Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwybodaeth am geisiadau CBD annilys

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r canlynol yn nodi gwybodaeth i ymgeiswyr a gyflwynodd geisiadau i awdurdodi bwyd newydd ar gyfer cynhyrchion CBD ac y mae eu ceisiadau wedi’u nodi’n annilys.

Pam mae eich cais wedi’i nodi’n annilys

Mae eich cais wedi’i annilysu oherwydd nad oedd yn cynnwys yr wybodaeth sydd ei hangen i asesu a yw’n bodloni’r gofyniad o dan y rheoliadau bwyd newydd. Ni ellir bwrw ymlaen â chais i awdurdodi bwyd newydd ar gyfer cynnyrch CBD os mai dyma’r sefyllfa.

Er mwyn iddynt gael eu dilysu, dylai ceisiadau fod wedi’u cyflwyno gyda set lawn o ddata yn ogystal â’r holl astudiaethau perthnasol.

Tynnu eich cynhyrchion oddi ar y farchnad

Dylid tynnu cynhyrchion neu gynhwysion CBD sy’n gysylltiedig â cheisiadau annilys oddi ar y farchnad gan nad ydynt yn ymwneud â cheisiadau sy’n symud yn eu blaenau.

Rydym yn disgwyl i gynhyrchion o’r fath gael eu tynnu oddi ar y farchnad yn wirfoddol. Yr awdurdodau gorfodi sy’n gwneud y penderfyniad o ran gorfodi.

Ailgyflwyno cais am awdurdodiad

Gallwch ailgyflwyno eich cais ynghyd â choflen (dossier) ddiwygiedig sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth y nodwyd nad oedd wedi’i chynnwys yn yr asesiad gwreiddiol. Rydym yn disgwyl i unrhyw geisiadau yn y dyfodol gael eu cyflwyno fel coflen ar wahân sy’n cynnwys y data nad oedd wedi’i gynnwys y tro cyntaf, ac nid fel ychwanegiadau at y cais gwreiddiol.

Profion gwenwynegol

Yn dilyn y data ychwanegol a ddarparwyd i gefnogi awdurdodiadau bwyd newydd, dim ond ar gyfer cynhwysion CBD â mwy na 98% o CBD y dylid cynhyrchu data astudiaeth anifeiliaid pellach. Ni allwn dderbyn gwybodaeth lenyddol yn unig ar gyfer agweddau gwenwynegol y cais. Yn ogystal, ni allwn ddefnyddio gwybodaeth o un cais am fwyd newydd er budd ymgeisydd arall heb ganiatâd perchennog y data. Er mwyn lleihau’r defnydd o anifeiliaid rydym yn annog ymgeiswyr, lle bo’n berthnasol, i ddefnyddio’r setiau data presennol a gynhyrchwyd.

Dylai data a gynhyrchir i gefnogi ceisiadau bwyd newydd fod ar ddeunydd prawf perthnasol sy’n adlewyrchu cyfansoddiad y bwyd newydd sy’n ceisio awdurdodiad.  Dylid cynhyrchu data hefyd yn unol â dulliau gwenwynegol a gydnabyddir yn rhyngwladol fel protocol OECD TC 408.  

Mae’r datganiad gan yr ACNFP a COT yn amlinellu sawl maes lle gellid cynhyrchu data ychwanegol a sut y gallai hyn lywio’r wybodaeth am ddiogelwch CBD. Rydym yn annog ymgeiswyr sydd am gynhyrchu data i ystyried y bylchau hyn yn y data a, lle bo modd, ddefnyddio dulliau safonol. Pan fo data newydd yn cael ei gynhyrchu, rydym yn annog ymgeiswyr i weithio ar y cyd i wneud y mwyaf o’r wybodaeth a gynhyrchir.

Apelio yn erbyn penderfyniad i wneud cais yn annilys

Nid oes proses apelio ar gyfer penderfyniadau a wneir o ran a yw coflen yn ddilys ac a all symud yn ei blaen drwy’r broses asesu. Mae angen set graidd o wybodaeth i adolygu coflen ac asesu a yw’n bodloni’r gofyniad o dan y rheoliad, fel yr amlinellir yn y canllawiau i ymgeiswyr. Ar gyfer y coflenni a ystyrir yn annilys, nodwyd nad oes digon o wybodaeth ar gyfer yr asesiad. Rydym wedi darparu adborth manwl, felly pe bai ymgeiswyr yn dymuno ail-gyflwyno cais, dylai fod yn  glir pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen er mwyn gallu llwyddo ar y cam dilysu.