Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ar gyfer cigyddion

Gwybodaeth i gigyddion a siopau fferm am y drefn labelu newydd ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS), a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha.

Ar 1 Hydref 2021, newidiodd y gofynion ar gyfer labelu bwyd PPDS ledled y Deyrnas Unedig (DU). 

Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS, gan gynnwys cigyddion a siopau fferm.

Bwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr yw bwyd PPDS. Mae’n eitem sengl, sy’n cynnwys y bwyd a’i ddeunydd pecynnu, sy’n barod i’w chyflwyno i’r defnyddiwr cyn iddi gael ei harchebu neu ei dewis. 

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd angen labelu bwyd sy’n cael ei becynnu cyn i’r defnyddiwr ei archebu neu ei ddewis, ac a werthir yn yr un safle ag y caiff ei becynnu (neu mewn safle lle mae busnes yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, fel canolfan siopa).

Gall bwyd a werthir o safleoedd symudol, fel stondinau mewn marchnadoedd ffermwyr, hefyd fod yn fwyd PPDS. Gweler ein canllawiau ar newidiadau o ran labelu alergenau ar gyfer gwerthwyr symudol i gael rhagor o wybodaeth.

Ar gyfer cigyddion a siopau fferm, gallai hyn olygu newidiadau o ran labelu bwydydd fel rholiau selsig, stêcs wedi’u marinadu, a chynhyrchion eraill.

Yn y canllawiau hyn byddwch chi’n gweld enghreifftiau o fwyd PPDS a geir yn aml mewn siopau cig a siopau fferm, yn ogystal â labeli enghreifftiol ac atebion i gwestiynau cyffredin gan y sector.

Cigyddion yn gwerthu bwyd gyda labelu PPDS

Newidiadau labelu alergenau ar gyfer cigyddion a siopau fferm

Bydd y gofynion labelu newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar ddeunydd pecynnu a allai achub bywydau. Gelwir y ddeddfwriaeth hon hefyd yn Gyfraith Natasha.

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu ag enw’r bwyd a rhestr gynhwysion lawn. Bydd rhaid i unrhyw gynhwysion alergenaidd gael eu pwysleisio yn y rhestr hon.

Gall hyn gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain, er enghraifft, o uned arddangos, yn ogystal â chynhyrchion sy’n cael eu cadw y tu ôl i gownter, neu rai mathau o fwyd a werthir mewn safleoedd symudol neu dros dro, fel marchnadoedd ffermwyr.

Enghreifftiau o fwyd sy’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Ymhlith y bwydydd y gall cigydd neu siop fferm eu darparu mae:

  • selsig, byrgyrs, neu fwydydd eraill sydd wedi’u pecynnu yn y siop cyn iddynt gael eu harchebu neu eu dewis
  • stêcs yr ychwanegir blas neu farinad atynt sy’n cael eu pecynnu ar y safle
  • pecynnau tro-ffrio wedi’u pecynnu ar y safle
  • cig wedi’i dafellu a’i roi mewn deunydd pecynnu ar y safle cyn i ddefnyddiwr ei archebu

Enghreifftiau o fwyd nad yw’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Nid yw bwyd PPDS yn cynnwys bwyd nad yw mewn deunydd pecynnu, fel cig sy’n cael ei arddangos, gan gynnwys darnau cig neu selsig rhydd. Nid yw bwyd sy’n cael ei becynnu ar gais y defnyddiwr yn fwyd PPDS.

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw

Efallai y byddwch chi hefyd yn gwerthu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a gafodd ei becynnu mewn safle gwahanol i’r man lle caiff ei gynnig i ddefnyddwyr, neu fwyd sydd wedi’i becynnu gan fusnes arall.

Nid bwyd PPDS yw hwn, ond mae dal angen label arno gydag enw, rhestr gynhwysion, alergenau a manylion gorfodol eraill. 

Dyma fwy o wybodaeth am labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a’r gofynion y mae’n rhaid i labeli bwyd eu bodloni.

Gair i gall
Defnyddiwch ein hadnodd labelu alergenau a chynhwysion bwyd i wirio a yw eich busnes yn darparu bwyd PPDS.

Canllawiau labelu ar gyfer cigyddion a siopau fferm

Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw’r bwyd a’r rhestr gynhwysion.

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd. Gellir pwysleisio’r alergenau yn y rhestr gynhwysion trwy defnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol neu destun wedi’i danlinellu. Rhaid i hyn fod yn ddigon eglur i ddefnyddwyr ei ddarllen.

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau, fel label ‘gallai gynnwys’.

Gofynion penodol ar gyfer labelu cynhyrchion cig

Dylech sicrhau eich bod yn bodloni’r gofynion gwybodaeth am fwyd cyfredol yng nghyswllt cynhyrchion cig wrth brosesu bwyd PPDS.

