Mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid
Gall mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion pysgodfeydd olygu peryglon posibl, a dylai pob busnes sy’n ymwneud â’r broses hon fod yn ymwybodol ohonynt.
Mae hyn yn cynnwys y grwpiau bwyd canlynol:
- cig, gan gynnwys cig ffres, cynhyrchion cig, cig wedi’i friwio (minced meat), paratoadau cig, cig dofednod (poultry), cwningen, cig anifeiliaid hela a gaiff eu ffermio a chig anifeiliaid hela gwyllt
- wyau a chynhyrchion wyau
- llaeth a chynhyrchion llaeth
- gelatin mêl a chynhyrchion gelatin
Mae’n rhaid dilyn rheolau tebyg wrth fewnforio cynhyrchion cyfansawdd sy’n cynnwys cynnyrch anifeiliaid.
Dyma ddiffiniad o gynnyrch cyfansawdd:
- bwyd sy’n cynnwys cynhyrchion anifeiliaid wedi’u prosesu a chynhyrchion sy’n dod o blanhigion, er enghraifft, salami
- lle mae prosesu’r cynnyrch cynradd yn hanfodol er mwyn cynhyrchu’r bwyd terfynol
Mewnforio i Brydain Fawr
Mae gofyn i’r rheiny sy’n ymwneud â mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i Brydain Fawr:
- roi gwybod i'r pwynt rheoli ar y ffin (BCP) cyn i unrhyw lwythi o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid gyrraedd
- cyflwyno’r dogfennau perthnasol i’r BCP, gan gynnwys tystysgrif iechyd wreiddiol. Mae’r math o dystysgrif sydd ei hangen yn dibynnu ar y math o gynnyrch a’r wlad tarddiad
- cyflwyno’r nwyddau i’r BCP i’w gwirio’n filfeddygol
- talu’r holl gostau ar gyfer arolygu’r nwyddau. Cadw’r CHED, a roddir wrth glirio nwyddau, am flwyddyn o’r adeg y mae’r nwyddau yn cyrraedd eu cyrchfan cyntaf ym Mhrydain Fawr
Nid oes angen i unrhyw ychwanegion bwyd sy'n cael eu pecynnu ar gyfer y defnyddiwr terfynol sy'n cynnwys glwcosamin, chondroitin, neu chitosan, gael eu mewnforio drwy BCP ac nid ydynt yn destun gwiriadau milfeddygol.
Safleoedd Rheoli ar y Ffin
Mae Safleoedd Rheoli ar y Ffin (BCPs) yn trin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio i’r Deyrnas Unedig (DU). Mae’n rhaid cyflwyno’r cynhyrchion hyn mewn BCPs dynodedig er mwyn cynnal gwiriadau milfeddygol.
Ni fydd nwyddau sy’n methu’r gwiriadau hyn yn cael dod mewn i’r DU, ac mae’n bosibl y byddant yn cael eu dinistrio.
Mae rhestr lawn o’r mesurau rheoli ar gael ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC.
Mewnforio samplau prawf o fwyd sy'n cynnwys cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid
Gan gynnwys cig, mêl neu gynhyrchion llaeth.
Os ydych chi am fewnforio samplau o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, mae'n rhaid i chi wirio beth a ganiateir a faint ohono a llenwi ffurflen awdurdodi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Dewch o hyd i’r ffurflen gais ar gyfer awdurdodi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a'i lawrlwytho.
Os yw APHA yn rhoi awdurdodiad i chi sy'n eithrio'ch cynnyrch neu'ch cynhyrchion rhag gwiriadau mewn BCPs, gellir dod â'r samplau hyn i Brydain Fawr heb fod angen unrhyw ardystiad. Ond mae'n rhaid iddynt gynnwys y ffurflen awdurdodi wreiddiol.
Fodd bynnag, os ydynt i'w defnyddio wrth brofi blas, rhaid iddynt fod yn ddiogel i'w bwyta gan bobl. Rhaid hefyd sicrhau:
- nad ydynt wedi’u halogi
- eu bod o wlad gymeradwy
- eu bod wedi’u trin â gwres
- mai dim ond gweithwyr a chwsmeriaid masnach sy'n eu bwyta (hynny yw cynrychiolwyr cwmnïau a all brynu cynhyrchion yn y dyfodol). Rhaid eu cynghori nad yw'r cynhyrchion wedi bod yn destun gwiriadau bwyd wedi'u mewnforio mewn unrhyw BCP wrth gyrraedd y DU. Ni chyhoeddir awdurdodiadau ar gyfer samplau a fwriedir ar gyfer profi blas gan y cyhoedd
Rhaid i fewnforwyr sicrhau bod eu nwyddau'n ddiogel ac yn gyfreithlon cyn iddynt gael eu prynu gan gynhyrchwyr a'u mewnforio i'r DU, felly efallai yr hoffent brofi eu cynhyrchion cyn eu mewnforio.
Mae Dadansoddwyr Cyhoeddus, sy'n wyddonwyr medrus, ar gael i brofi bod samplau bwyd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd drwy gynnal dadansoddi cemegol a/neu drwy drefnu archwiliad microbiolegol, er nad oes gofyniad cyfreithiol i fewnforwyr wneud hynny.
Cymerwch gip ar ein rhestr o Labordai Rheoli Bwyd Swyddogol yn y DU.
Yn ogystal, mae nifer o labordai eraill ym Mhrydain Fawr a thramor a fyddai'n cynnal y gwaith y gallai fod angen ar fewnforwyr. Yna, gallai'r mewnforiwr drefnu i'r adroddiad dadansoddi ffurfio sail eu rheolaethau ansawdd ar gyfer eu cyflenwr.
Rydym ni’n darparu canllawiau cam wrth gam ar fewnforio o wledydd cymeradwy'r Undeb Ewropeaidd.
Cludo
Mae rheolau’n bodoli ar gludo cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o un drydedd wlad i drydedd wlad arall, sy’n teithio trwy Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), sy’n cael eu galw’n symudiadau 'pont tir' (landbridge). Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi darparu gwybodaeth am hyn.
Hanes diwygio
Published: 10 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Gorffennaf 2022