Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynhyrchion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau bwyd newydd

England and Wales

Cynhyrchion bwyd CBD sydd ar werth yng Nghymru a Lloegr yr ydym ni’n cynghori y dylid caniatáu iddynt aros ar y farchnad nes bod penderfyniad o ran eu hawdurdodi wedi’i wneud.

Last updated: 15 Ebrill 2022
See all updates

Rhaid awdurdodi bwydydd newydd, fel cynhyrchion bwyd CBD, cyn eu rhoi ar y farchnad er mwyn sicrhau eu bod wedi cael asesiad diogelwch annibynnol. Mae’n ofynnol gwneud ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion bwyd CBD gan fod y cynhyrchion hyn yn cael eu hystyried yn fwydydd newydd heb unrhyw hanes o’u bwyta cyn mis Mai 1997.

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses awdurdodi ar y dudalen 'Rhoi cynnyrch wedi’i reoleiddio ar y farchnad'.

Er mwyn sicrhau bod y farchnad gyfredol yn cydymffurfio, gwnaethom ofyn i’r diwydiant gyflwyno ceisiadau am gynhyrchion CBD a oedd ar werth ar 13 Chwefror 2020. Rydym ni’n cynghori y dylid caniatáu i’r cynhyrchion sy’n gysylltiedig â’r ceisiadau hyn aros ar y farchnad ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf canlynol: 

  • roedd y cynhyrchion ar y farchnad ar adeg ein cyhoeddiad ar CBD (13 Chwefror 2020) 
  • daeth cais am awdurdodiad ar gyfer y cynhyrchion i law cyn 31 Mawrth 2021 
  • gwnaethom ddilysu’r cais neu gytuno ei fod yn symud yn ei flaen yn ddigonol tuag at gael ei ddilysu

Dylai pob cynnyrch CBD gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol eraill ac ni ddylent fod:

  • wedi’u labelu’n anghywir
  • yn anniogel
  • wedi’u hystyried yn sylweddau wedi’u rheoleiddio 

Rhestr o gynhyrchion CBD

Mae’r rhestr yn cynnwys cynhyrchion bwyd CBD sy’n gysylltiedig â chais credadwy am awdurdodiad sy'n mynd trwy'r broses bwydydd newydd. 

Er mai awdurdodau gorfodi sy’n gyfrifol am y penderfyniad ynghylch gorfodi bwydydd newydd nad ydynt yn cydymffurfio, rydym ni wedi argymell i awdurdodau lleol y dylai unrhyw gynhyrchion nad ydynt ar y rhestr gael nodi fel ‘Tynnwyd’ yn ôl o’r farchnad, gan fod y cais cysylltiedig am fwyd newydd yn anaddas ar gyfer symud ymlaen i’r broses awdurdodi. 

Ewch ati i chwilio trwy’r rhestr o gynhyrchion CBD

Ymgeiswyr sydd wedi darparu’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar y rhestr hon. Er ein bod wedi gwirio’r dystiolaeth a ddarparwyd bod y cynhyrchion hyn ar werth cyn 13 Chwefror 2020, ni ellir dwyn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gyfrifol am wallau neu hepgoriadau o’r rhestr hon.

Nid yw cynnwys cynnyrch CBD yn y rhestr hon yn golygu ei fod wedi’i awdurdodi, dim ond bod yr ymgeisydd yn ceisio awdurdodiad.

Statws cynnyrch

Dilyswyd

Mae dilysu yn gofyn gwirio bod cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ganiatáu iddo symud ymlaen i'r broses awdurdodi. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys y dystiolaeth sydd ei hangen i gynnal asesiad risg. Os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth hon ar goll, ni ellir dilysu'r cais yn gyfreithiol.

Mae'n bwysig nodi nad yw dilysu’n gyfystyr ag awdurdodi. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd cais sydd wedi'i ddilysu yn cael ei awdurdodi. 

Aros am dystiolaeth


Mae rhai ceisiadau nad ydynt wedi'u dilysu yn symud ymlaen yn dda tuag at ddarparu'r wybodaeth hon, gyda thystiolaeth o gynlluniau i gwblhau'r astudiaethau sydd eu hangen ar gyfer asesiad risg. Mae'n rhaid i'r astudiaethau hyn fod o ansawdd derbyniol a chynnwys dyddiad cau cytunedig clir ar gyfer eu cyflwyno i’w dilysu. Mae cynhyrchion sy'n gysylltiedig â'r ceisiadau hyn wedi'u cynnwys yn y categori 'aros am dystiolaeth'. 

Bydd y ceisiadau hyn a'r cynhyrchion cysylltiedig yn cael eu tynnu o’r rhestr a'r broses os na chaiff y dystiolaeth ofynnol ei darparu erbyn yr amser y cytunwyd arno ac i ansawdd addas. Mae hyn yn golygu y dylid tynnu'r cynhyrchion hynny o'r farchnad.

Tynnwyd


Os nad yw cais am fwyd newydd wedi gwneud digon o gynnydd tuag at gael ei ddilysu o fewn yr amser y cytunwyd arno neu os nad yw wedi cyrraedd cam nesaf y broses awdurdodi, byddwn yn diweddaru statws y cynhyrchion CBD sy'n gysylltiedig â'r cais hwn i ‘tynnwyd. Dylid tynnu'r cynhyrchion hyn o’r farchnad a byddent yn destun gorfodi lleol.

Ein hagwedd at gynhyrchion bwyd CBD

Nid yw’r ASB yn cymeradwyo gwerthu unrhyw gynhyrchion bwyd CBD, p’un a ydynt ar y rhestr ai peidio.

Diogelwch cynhyrchion CBD

Rydym ni wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ar ddefnyddio CBD ar gyfer oedolion iach a grwpiau agored i niwed.

Dylai’r rheiny sy’n gwerthu CBD fod yn ymwybodol o’r wybodaeth hon a dylent allu rhoi gwybod i’r defnyddwyr beth yw’r dos uchaf dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolion iach. Fel mesur rhagofalus rydym ni’n cynghori na ddylai’r rheiny sy’n feichiog, sy’n bwydo ar y fron neu sy’n cymryd meddyginiaeth gymryd CBD. 

Gorfodi

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth ond rydym ni wedi cynghori y dylent ystyried y cynhyrchion ar y rhestr wrth benderfynu ar eu blaenoriaethau gorfodi, gan fod y cyflenwyr hyn yn symud tuag at gydymffurfio. Rydym ni’n disgwyl i gwmnïau nad ydynt wedi gwneud cais am awdurdodiad neu'r rhai a wrthodwyd o'r broses dynnu eu cynhyrchion o'r farchnad yn wirfoddol. Os na fydd hyn yn digwydd, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r rhestr i lywio eu penderfyniadau gorfodi. 

Mae cynhyrchion bwyd CBD yn ddarostyngedig i gyfreithiau bwyd. Os oes unrhyw bryderon diogelwch mewn perthynas â chynhyrchion CBD, gall awdurdodau lleol gymryd camau gorfodi priodol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhestr o gynhyrchion CBD, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost i novelfoods@food.gov.uk.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y broses awdurdodi at regulations@food.gov.uk neu regulation.products.wales@food.gov.uk