Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ar gyfer bwytai, caffis a thafarndai

Gwybodaeth i fwytai, caffis a thafarndai am y drefn labelu newydd ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS), a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha.

Ar 1 Hydref 2021, newidiodd y gofynion ar gyfer labelu bwyd PPDS ledled y Deyrnas Unedig (DU). 

Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS, gan gynnwys siopau coffi, bwytai cadwyn, bwytai annibynnol, caffis mewn archfarchnadoedd a siopau adrannol, a thafarndai.

Bwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr yw bwyd PPDS.

Mae’n eitem sengl, sy’n cynnwys y bwyd a’i ddeunydd pecynnu, sy’n barod i’w chyflwyno i’r defnyddiwr cyn iddi gael ei harchebu neu ei dewis. 

Mae'r newidiadau’n golygu y bydd angen labelu bwyd sy’n cael ei becynnu cyn i’r defnyddiwr ei archebu neu ei ddewis, ac a werthir yn yr un safle ag y caiff ei becynnu (neu mewn safle lle mae busnes yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, fel canolfan siopa).

Gall bwyd a werthir o safleoedd symudol hefyd fod yn fwyd PPDS. Gweler ein canllawiau ar newidiadau o ran labelu alergenau ar gyfer gwerthwyr symudol i gael rhagor o wybodaeth.

Ar gyfer bwytai, caffis a thafarndai, gall hyn olygu newidiadau i labelu ar gyfer bwydydd fel pasteiod, cawl, brechdanau, cacennau a chynhyrchion eraill.

Yn y canllawiau hyn, byddwch chi’n gweld enghreifftiau o fwyd PPDS a geir yn aml mewn caffis a bwytai, yn ogystal â labeli enghreifftiol ac atebion i gwestiynau cyffredin gan y sector.

Pwysig

 
Bwyty yn arddangos bwyd gyda labeli PPDS

Newidiadau labelu alergenau ar gyfer caffis a bwytai

Bydd y gofynion labelu newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar ddeunydd pecynnu a allai achub bywydau. Gelwir y ddeddfwriaeth hon hefyd yn Gyfraith Natasha.

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu ag enw’r bwyd a rhestr gynhwysion lawn. Bydd rhaid i unrhyw gynhwysion alergenaidd gael eu pwysleisio yn y rhestr hon.

Gall hyn gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain, er enghraifft, o uned arddangos, yn ogystal â chynhyrchion sy'n cael eu cadw y tu ôl i gownter, neu rai mathau o fwyd a werthir mewn safleoedd symudol neu dros dro.

Enghreifftiau o fwyd sy’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Mae enghreifftiau o fwyd PPDS y gellir ei ddarparu gan fwytai, caffis, tafarndai neu fusnesau bwyd cysylltiedig yn cynnwys:

  • paninis neu flychau pizza wedi’u pecynnu ymlaen llaw y gellir eu hailgynhesu ar gais y defnyddiwr
  • brechdanau neu flychau salad wedi'u pecynnu ymlaen llaw
  • pasteiod mewn deunydd pecynnu 
  • cawl sydd eisoes mewn potiau.

Enghreifftiau o fwyd nad yw’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Nid yw PPDS yn cynnwys bwyd nad yw mewn deunydd pecynnu pan fydd y defnyddiwr yn ei archebu. Nid yw bwyd sydd wedi’i baratoi yn ôl archeb a  bwyd sy’n cael ei becynnu ar gais y defnyddiwr yn fwyd PPDS. 

Mae enghreifftiau o fwydydd nad ydynt yn PPDS y gellir eu darparu gan fwytai, caffis, tafarndai neu fusnesau bwyd cysylltiedig yn cynnwys:

  • cacennau heb eu pecynnu sy’n cael eu harddangos
  • bar salad agored
  • bara am ddim heb ei becynnu wedi'i osod ar fyrddau.

Nid oes angen label ar fwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw (bwyd rhydd), a rhaid iddo fodloni’r gofynion cyfredol o ran darparu gwybodaeth am alergenau. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am yr 14 prif alergen i ddefnyddwyr. Mae gennych chi rywfaint o ddewis o ran sut byddwch chi'n darparu'r wybodaeth hon iddynt. 

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw

Efallai y byddwch chi hefyd yn gwerthu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw a gafodd ei becynnu gan fusnes bwyd arall mewn safle gwahanol i'r man lle caiff ei gynnig i ddefnyddwyr, neu fwyd sydd wedi'i becynnu gan fusnes arall. 

Nid bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol yw hwn, ond mae dal angen label arno gydag enw, rhestr gynhwysion, alergenau a manylion gorfodol eraill. 

Dyma ragor o wybodaeth am labelu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw a'r gofynion y mae'n rhaid i labeli bwyd eu bodloni.

Gair i gall

Defnyddiwch ein hadnodd labelu alergenau a chynhwysion bwyd i wirio a yw eich busnes yn darparu bwyd PPDS. 

Canllawiau labelu ar gyfer bwytai, caffis a thafarndai

Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw'r bwyd a'r rhestr gynhwysion.

