Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Newidiadau i labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ar gyfer bwytai bwyd brys a siopau tecawê

Gwybodaeth i fwytai bwyd brys a siopau tecawê am y drefn labelu alergenau newydd ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS), a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha.

Ar 1 Hydref 2021, newidiodd y gofynion ar gyfer labelu bwyd PPDS ledled y Deyrnas Unedig (DU).

Mae'r ddeddfwriaeth newydd hon, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS, gan gynnwys siopau cebab, bwytai byrgyr, siopau pizza, siopau cyw iâr wedi’i ffrio, siopau tecawê Tsieineaidd, siopau ’sgod a sglod, a bwytai sy’n gwerthu bwyd i fynd.

Bwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr yw bwyd PPDS. Mae’n eitem sengl, sy’n cynnwys y bwyd a’i ddeunydd pecynnu, sy’n barod i’w chyflwyno i’r defnyddiwr cyn iddi gael ei harchebu neu ei dewis.

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd angen labelu bwyd sy’n cael ei becynnu cyn i’r defnyddiwr ei archebu neu ei ddewis, ac sy’n cael ei werthu yn yr un safle ag y caiff ei becynnu (neu mewn safle lle mae busnes yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, fel canolfan siopa).

Gall bwyd sy’n cael ei werthu o safleoedd symudol hefyd fod yn fwyd PPDS. Gweler ein canllawiau ar newidiadau o ran labelu alergenau ar gyfer gwerthwyr symudol i gael rhagor o wybodaeth.

Ar gyfer bwytai a siopau tecawê, gall hyn olygu newidiadau i labelu ar gyfer bwyd fel prydau mewn bocs, byrgyrs a chynhyrchion eraill.

Gair i gall

 

Yn y canllaw hwn, byddwch chi’n gweld enghreifftiau o fwyd PPDS sy’n cael ei ddarparu’n aml gan fwytai bwyd brys a siopau tecawê, yn ogystal â labeli enghreifftiol ac atebion i gwestiynau cyffredin gan y sector.

Safleoedd bwyd brys yn arddangos bwyd gyda labeli PPDS

Newidiadau i labelu alergenau ar gyfer bwytai bwyd brys a siopau tecawê

Bydd y gofynion labelu newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar ddeunydd pecynnu a allai achub bywydau. Gelwir y ddeddfwriaeth hon hefyd yn Gyfraith Natasha.

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu ag enw’r bwyd a rhestr lawn o gynhwysion. Bydd rhaid i unrhyw gynhwysion alergenaidd gael eu pwysleisio yn y rhestr hon.

Gall hyn gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain, er enghraifft, o uned arddangos, yn ogystal â chynhyrchion sy’n cael eu cadw y tu ôl i gownter, neu rai mathau o fwyd a werthir mewn safleoedd symudol neu dros dro.

Enghreifftiau o fwyd sy’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Mae bwyd PPDS y gallai bwyty bwyd cyflym neu siop tecawê ei ddarparu yn cynnwys:

  • cartonau o sglodion neu nygets cyw iâr mewn deunydd pecynnu, ac sydd wedi’u rhoi o dan lamp boeth
  • bocsys brecwast neu ginio sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol
  • paninis neu focsys o bizza wedi’u pecynnu ymlaen llaw y gellir eu hailgynhesu ar gais y defnyddiwr
  • brechdanau neu focsys salad wedi’u pecynnu ymlaen llaw
  • byrgyrs wedi’u pecynnu 

Enghreifftiau o fwyd nad yw’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Nid yw PPDS yn cynnwys bwyd nad yw mewn deunydd pecynnu pan fydd y defnyddiwr yn ei archebu. Nid yw bwyd sy’n cael ei becynnu ar gais y defnyddiwr yn fwyd PPDS. 

Gall hyn gynnwys cynhyrchion fel:

  • pizza sy’n cael ei arddangos gyda sleisys rhydd wedi’i weini heb ei becynnu ar hambwrdd agored ar gais y defnyddiwr
  • carton agored o sglodion 
  • cyw iâr wedi’i ffrio nad yw wedi’i roi mewn bocs o dan lamp boeth
  • pysgod a selsig mewn cytew (batter) mewn arddangosfa wydr.

Nid oes angen label ar fwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw (bwyd rhydd), a rhaid iddo fodloni’r gofynion cyfredol o ran darparu gwybodaeth am alergenau. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am yr 14 prif alergen i gwsmeriaid. Mae gennych chi rywfaint o ddewis o ran sut byddwch chi’n darparu’r wybodaeth hon iddynt.

