Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr: Canllawiau i fusnesau bwyd

Crynodeb o’r canllawiau

Crynodeb o’r canllawiau byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr ar gyfer busnesau bwyd ac awdurdodau lleol.

Diben

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor i fusnesau bwyd ac awdurdodau lleol ar fesurau rheoli a systemau diogel a all leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr (LTTC), y cyfeirir atynt weithiau fel byrgyrs cig eidion amrwd, pinc neu wedi’u coginio’n ysgafn.  

Statws cyfreithiol

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys Cydymffurfiaeth Rheoleiddio (hynny yw, sut i gydymffurfio â gofynion rheoleiddiol) a Chanllawiau Arferion Gorau (sy’n rhannu enghreifftiau defnyddiol o ddulliau y gallech eu defnyddio, ond nad oes gofyniad cyfreithiol i chi eu dilyn).


Ar gyfer pwy mae’r canllawiau?

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer:

  • busnesau bwyd sy’n gweini byrgyrs cig eidion LTTC
  • swyddogion awdurdodau lleol sy’n gorfodi rheolaethau swyddogol ar hylendid bwyd 
  • gallai’r canllawiau hefyd fod o ddiddordeb i weithgynhyrchwyr, proseswyr a dosbarthwyr cig eidion, briwgig eidion a byrgyrs cig eidion y bwriedir iddynt fod heb eu coginio’n drylwyr

I ba wledydd yn y Deyrnas Unedig (DU) mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?

  • Cymru
  • Gogledd Iwerddon
  • Lloegr

Dyddiad adolygu

Byddwn yn adolygu’r canllawiau hyn cyn mis Mehefin 2025

Geiriau allweddol

  1. cyfraith bwyd
  2. monitro a rheolaethau 
  3. hylendid a diogelwch bwyd 
  4. byrgyrs cig eidion heb eu coginio’n drylwyr
  5. byrgyrs
  6. cig a da byw

Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn. Cysylltwch â ni drwy gyflwyno ymholiad ar-lein os ydych yn fusnes. Dylai awdurdodau lleol gysylltu â’r ASB yn y modd arferol, gan ddilyn yr hierarchaeth ymholiadau y cytunwyd arni ac sydd i’w gweld ar y llwyfan Hwyluso Cyfathrebu (Smarter Communications).

Lawrlwytho’r canllawiau

Gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio’r opsiwn ‘Gweld fel PDF’ ar frig pob tudalen i lawrlwytho tudalennau unigol y canllawiau hyn
  • defnyddio’r opsiwn ‘Gweld y canllawiau cyfan fel PDF’ ar waelod pob tudalen i lawrlwytho’r canllawiau cyfan fel un ddogfen

Hanes diwygio

Mai 2023 – Teitl newydd, a diwygio’r canllawiau i’w gwneud yn fwy eglur ac yn haws eu deall. Ychwanegu cyngor i brynu briwgig a byrgyrs cig eidion o safleoedd cymeradwy penodol.
Ionawr 2022 – Diwygio’r canllawiau fel eu bod yn haws eu deall. Ychwanegu cyngor i brynu briwgig a byrgyrs cig eidion o safleoedd cymeradwy penodol. Newid fformat o ddogfen PDF i dudalennau gwe HTML am resymau hygyrchedd. 
Mehefin 2018 – Adolygu negeseuon i ddefnyddwyr
Mai 2016 – Cyhoeddi’r canllawiau gwreiddiol