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd. Gellir ychwanegu pwyslais trwy ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol, neu destun wedi’i danlinellu. Rhaid i hyn fod yn ddigon eglur i ddefnyddwyr ei ddarllen.

Mae ein canllawiau labelu  ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys enw’r bwyd, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau, fel label ‘gallai gynnwys’.

PPDS cafe with variety of food items


Canllawiau labelu ar gyfer bwyd a werthir ar-lein


Nid yw'r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd a werthir o bell. Mae hyn yn cynnwys bwyd sy'n cael ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd. Os ydych chi'n gwerthu bwyd fel hyn, mae eisoes yn ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau cyn i’r cwsmer archebu bwyd a phan fydd yn cael ei ddosbarthu.

Efallai y bydd busnesau’n penderfynu ei bod yn haws labelu pob cynnyrch yn hytrach na gwahaniaethu rhwng bwyd sy’n cael ei werthu o bell a bwyd sydd ddim. Mantais hyn yw nad oes rhaid i’r busnes reoli gwahanol ddarpariaethau gwybodaeth a labelu. 

Mae gennym ni wybodaeth bellach am fwyd a werthir o bell a’r wybodaeth alergenau y mae’n rhaid ei darparu yn ein Canllawiau Technegol

Label bwyd PPDS enghreifftiol

Mae gan ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS wybodaeth fanwl am yr hyn i'w gynnwys ar label bwyd, a sut i'w gyflwyno a'i gynhyrchu.

Ceir un enghraifft o sut y gallai’r label ymddangos isod, ond gallech ddewis ei gyflwyno mewn modd gwahanol cyn belled ag eich bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol. Rhaid i chi gynnwys enw'r bwyd, rhestr gynhwysion lawn, a phwysleisio unrhyw un o'r 14 alergen sy'n bresennol yn y bwyd. 

Label bwyd PPDS brechdan caws a phicl

Diffinio ‘pecynnu’

Mae bwyd i’w ystyried yn fwyd PPDS os caiff ei becynnu fel hyn:

  • mae’r bwyd naill ai wedi ei amgáu’n rhannol neu yn llwyr gan y deunydd pecynnu.
  • ni ellir newid y deunydd pecynnu heb ei agor neu ei newid.
  • mae’r bwyd yn barod i'w werthu i'r defnyddiwr terfynol.

Byddai’r canlynol yn enghreifftiau o’r math hwn o becynnu:

  • cacen wedi'i phecynnu mewn cling film.
  • brechdanau wedi’u rhoi mewn bag papur a’r bag wedi ei blygu neu ei grychu i amgáu’r brechdanau. 
  • rholiau mewn bag plastig sydd wedi'i glymu â chwlwm neu wedi'i selio.

Nid yw bwyd yn fwyd PPDS os nad oes ganddo ddeunydd pecynnu, neu os ydyw wedi ei becynnu mewn modd sy’n golygu y gellir ei newid heb agor neu newid y deunydd pecynnu (er enghraifft, byrgyr wedi ei weini ar hambwrdd cardfwrdd agored).

Cwestiynau cyffredin gan fwytai, caffis a thafarndai o ran labelu bwyd PPDS

Ble gallaf ddod o hyd i’r anghenion penodol ar gyfer yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd PPDS?

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau, fel label ‘gallai gynnwys’.

Oes angen i mi newid labeli ar gyfer bwyd a werthir ar-lein neu dros y ffôn neu i’w gasglu a’i ddosbarthu?

Nid yw'r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd a werthir o bell. Mae hyn yn cynnwys bwyd sy'n cael ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd. 

Bydd angen i fusnesau sy'n gwerthu bwyd PPDS fel hyn sicrhau bod gwybodaeth orfodol am alergenau ar gael i'r defnyddiwr cyn iddo brynu'r cynnyrch a hefyd wrth i’r bwyd gael ei ddosbarthu.

Mae gennym ragor o wybodaeth am ofynion labelu gwybodaeth am alergenau ar gyfer gwerthu o bell.

Delivery driver

A oes angen labelu PPDS ar ddiodydd poeth, fel te neu goffi?

Nid yw diodydd poeth a wneir yn ôl archeb yn gynnyrch PPDS, ac nid oes angen labelu PPDS arnynt.

Ond os ydych chi'n arllwys ac yn rhoi caead ar ddiodydd cyn i ddefnyddwyr eu harchebu, gan ragweld prysurdeb, byddai'r diodydd yn gynnyrch PPDS a byddai angen eu labelu.

A oes angen i mi labelu eitemau bwyd unigol wedi'u lapio mewn cling ffilm?

Os ydych wedi dewis pecynnu eitemau unigol mewn cling ffilm a bod hyn yn bodloni’r diffiniad o ddeunydd pecynnu (gweler uchod), mae'n fwyd PPDS a rhaid ei labelu. 

A oes angen labelu bwyd sy’n cael ei arddangos o dan gromenni (domes) diogelu?