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw

Efallai y byddwch chi hefyd yn gwerthu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a gafodd ei becynnu mewn safle gwahanol i’r man lle caiff ei gynnig i ddefnyddwyr, neu fwyd sydd wedi’i becynnu gan fusnes arall. 

Nid bwyd PPDS yw hwn, ond mae dal angen label arno gydag enw, rhestr gynhwysion, alergenau a manylion gorfodol eraill. 

Dyma fwy o wybodaeth am labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a’r gofynion y mae’n rhaid i labeli bwyd eu bodloni.

Canllawiau labelu ar gyfer bwytai bwyd brys a siopau tecawê

Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw’r bwyd a’r rhestr gynhwysion. 

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd. Gellir ychwanegu pwyslais trwy ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol, neu destun wedi’i danlinellu. Rhaid i hyn fod yn ddigon eglur i ddefnyddwyr ei ddarllen.

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ofynion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu sy’n rhybuddio am alergenau fel label ‘gallai gynnwys’.

Canllawiau labelu ar gyfer bwyd a werthir ar-lein

Mae eisoes yn ofynnol i fusnesau bwyd, sy’n gwerthu eu bwyd ar-lein neu drwy ddulliau eraill o werthu o bell, ddarparu gwybodaeth am alergenau cyn i’r bwyd gael ei archebu a phan fydd yn cael ei ddosbarthu.

Ni fydd y rheoliadau newydd yn effeithio ar fwyd a werthir o bell heb fod y defnyddiwr yn gorfforol bresennol yn ystod y broses archebu.

Fodd bynnag, bydd y bwyd hwn yn destun gofynion newydd ar gyfer gwerthu o bell. Mae gennym ni wybodaeth bellach am labelu bwyd a werthir o bell a’r wybodaeth alergenau y mae’n rhaid ei darparu yn ein Canllawiau Technegol.

Os ydych chi wedi dechrau gwerthu bwyd o’ch cartref yn ddiweddar, defnyddiwch ein canllawiau cychwyn busnes bwyd o’r cartref i gael rhagor o wybodaeth am gofrestru, hylendid bwyd, rheoli alergenau, a gwerthu bwyd ar-lein.

Label bwyd PPDS enghreifftiol

Mae gan ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS wybodaeth fanwl am yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd, a sut i’w gyflwyno a’i gynhyrchu.

Ceir un enghraifft o sut y gallai’r label ymddangos isod, ond gallech ddewis ei gyflwyno mewn modd gwahanol cyn belled ag eich bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol. Rhaid i chi gynnwys enw’r bwyd, rhestr gynhwysion lawn, a phwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen sy’n bresennol yn y bwyd. 

Pepperoni pizza PPDS food label

Diffinio ‘pecynnu’

Mae bwyd i’w ystyried yn fwyd PPDS os caiff ei becynnu fel hyn:

  • Mae’r bwyd naill ai wedi ei amgáu’n rhannol neu yn llwyr gan y deunydd pecynnu.
  • Ni ellir newid y deunydd pecynnu heb ei agor neu ei newid.
  • Mae’r bwyd yn barod i’w werthu i’r defnyddiwr terfynol.

Byddai’r canlynol yn enghreifftiau o’r math hwn o becynnu:

  • cacen wedi’i lapio’n llwyr mewn cling ffilm.
  • brechdan wedi’i rhoi mewn bag papur a’r bag wedi ei blygu neu ei grychu i amgáu’r frechdan.
  • rholiau mewn bag plastig sydd wedi'i glymu â chwlwm neu wedi'i selio.

Nid yw bwyd yn fwyd PPDS os nad oes ganddo ddeunydd pecynnu, neu os ydyw wedi ei becynnu mewn modd sy’n golygu y gellir ei newid heb agor neu newid y deunydd pecynnu (er enghraifft, byrgyr wedi ei weini ar hambwrdd cardfwrdd agored).

Cwestiynau cyffredin oddi wrth fwytai bwyd brys a siopau tecawê    

Ble gallaf i ddod o hyd i’r anghenion penodol ar gyfer yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd PPDS?

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ofynion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu sy’n rhybuddio am alergenau fel label ‘gallai gynnwys’.

A oes angen i mi newid labeli ar gyfer bwyd a werthir ar-lein neu dros y ffôn neu i’w gasglu a’i ddosbarthu?

Nid yw’r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd a werthir o bell. Mae hyn yn cynnwys bwyd sy’n cael ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd.

Bydd angen i fusnesau sy’n gwerthu bwyd PPDS yn y modd hwn sicrhau bod gwybodaeth orfodol am yr 14 prif alergen ar gael i’r defnyddiwr cyn iddo brynu’r cynnyrch a hefyd wrth i’r bwyd gael ei ddosbarthu.

