Datganiad o Adnoddau
Beth yw datganiad o adnoddau (SoR) ar gyfer safleoedd cig a'r canllawiau i ddatblygu SoR ar gyfer eich sefydliad.
Cymru a Lloegr
Mae'r datganiad o adnoddau yn ddogfen sy’n cofnodi'r gofynion prosesu a'r adnoddau sydd eu hangen mewn safle unigol.
Mae hyn yn cynnwys manylion oriau gweithredu'r safle at ddibenion rheolaethau swyddogol. Mae angen y gofynion adnoddau er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau codi tâl.
Dylai'r SoR gael ei ddrafftio mewn cydweithrediad rhwng gweithredwr y busnes bwyd a'n staff.
Mae canllawiau ar gael i'ch cefnogi chi yn y broses o weithio gyda'n staff i ddatblygu SoR sy'n benodol i'ch sefydliad.
England and Wales
Gogledd Iwerddon
Mae'r canllawiau ar y Datganiad o Adnoddau sy'n gymwys yn Ngogledd Iwerddon bellach yn rhan o Ganllawiau Ffioedd Gogledd Iwerddon sydd ar gael ar y dudalen Taliadau rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cig.
Pwysig
Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB
Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
Hanes diwygio
Published: 14 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mai 2025