Os mai eitem sengl yw’r bwyd o dan gromen ddiogelu, sy’n cynnwys y bwyd a’r deunydd pecynnu y’i rhoddwyd ynddo, ac sy’n barod i’w gyflwyno i’r defnyddiwr, bwyd PPDS yw hwn. 

Os tynnir y gromen cyn i’r bwyd gael ei gyflwyno i’r defnyddiwr, nid bwyd PPDS mohono. Bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yw hwn.

Er enghraifft, os oes gennych chi bryd swshi wedi’i orchuddio â chromen ddiogelu sy’n cael ei gyflwyno i’r defnyddiwr gyda’r gromen drosto, bwyd PPDS yw hwn.

Os oes gennych chi gacen fawr o dan gromen, a’r bwriad yw ei rhannu’n dafelli unigol, a’u gweini ar blatiau ar wahân, nid bwyd PPDS fyddai hwn gan nad yw’r gacen fawr a’r deunydd pecynnu y’i storiwyd ynddo yn ‘eitem sengl’. Bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yw hwn. 

A oes angen i mi labelu bwyd os ydw i'n paratoi ac yn lapio bwyd a'i gadw o dan lamp boeth cyn i’r cwsmer archebu’r bwyd?

Os ydych chi'n pecynnu bwyd ymlaen llaw gan ragweld y bydd defnyddwyr yn archebu, bydd angen labelu PPDS ar y cynhyrchion hyn.

Sut mae labelu bwyd mewn bwffe yn gywir?

Mae p'un a yw’r rheolau newydd yn effeithio ar fwyd wrth gownter poeth neu fwffe yn dibynnu ar y sefyllfa benodol.  

Mae'r rheolau PPDS newydd yn berthnasol i fwyd sy'n cael ei becynnu cyn i'r defnyddiwr ei archebu ar y safle y mae'n cael ei werthu ynddo. Os nad dyma’r sefyllfa, a bod y bwyd wedi'i becynnu yn ôl archeb ar y safle, neu os nad yw’r bwyd mewn deunydd pecynnu, ystyrir nad yw'r bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw. Os dyma’r sefyllfa, mae'r gofynion gwybodaeth am alergenau presennol yn berthnasol. Gallwch chi ddarparu'r wybodaeth hon trwy labelu'r alergenau sydd mewn prydau unigol, er enghraifft, ar fwydlenni, neu trwy arddangos arwydd yn cyfarwyddo defnyddwyr i ofyn i staff am wybodaeth am alergenau.

Os ydych chi'n gweini bwyd ar ffurf cinio bys a bawd, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer pob eitem o fwyd ar wahân. Ni ddylech ei darparu ar gyfer y cinio yn ei gyfanrwydd.

Os yw'r bwyd bwffe yn cael ei becynnu ymlaen llaw cyn iddo gael ei archebu gan y defnyddiwr, mae'n rhaid darparu rhestr gynhwysion lawn yn uniongyrchol ar ddeunydd pecynnu'r cynnyrch neu ar label sydd ynghlwm â’r deunydd pecynnu, gyda’r alergenau wedi'u pwysleisio yn y rhestr gynhwysion.

A yw'n gwneud gwahaniaeth i ofynion labelu PPDS os yw'r bwyd yn cael ei fwyta mewn safle neu ei gymryd i ffwrdd?

Nac ydy, nid yw'n gwneud gwahaniaeth. Os yw'n fwyd PPDS, mae rheolau labelu yn berthnasol p'un a yw'r defnyddiwr yn ei fwyta mewn safle neu mewn lleoliad arall.

Faint o fanylion sydd angen i mi eu darparu wrth labelu cynhwysion cyfansawdd?

Mae cynhwysyn cyfansawdd yn gynhwysyn sy’n cynnwys, ynddo’i hun, fwy nag un cynhwysyn. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys bara mewn brechdan, lle mae'r bara ei hun wedi'i wneud o gynhwysion amrywiol.
Nid yw enwi cynhwysion cyfansawdd mewn rhestr yn ofyniad, ond gellir gwneud hynny. Er enghraifft, gallai label brechdan gynnwys rhestr o'r cynhwysion yn y bara ar ôl yr enw 'bara'. 

Os gwnaethoch ddewis peidio â rhestru cynhwysyn cyfansawdd o dan ei enw ei hun, bydd angen i chi restru holl gynhwysion cyfansoddol y cynhwysion cyfansawdd ar wahân, yn nhrefn eu pwysau wrth y cynnyrch gorffenedig yn ei gyfanrwydd.

Mae ein canllawiau labelu yn darparu gwybodaeth fanwl am gynhwysion cyfansawdd a labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol.

Rhestr gynhwysion mewn brechdan caws a phicl gyda'r alergenau wedi'u pwysleisio mewn print trwm

A ellir ysgrifennu labeli bwyd â llaw?

Gellir ysgrifennu labeli bwyd â llaw cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion cyfreithiol o ran maint ffont. Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw'r bwyd a'r rhestr gynhwysion. 

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion,  fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd. Gellir pwysleisio'r alergenau yn y rhestr gynhwysion gan  defnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol neu drwy danlinellu.

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau fel label ‘gallai gynnwys’.