Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid

Mae'n rhaid i ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid, neu'r rheiny sy'n rhan o gymysgu ychwanegion a rhag-gymysgeddau (pre-mixtures), fod yn ymwybodol o'r gofynion ar gyfer cofrestru, cadw cofnodion, hylendid bwyd anifeiliaid a chymysgu bwyd anifeiliaid.

Gofynion a chofrestru

Rhaid i ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid ddilyn rheoliadau penodol i sicrhau bod y bwyd sy'n cael ei roi i anifeiliaid yn ddiogel a bod modd olrhain cynhyrchion bwyd anifeiliaid os bydd digwyddiad diogelwch. Mae'r ddeddfwriaeth yn ategu'r gofynion sy'n berthnasol i gynhyrchu bwyd fel y nodir yn y Rheoliadau Hylendid Bwyd. Mae'n rhaid i bob fferm sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid fod wedi'i gofrestru â'r awdurdod gorfodi priodol.

Mae'n rhaid i ffermwyr, fel cynhyrchwyr cynradd, hynny yw, y rheiny nad ydynt yn cymysgu ag ychwanegion a rhag-gymysgeddau, ddilyn gweithdrefnau hylendid sylfaenol (Atodiad I y Rheoliad) mewn perthynas â bwyd anifeiliaid maent yn ei ddefnyddio neu ei dyfu, a sicrhau y caiff peryglon eu rheoli'n briodol.

Mae'r mesurau hyn yn cynnwys

  • atal bwyd anifeiliaid rhag cael ei halogi a'i ddifetha
  • glanhau offer a ddefnyddir i gymysgu, storio neu gludo bwyd anifeiliaid
  • cadw cofnodion o fwyd anifeiliaid a ddefnyddir neu a werthir

Yn ogystal, mae Atodiad III y Rheoliad ar Arferion Da Bwydo Anifeiliaid yn berthnasol i ffermwyr da byw sy'n bwydo anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.

Rhagor o ganllawiau ar ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid.

Ffermwyr sy'n cymysgu gydag ychwanegion a rhag-gymysgeddau

Dylai ffermwyr sy'n cyflawni gweithgarwch heblaw am gynhyrchu cynradd, megis cymysgu bwyd anifeiliaid at ofynion cyfyngedig eu ffermydd eu hunain drwy ddefnyddio ychwanegion neu rag-gymysgeddau o ychwanegion (ac eithrio ychwanegion silwair), gydymffurfio â darpariaethau Atodiad II ar gyfer y gweithrediadau hynny lle bo'n berthnasol.  

Mae Atodiad II o Reoliad 183/2005 yr UE a gymathwyd yn rhoi rhagor o fanylion ar sut mae hyn yn berthnasol i ffermwyr sy'n defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid, er enghraifft, wrea a rhag-gymysgeddau.

Dylid gosod, cyflwyno a chynnal gweithdrefn ysgrifenedig neu weithdrefnau sy'n seiliedig ar egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol).

Bydd yn rhaid i ffermwyr sy'n cymysgu gydag ychwanegion a rhag-gymysgeddau gymhwyso egwyddorion system HACCP

England, Northern Ireland and Wales

Canllawiau ar ar ofynion hylendid bwyd anifeiliaid ar gyfer ffermwyr sy'n cymysgu ychwanegion a rhag-gymysgeddau yn uniongyrchol mewn bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd gydag ychwanegion.

England, Northern Ireland and Wales

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Gofynion cadw cofnodion bwyd anifeiliaid i ffermwyr

Mae gofynion cadw cofnodion penodol ar gyfer ffermwyr sy'n cynhyrchu, defnyddio, tyfu neu werthu bwyd anifeiliaid. Dylid cadw cofnodion tan ei bod yn debygol bod y cynhyrchion wedi'u bwyta. Mewn rhai achosion, gall hyn fod yn rhai blynyddoedd.

Enghraifft o ddogfennau i'w cadw

Anfonebau, derbynebau, nodiadau cyflenwi, labeli bwyd anifeiliaid

Defnydd o unrhyw gynhyrchion diogelu planhigion neu bioladdwyr. Mae hyn yn cynnwys chwynladdwyr, plaladdwyr, abwyd llygod mawr, chwistrellau pryfed a diheintyddion. Cofiwch gadw gwybodaeth am enw a dyddiad defnyddio cynhyrchion, ynghyd â'r plâu, y cnydau neu'r ardaloedd a gafodd eu trin.

Anfonebau, derbynebau, nodiadau cyflenwi, cofnodion chwistrellu, cofnodion trin a chofnodion abwydo

Unrhyw achosion o blâu a chlefydau a allai effeithio ar ddiogelwch y prif gynhyrchion (e.e. ar y cnydau sy’n cael eu tyfu i'w defnyddio fel bwyd anifeiliaid) a chofnodion ar fesurau i reoli peryglon (e.e. systemau rheoli plâu a rhaglenni glanhau)

Dyddiadur fferm, protocolau golchi a glanhau, anfonebau perthnasol, derbynebau a datganiadau gan gontractwyr. Cofnodion trin, er enghraifft, defnyddio mygdarthydd (fumigant), diagramau abwydo llygod mawr

Canlyniadau unrhyw ddadansoddiadau labordy ar samplau o fwyd anifeiliaid a allai fod yn bwysig o ran diogelwch bwyd anifeiliaid (e.e. o ran mercwri, plwm).

Labeli bwyd anifeiliaid a manylion unrhyw ddadansoddiadau

Defnydd o hadau a addaswyd yn enetig (GM). Dylech nodi – nid oes unrhyw hadau GM wedi'u hawdurdodi i'w plannu'n fasnachol yn y DU ar hyn o bryd.

Labeli hadau ac anfonebau

Dylid cadw cofnodion tan ei bod yn debygol bod y cynhyrchion (e.e. llaeth, cig, wyau) wedi'u bwyta. Gall hyn fod yn sawl blwyddyn.