Mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr
Diffinio beth yw cynnyrch risg uchel, canllawiau ar lefelau afflatocsinau mewn bwyd wedi’i fewnforio, cyfyngiadau a chanllawiau cyfredol Prydain Fawr ar gyfer mewnforio cynhyrchion penodol o wledydd nad ydynt ym Mhrydain Fawr.
Sylwer mai er gwybodaeth y mae unrhyw ddolenni a ddarperir yn y ddogfen hon, ac efallai nad y fersiwn ddiweddaraf ydynt.
Rhaid i’r holl gynhyrchion sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr gydymffurfio â’n gofynion o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’r deddfau hyn ar waith er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Mae mathau penodol o fwydydd sy’n cael eu hystyried yn rhai sy'n peri risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd (‘risg uchel’). Os ydych chi’n ymwneud â’r broses o fewnforio bwyd o wlad y tu allan i Brydain Fawr, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r canllawiau hyn.
Os nad yw cynhyrchion a gaiff eu mewnforio yn bodloni’r safonau cywir, ni chaniateir iddynt ddod i mewn i Brydain Fawr. Mae’n bwysig nodi mai dim ond trwy Fannau Rheoli ar y Ffin y gellir mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO), lle mae'n rhaid gwirio dogfennau ac efallai y bydd angen gwiriadau ffisegol cyn eu rhyddhau. Mae'n rhaid i chi wirio a yw'r man rheoli ar y ffin wedi'i ddynodi fel un sy'n gallu derbyn HRFNAO.
Sylwer bod y rheolaethau mewnforio ar HRFNAO y tu allan i gwmpas proses categoreiddio risg y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM), a bod yr holl wiriadau risg yn seiliedig ar y rheiny a ragnodir yn y rheolaethau a gymathwyd.
Gellir ystyried bod cynhyrchion yn rhai risg uchel os ydynt yn cynnwys lefelau nad ydynt yn cydymffurfio o'r canlynol:
- halogion – mycotocsinau ac afflatocsinau
- plaladdwyr
- micro-organebau sy’n peri risg i iechyd y cyhoedd, fel Salmonela neu listeria
Gellir dod o hyd i wybodaeth am gynhyrchion risg uchel, gwlad tarddiad ac amlder gwiriadau yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 2019/1793. Mae’r Rheoliad hwn yn cynnwys y rheolaethau sy'n cael eu cymhwyso i HRFNAO penodol a fewnforir o wledydd penodol.
Pan fydd cynhyrchion HRFNAO yn cael eu hallforio o’r wlad tarddiad i wlad arall heb gael eu prosesu a chyn dod i Brydain Fawr, ystyrir hyn yn enghraifft o ‘fasnach drionglog’. Yn yr achos hwn, nid yw’r wlad tarddiad wedi newid, a bydd cyfyngiadau Prydain Fawr yn dal i fod yn gymwys.
Sylwer – pan fydd cynhyrchion HRFNAO yn cael eu hallforio o’r wlad tarddiad i wlad arall yn gyntaf ac yn cael eu prosesu ymhellach yno cyn dod i Brydain Fawr, ystyrir bod y cynhyrchion yn gynnyrch y wlad arall honno. O ran cyfraith bwyd, mae ‘prosesu’ yn golygu unrhyw weithred sy’n newid y cynnyrch cychwynnol yn sylweddol. Byddai cymysgu’r cynnyrch a restrir â nwydd arall (heb ei reoli) yn newid y disgrifiad a gallai fynd ag ef y tu hwnt i'r cwmpas.
Caniateir i gynhyrchion sy’n cael eu rheoli ar y ffin symud yn fewndirol wrth aros am ganlyniadau profion labordy (cludo ymhellach), a hynny’n ddibynnol ar gael caniatâd yr awdurdod iechyd porthladdoedd. Fodd bynnag, rhaid rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod y llwyth (consignment) yn parhau i fod o dan reolaeth barhaus yr awdurdodau cymwys ac na ellir ymyrryd ag ef mewn unrhyw ffordd tra’n disgwyl am ganlyniadau'r gwiriadau labordy.
Hyd nes y bydd canlyniadau'r gwiriadau labordy yn hysbys, rhaid i'r llwyth gael ei storio mewn warws dan reolaeth tollau neu Gyfleuster Storio Dros Dro Allanol yn y Deyrnas Unedig (DU). Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch chi anfon e-bost at onward.transport@food.gov.uk
Dyma'r rhestr gyfredol o weithredwyr ETSF.
Bwyd â chyfyngiadau cyfredol
Dylid nodi y gall cyfyngiadau mewnforio gael eu diweddaru oherwydd newidiadau mewn polisi neu ddeddfwriaeth. Y gweithredwr busnes bwyd sy'n gyfrifol am sicrhau bod ganddo'r wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r rheolaethau hyn yn bodoli i ddiogelu iechyd y cyhoedd a gallant naill ai atal mewnforion neu nodi amodau mewnforio. Dim ond trwy safleoedd rheoli ar y ffin (BCPs) y gellir mewnforio llwythi; mae'n rhaid gwirio dogfennau a gall fod angen samplu a dadansoddi neu archwilio cyn eu rhyddhau. Dyma’r rhestr o nwyddau y mae Prydain Fawr wedi rhoi cyfyngiad arnynt.
