Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio perlysiau a sbeisys

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar fewnforio perlysiau a sbeisys o drydydd gwledydd.

Mae'n rhaid i berlysiau a sbeisys a gaiff eu mewnforio o du allan i Brydain Fawr fodloni'r un safonau hylendid a'r un gweithdrefnau diogelwch â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr.

Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch chi i fewnforio perlysiau a sbeisys.

Safonau ar gyfer sbeisys

Nid yw cyfraith y Deyrnas Unedig (DU) yn diffinio safonau ar gyfer sbeisys. Fodd bynnag, gall cyngor gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd ar feini prawf microbiolegol 'cynnyrch terfynol' fod o gymorth. Mae'r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn gorff annibynnol sy'n diogelu iechyd a lles pawb yng Nghymru ac yn Lloegr.

Mae gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ragor o wybodaeth am y meini prawf.

Mae gwybodaeth am safonau y DU ar gyfer sbeisys hefyd ar gael ar wefan y Seasoning and Spice Association.

Lliwiau, cyflasynnau a melysyddion bwyd

Gall rhai perlysiau a sbeisys gynnwys lliwiau, cyflasynnau (flavourings) neu felysyddion. Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi'u cymeradwyo ym Mhrydain Fawr.

I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion (preservatives) bwyd, cysylltwch â'r Tîm Ychwanegion Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein.

Labelu

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan GOV.UK.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu), o drydydd gwledydd, cysylltwch â'r Tîm Mewnforion Organig trwy wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

I gael gwybodaeth am reoleiddio cynhyrchion organig a safonau organig, (gan gynnwys labelu) o fewn Prydain Fawr, cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Organig trwy wefan Defra.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith a gymathwyd (assimilated) ym Mhrydain Fawr.

Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwyd.

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein.

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol ar hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd drwy ein ffurflen ar-lein.

Plaladdwyr

I  gael gwybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr, cysylltwch â Chyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) trwy eu gwefan.

Halogion

Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013 yn darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith a gymathwyd sy'n gosod terfynau rheoleiddio ar gyfer halogion mewn bwyd, fel nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs.

Cyfyngiadau mewnforio

Mae yna rai cyfyngiadau/gofynion mewnforio eraill a all fod yn berthnasol wrth fewnforio perlysiau a sbeisys, ac mae angen i fewnforwyr fod yn ymwybodol ohonynt.

Cynhyrchion "risg uwch"

Dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u cymeradwyo fel mannau rheoli ar y ffin y gellir mewnforio rhai bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri ‘risg uwch’ i Brydain Fawr. Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch ‘risg uwch’ yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg.

Dyma ragor o wybodaeth am fewnforio bwyd risg uchel.

Mae rhestr lawn o fwydydd (nad ydynt yn dod o anifeiliaid) gyda chyfyngiadau cyfredol yr UE ar gael.

Kava-kava

Ers 9 Ionawr 2003, mae'r perlysieuyn 'kava-kava', ac unrhyw fwyd sy'n ei gynnwys, wedi'i wahardd rhag dod i mewn i'r DU. Mae hyn oherwydd pryderon ynghylch ei effaith wenwynig ar yr iau/afu.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â chanolfan gwasanaeth cwsmeriaid yr Adran Iechyd.

Add to smarter communications search Off