Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd

Penodol i Gymru a Lloegr

Y rhestr o gynhyrchion bwyd CBD sydd ar werth yng Nghymru a Lloegr sydd â chais credadwy am awdurdodiad gyda'r ASB. Rydym yn cynghori y dylid tynnu cynhyrchion nad ydynt ar y rhestr rhag cael eu gwerthu.

Mae’r rhestr o gynhyrchion bwyd CBD sydd ar werth yng Nghymru a Lloegr yn gysylltiedig â cheisiadau am awdurdodiad sy’n mynd trwy’r broses bwydydd newydd. Rydym yn cynghori y dylid tynnu cynhyrchion nad ydynt ar y rhestr rhag iddynt gael eu gwerthu.

Rhaid awdurdodi bwydydd newydd, fel cynhyrchion bwyd CBD, cyn eu rhoi ar y farchnad i sicrhau eu bod wedi cael asesiad diogelwch annibynnol. Mae’n ofynnol gwneud ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD gan fod y cynhyrchion hyn yn cael eu hystyried yn fwydydd newydd heb unrhyw hanes o’u bwyta cyn mis Mai 1997.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y broses awdurdodi ar y dudalen Rhoi cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad.

Er mwyn sicrhau bod y farchnad gyfredol yn cydymffurfio, gwnaethom ofyn i’r diwydiant, fel eithriad, gyflwyno ceisiadau am gynhyrchion CBD a oedd ar werth ar 13 Chwefror 2020.

Mae’r rhestr o gynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd yn cynnwys cynhyrchion bwyd CBD sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • roedd y cynhyrchion ar y farchnad adeg ein cyhoeddiad ar CBD (13 Chwefror 2020)
  • daeth cais am awdurdodiad ar gyfer y cynhyrchion i law cyn 31 Mawrth 2021
  • gwnaethom ddilysu’r cais neu gytuno ei fod yn symud yn ei flaen yn ddigonol tuag at gael ei ddilysu

Dylai pob cynnyrch CBD gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol eraill ac ni ddylent fod:

  • wedi’u labelu’n anghywir
  • yn anniogel
  • wedi’u hystyried yn sylweddau a reolir

Rhestr o gynhyrchion CBD

Mae’r rhestr yn cynnwys cynhyrchion bwyd CBD sy’n gysylltiedig â chais am awdurdodiad sy’n mynd trwy’r broses bwydydd newydd.

Er mai awdurdodau gorfodi sy’n gyfrifol am y penderfyniad ynghylch gorfodi bwydydd newydd nad ydynt yn cydymffurfio, rydym wedi argymell i awdurdodau lleol y dylid tynnu unrhyw gynhyrchion nad ydynt yn ymddangos ar y rhestr neu sydd wedi’u nodi fel rhai sydd wedi’u ‘Dileu’ oddi ar y farchnad.

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y rhestr hon wedi’i darparu gan ymgeiswyr a chwmnïau sy’n gysylltiedig â cheisiadau. Er ein bod wedi gwirio’r dystiolaeth a ddarparwyd sy’n nodi bod y cynhyrchion hyn ar werth cyn 13 Chwefror 2020, ni ellir dwyn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gyfrifol am wallau neu hepgoriadau o’r rhestr hon.

Nid yw cynnwys cynnyrch CBD yn y rhestr hon yn golygu ei fod wedi’i awdurdodi, dim ond bod yr ymgeisydd yn ceisio awdurdodiad.

Statws cynnyrch

Wedi dilysu

Mae dilysu’n galw am wirio bod cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n ofynnol i ganiatáu iddo symud ymlaen drwy’r broses asesu risg a chael ei awdurdodi. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys y dystiolaeth angenrheidiol i gynnal asesiad risg. Os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth hon ar goll, ni ellir dilysu’r cais.

Mae’n bwysig nodi nad yw dilysu’n gyfystyr ag awdurdodi. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd cais sydd wedi’i ddilysu’n cael ei awdurdodi.

Aros am dystiolaeth

Mae rhai ceisiadau nad ydynt wedi’u dilysu yn symud ymlaen yn dda tuag at ddarparu’r wybodaeth hon, gyda thystiolaeth o gynlluniau i gwblhau’r astudiaethau sydd eu hangen ar gyfer asesiad risg. Mae’n rhaid i’r astudiaethau hyn fod o ansawdd derbyniol a rhaid iddynt gynnwys dyddiad cau cytunedig clir ar gyfer eu cyflwyno i’w dilysu. Mae cynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau hyn wedi’u cynnwys yn y categori ‘aros am dystiolaeth’.

Bydd y ceisiadau hyn a’r cynhyrchion cysylltiedig yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr a’r broses os na chaiff y dystiolaeth ofynnol ei darparu erbyn yr amser y cytunwyd arno ac i ansawdd addas i’w ddilysu. Mae hyn yn golygu y dylid tynnu’r cynhyrchion hynny oddi ar y farchnad.

Wedi dileu

Os nad yw cais am fwyd newydd wedi gwneud digon o gynnydd tuag at gael ei ddilysu o fewn yr amser y cytunwyd arno neu os nad yw wedi cyrraedd cam nesaf y broses awdurdodi, byddwn yn diweddaru statws y cynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â’r cais hwn i wedi'u ‘dileu’. Dylid tynnu’r cynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau hyn oddi ar y farchnad, a gallent fod yn destun gorfodaeth leol.

Ein hagwedd at gynhyrchion bwyd CBD

Nid yw’r ASB yn cymeradwyo gwerthu unrhyw gynhyrchion bwyd CBD, p’un a ydynt ar y rhestr ai peidio.

Diogelwch cynhyrchion CBD

Rydym wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ar ddefnyddio CBD ar gyfer oedolion iach a grwpiau agored i niwed.

Dylai’r rheiny sy’n gwerthu CBD fod yn ymwybodol o’r wybodaeth hon, a dylent allu rhoi gwybod i ddefnyddwyr beth yw’r dos uchaf dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolion iach. Fel mesur rhagofalus, nid ydym yn argymell CBD ar gyfer pobl mewn grwpiau agored i niwed, oni bai eu bod wedi cael cyfarwyddyd meddygol i’w gymryd. Mae hyn yn cynnwys plant (rhai dan 18 oed), pobl sy’n cymryd unrhyw feddyginiaeth, y rhai sy’n ceisio beichiogi a’r rhai sy’n feichiog neu sy’n bwydo o’r fron.

Gorfodi

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi’r ddeddfwriaeth, ond rydym wedi cynghori y dylent ystyried y cynhyrchion ar y rhestr wrth benderfynu ar eu blaenoriaethau gorfodi, wrth i’r cyflenwyr hyn symud tuag at gydymffurfio. Rydym yn disgwyl i gwmnïau nad ydynt wedi gwneud cais am awdurdodiad neu’r rhai a wrthodwyd o’r broses dynnu eu cynhyrchion oddi ar y farchnad yn wirfoddol. Os na fydd hyn yn digwydd, gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r rhestr i lywio eu penderfyniadau gorfodi.

Mae cynhyrchion bwyd CBD yn ddarostyngedig i gyfreithiau bwyd. Os oes unrhyw bryderon diogelwch mewn perthynas â chynhyrchion CBD, gall awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi priodol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhestr o gynhyrchion CBD, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost i novelfoods@food.gov.uk.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y broses awdurdodi i regulatedproducts@food.gov.uk neu regulated.products.wales@food.gov.uk.