Lefelau afflatocsinau mewn bwyd wedi’i fewnforio
Mae afflatocsinau yn fath o docsin naturiol a gynhyrchir gan rai mathau penodol o lwydni; maent yn cael eu canfod mewn bwyd, a chânt eu cysylltu â chanser os cânt eu bwyta mewn lefelau uchel. Gall rhai sbeisys, cnau, ffrwythau wedi’u sychu a grawnfwydydd, gan gynnwys cynhyrchion grawnfwyd fel grawnfwydydd brecwast, gynnwys lefelau uchel o afflatocsinau.
Mae terfynau ar lefelau’r afflatocsinau a ganiateir mewn bwydydd sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr, ac efallai bod angen profi rhai cynhyrchion cyn iddynt gael eu hallforio.
Lefelau plaladdwyr mewn bwyd wedi'i fewnforio
Mae rhai cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid o drydydd gwledydd penodol yn cael eu rheoli oherwydd y risgiau o halogi â gweddillion plaladdwyr, y mae ganddynt lefelau a ganiateir mewn bwyd.
Bwydydd sydd wedi’u cyfyngu
Isod, ceir crynodeb o gynhyrchion eraill sy’n destun cyfyngiadau.
Saws soi sy’n cynnwys 3-MCPD
Mae rhai mathau o saws soi yn cynnwys cemegyn peryglus o’r enw 3-MCPD. Mae cyfyngiadau ar lefelau 3-MCPD a ganiateir mewn cynhyrchion a gaiff eu mewnforio i Brydain Fawr.
Maent fel a ganlyn:
- caiff saws soi gynnwys lefelau o 3-MCPD heb fod yn uwch na 0.02mg/kg
- mae hyn ar gyfer y cynnyrch hylif sy’n cynnwys 40% sylwedd sych, sydd gyfystyr ag uchafswm o 0.05 mg/kg yn y sylwedd sych
Gwaharddiad ar fewnforio melysion jeli
Mae cyfyngiadau ar yr ychwanegion a ganiateir mewn rhai melysion jeli gan fod perygl o dagu:
- Mae defnyddio, wrth gynhyrchu jeli cwpanau bach, ychwanegion penodol a nodir yn Atodiad II Rheoliad 1333/2008, a gwerthu'r cwpanau hyn, wedi'i wahardd
- Yn ogystal, mae defnyddio E425 konjac mewn unrhyw felysion jeli, gan gynnwys jeli cwpanau bach, a gwerthu melysion o’r fath, wedi’i wahardd o dan Reoliad 1333/2008
- Caiff y darpariaethau hyn eu gorfodi gan Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013.
Gwaharddiad ar fewnforio kava-kava
Mae ‘Kava-kava’, sy’n aelod o deulu’r pupryn, yn feddyginiaeth berlysieuol draddodiadol ar gyfer trin gorbryder (anxiety). Mae'r perlysieuyn wedi cael ei wahardd ers 2003. Mae hyn oherwydd pryderon am ei effaith wenwynig ar yr afu/iau. Ni ellir mewnforio atchwanegiadau kava-kava, nac unrhyw fwydydd sy’n cynnwys y perlysieuyn hwn, i Brydain Fawr.
Lliw (dye) anghyfreithlon mewn sbeisys ac olewau palmwydd
Mae rhai sbeisys penodol mewn perygl o gael eu halogi oherwydd lefelau anghyfreithlon o liwiau. Os canfyddir bod lefel y lliw anghyfreithlon yn uwch na 0.5 rhan fesul miliwn (0.5ppm), nid ydynt yn cydymffurfio.
Dyma’r rhywogaethau sydd mewn perygl o gael eu halogi â lliwiau anghyfreithlon:
- tsili wedi’i sychu
- cynhyrchion tsili
- powdwr cyri
- olew palmwydd
Ffurflen gais ar gyfer Mannau Rheoli ar y Ffin (BCPs)
Mae’r ffurflen hon ar gyfer BCPs arfaethedig a fydd yn ymdrin â bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid. Mae'r ffurflen yn nodi'r gofynion cyfreithiol ar gyfer y cyfleusterau a'r staffio sy'n ofynnol. Mae hefyd yn caniatáu i weithredwyr y porthladdoedd nodi rhai cynhyrchion rheoledig pan na ragwelir y bydd y cyfleusterau'n cael eu dynodi ar gyfer yr holl gynhyrchion. Pan fydd gweithredwyr porthladdoedd yn gwneud cais am gyfleusterau a rennir, er enghraifft, maent yn disgwyl cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid hefyd, dylent gysylltu â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phorthladdoedd i fynegi eu diddordeb.
Mae'r ffurflen yn berthnasol i Loegr yn unig ac felly ar gael yn Saesneg yn unig.
England
Hanes diwygio
Published: 10 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Ebrill 2025