriau allweddol

  • Cig wedi’i wahanu’n fecanyddol (MSM)
  • Hylendid cig
  • Cyfraith bwyd