Delivery driver

A oes angen i mi labelu bwyd pan fydd y defnyddiwr yn gwneud ei ddewis yn seiliedig ar fwyd rhydd sy’n cael ei arddangos?

Os ydych chi’n darparu bwyd i’r defnyddiwr, ac mae hwnnw eisoes wedi ei becynnu ar y safle, bwyd PPDS ydyw. 

Hyd yn oed pe bai’r defnyddiwr yn seilio ei ddewis ar fwyd rhydd sy’n cael ei arddangos, byddai angen labelu PPDS ar y bwyd wedi’i becynnu.

A oes angen i mi ddiweddaru’r label os yw’r defnyddiwr yn gofyn am ychwanegu cynhwysion at y bwyd?

Rhaid labelu’r bwyd fel ei fod yn adlewyrchu ei gynhwysion adeg ei becynnu. 

Os byddwch yn tynnu bwyd PPDS o’i ddeunydd pecynnu er mwyn ychwanegu cynhwysion ar gais y defnyddiwr, nid oes angen labelu cynhwysion pellach arno i adlewyrchu’r newidiadau hynny. Dylech ddarparu gwybodaeth am alergenau i’r cwsmer ar y bwyd ychwanegol rydych chi wedi’i ychwanegu at y cynnyrch ar ryw ffurf neu’i gilydd, yn ogystal â’r wybodaeth ar y label cyfredol. 

A yw’r newidiadau labelu yn effeithio ar fwyd a werthir o gerbyd neu uned symudol arall?

Mae bwyd PPDS yn fwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr, ac sydd yn y deunydd pecynnu hwn cyn iddo gael ei archebu neu ei ddewis gan y cwsmer. 

Mae bwyd a werthir gan werthwyr symudol neu werthwyr marchnad a’i becynnu gan yr un busnes mewn lleoliad arall cyn iddo gael ei archebu neu ei ddewis hefyd yn fwyd PPDS. Felly, os ydych chi’n gwerthu bwyd o stondin farchnad neu gerbyd ac yn pecynnu’r bwyd rydych chi’n ei werthu mewn lleoliad arall, mae hwn hefyd yn fwyd PPDS.

Mae gennym ragor o wybodaeth am newidiadau i labelu PPDS ar gyfer gwerthwyr symudol.

A oes angen i mi labelu bwyd os ydw i’n paratoi ac yn lapio bwyd a’i gadw o dan lamp boeth cyn iddo gael ei archebu?

Os ydych chi’n pecynnu bwyd ymlaen llaw gan ragweld archebion defnyddwyr, bydd angen labeli PPDS ar y cynhyrchion hyn.

A oes angen i mi labelu bwyd am ddim a ddarperir yn ychwanegol at archebion tecawê, fel craceri corgimwch?

Oes. Mae rheolau labelu PPDS yn berthnasol i unrhyw fwyd p’un a yw’r cwsmer yn talu amdano neu ei fod yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim. 

A oes angen i mi labelu sawsiau, siytni ac ati a roddir fel rhan o archeb?

Os yw arwyneb mwyaf y deunydd pecynnu’n llai na 10 centimetr sgwâr (10cm2), nid oes rhaid i chi gynhyrchu label PPDS gyda’r holl gynhwysion a’r alergenau wedi’u pwysleisio. Os na fyddwch chi’n cynhyrchu label llawn, mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth am gynhwysion ar gael ar ryw ffurf (er enghraifft ar lafar neu ar ddarn o bapur nad yw ar y pecyn). Rhaid i wybodaeth orfodol am alergenau fod ar y label o hyd fel datganiad ‘yn cynnwys’, er enghraifft ‘Yn cynnwys: Llaeth, Wyau a Gwenith’.

Os yw arwynebedd mwyaf y deunydd pecynnu’n fwy na 10 centimetr sgwâr (10cm2), bydd angen labelu PPDS ar sawsiau, siytni ac ati.

A oes angen labelu PPDS ar ddiodydd poeth, fel te neu goffi?

Nid yw diodydd poeth a wneir yn ôl yr archeb yn gynnyrch PPDS, ac nid oes angen labelu PPDS arnynt.

Ond, os byddwch chi’n rhagweld brys ac yn mynd ati ymlaen llaw i dywallt diodydd a rhoi caeadau ar eu pennau cyn i gwsmeriaid eu harchebu, byddai’r diodydd hyn yn syrthio o dan ofynion labelu PPDS a bydd yn ofynnol i chi rhoi labeli arnynt.