Os yw'ch busnes bwyd yn gwneud, yn paratoi neu'n delio â chig, llaeth, wy, pysgod, pysgod cregyn neu gynnyrch anifeiliaid i'w gyflenwi i fusnesau eraill, efallai y bydd angen cymeradwyaeth gan yr awdurdod lleol.
Os ydych chi'n meddwl efallai y bydd angen cymeradwyaeth arnoch, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod lleol cyn gwneud cais.
Pryd na fydd angen i chi wneud cais i gael eich cymeradwyo
Mae rhai eithriadau rhag y gofyniad i gael cymeradwyaeth, gan gynnwys:
- eich bod chi ond yn gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd
- eich bod chi'n fusnes manwerthu sy'n cyflenwi cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill (gan gynnwys arlwywyr) ar sail ymylol, lleol a chyfyngedig
Yn ogystal, efallai y bydd eithriad ar gael yn dibynnu ar ba raddau yr hoffech gyflenwi bwyd sy'n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill. Dylech chi gysylltu â'ch awdurdod lleol i benderfynu a allwch hawlio eithriad o'r fath rhag yr angen i gael gymeradwyaeth.
Os nad oes angen i fusnes bwyd gael cymeradwyaeth, rhaid i chi gofrestru eich busnes bwyd gyda'r awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn agor. Os ydych chi eisoes yn masnachu a heb gofrestru, mae angen i chi wneud hynny cyn gynted â phosib.
Bydd dal rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer rheoli tymheredd a dull storio unrhyw fwyd a gludir gennych.
Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol
Sefydliadau cyffredinol
Maent fel a ganlyn:
- storfeydd oer
- sefydliadau ail-lapio ac ail-becynnu
Sefydliadau cig
Maent fel a ganlyn:
- sefydliadau cig wedi'i friwio (minced)
- sefydliadau paratoi cig
- sefydliadau cig wedi'i wahanu'n fecanyddol
- ffatrïoedd prosesu cynhyrchion cig
- ffatrïoedd prosesu brasterau anifail wedi'u rendro a chriwsion (greaves)
- ffatrïoedd prosesu stumogau, pledrennau a choluddion wedi'u trin
- ffatrïoedd prosesu gelatin
- ffatrïoedd prosesu colagen
Sefydliadau pysgod a physgod cregyn
Maent fel a ganlyn:
- sefydliadau molysgiaid dwygragennog byw gan gynnwys canolfannau dosbarthu a chanolfannau puro
- sefydliadau sy'n gweithio gyda chynhyrchion pysgodfeydd gan ddefnyddio llongau ffatri a rhewi, ffatrïoedd prosesu, cynhyrchion pysgodfeydd ffres, neuaddau ocsiwn, marchnadoedd cyfanwerthu
Sefydliadau llaeth
Maent fel a ganlyn:
- canolfannau casglu llaeth amrwd lle caiff ei oeri a'i hidlo
- ffatrïoedd prosesu sy'n cynhesu, prosesu a/neu lapio cynhyrchion llaeth (llaeth neu unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys llaeth)
Sefydliadau cynnyrch anifeiliaid
Maent fel a ganlyn:
- canolfannau pacio - pacio a graddio wyau yn ôl ansawdd a phwysau
- ffatrïoedd prosesu - prosesu cynhyrchion wyau
- ffatrïoedd wyau hylifol - trin cynnwys wyau heb ei brosesu ar ôl tynnu'r plisgyn
Gwneud cais i gael eich cymeradwyo
Asesu am gymeradwyaeth
I gael eich cymeradwyo, bydd angen i chi gael safonau hylendid llym, yn strwythurol ac yn weithdrefnol. Ni chewch eich cymeradwyo oni bai bod y safonau gofynnol yn cael eu bodloni cyn gwerthu unrhyw fwyd i'w fwyta. Caiff y safonau eu diffinio yn Rheoliad 853/2004.
Ni chewch gychwyn masnachu cyn i chi gael eich cymeradwyo. Ni chewch redeg busnes sydd angen ei gymeradwyo oni bai eich bod wedi cael cymeradwyaeth amodol neu lawn ar gyfer eich gweithgarwch arfaethedig gan yr awdurdod lleol. Os ydych chi'n dechrau masnachu heb gymeradwyaeth, mae'n drosedd a gallech gael eich erlyn.
Ar ôl cael eich cymeradwyo, caiff manylion am y safle ynghyd â gwybodaeth yn ymwneud â'r mathau o fwyd a gynhyrchir eu hychwanegu at restr o sefydliadau bwyd cymeradwy Prydain Fawr a rhestr sefydliadau bwyd cymeradwy gyda threfniadau arbennig yr UE os ar goferstrau Gogledd Iwerddon.
Yr hawl i apelio
Mae gennych chi hawl i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol yn gwrthod cymeradwyo eich busnes.
Cewch apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw i Lys Ynadon. Bydd rhaid i chi gyflwyno apêl o fewn mis o'r dyddiad pan gawsoch eich hysbysu am y penderfyniad.