Un o’r rhain yw darparu Datganiad Cynhwysion Meintiol (QUID), sy’n hysbysu defnyddwyr am ganran y cig mewn cynnyrch bwyd penodol. Gellir darparu’r wybodaeth QUID ar labeli bwydydd PPDS, neu fe allwch roi’r wybodaeth QUID ar hysbysiad, tocyn, neu label arall sy’n weladwy yn y lleoliad y bydd y defnyddiwr yn dewis y bwyd ynddo.

Rhaid i chi roi’r wybodaeth hon naill ai:

  • fel canran mewn cromfachau yn y rhestr gynhwysion ar ôl enw’r cynhwysyn, er enghraifft ‘porc (80%)’
  • yn enw’r bwyd neu wrth ei ymyl, er enghraifft ‘yn cynnwys 80% porc’

Mae gennym ni wybodaeth bellach am QUID, ac eithriadau, yn ein canllawiau ar labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol.

Label bwyd PPDS enghreifftiol

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd, a sut i’w gyflwyno a’i gynhyrchu.

Ceir un enghraifft o sut y gallai’r label ymddangos isod, ond gallech ddewis ei gyflwyno mewn modd gwahanol cyn belled ag eich bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol. Rhaid i chi gynnwys enw’r bwyd, rhestr gynhwysion lawn, a phwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen sy’n bresennol yn y bwyd. 

Pork burgers PPDS food label

Diffinio ‘pecynnu’

Mae bwyd i’w ystyried yn fwyd PPDS os caiff ei becynnu fel hyn:

  • Mae’r bwyd wedi ei amgáu’n rhannol neu yn llwyr gan y deunydd pecynnu
  • Ni ellir newid y deunydd pecynnu heb ei agor neu ei newid
  • Mae’r bwyd yn barod i’w werthu i’r defnyddiwr terfynol

Byddai’r canlynol yn enghreifftiau o’r math hwn o becynnu:

  • selsig wedi’u hamgáu mewn deunydd pecynnu papur neu blastig
  • pastai mewn blwch cardfwrdd caeedig 
  • rholiau mewn bag plastig sydd wedi’i glymu â chwlwm neu wedi’i selio

Nid yw bwyd yn fwyd PPDS os nad oes ganddo ddeunydd pecynnu, neu os ydyw wedi ei becynnu mewn modd sy’n golygu y gellir ei newid heb agor neu newid y deunydd pecynnu (er enghraifft, ci poeth wedi ei weini ar hambwrdd cardfwrdd agored).

Cwestiynau cyffredin gan gigyddion am labelu bwyd PPDS

Ble gallaf ddod o hyd i’r anghenion penodol ar gyfer yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd PPDS?

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau, fel label ‘gallai gynnwys’.

A oes angen i mi labelu bwyd os yw’n cael ei becynnu a’i bwyso ar ôl cael ei archebu?

Nid yw bwyd a gaiff ei becynnu ar ôl i ddefnyddiwr ei ddewis neu ei archebu yn fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw, ac nid oes angen label arno. Dylech barhau i ddarparu gwybodaeth o ran a yw un o’r 14 prif alergen yn bresennol yn y bwyd, a gallwch ddewis sut byddwch yn cyflwyno hon i’r defnyddiwr. 

A oes angen i mi labelu bwyd pan fydd y defnyddiwr yn gwneud ei ddewis yn seiliedig ar fwyd rhydd sy’n cael ei arddangos?

Os ydych yn darparu bwyd i’r defnyddiwr sydd eisoes wedi ei becynnu pan gaiff ei archebu, yna bydd y rheolau o ran bwyd PPDS yn gymwys.

Hyd yn oed pe bai’r defnyddiwr yn seilio ei ddewis ar fwyd rhydd sy’n cael ei arddangos, byddai angen labelu PPDS ar y bwyd wedi’i becynnu.

A oes angen i mi gynnwys label bwyd PPDS os caiff y bwyd ei becynnu mewn safle gwahanol?

Mae bwyd sy’n cael ei becynnu gan fusnes arall mewn safle gwahanol i’r man lle caiff ei werthu yn fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw.

Mae eisoes angen labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen yn llawn, gan gynnwys enw’r bwyd a rhestr gynhwysion llawn, gyda chynhwysion alergenaidd wedi eu hamlygu oddi mewn iddi. Mae hefyd angen gwybodaeth arall, gan gynnwys gwybodaeth am faeth a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. 

Fodd bynnag, bydd bwyd sy’n cael ei becynnu gan yr un busnes mewn safle symudol neu dros dro, fel marchnadoedd ffermwyr, stondinau marchnad neu gerbydau symudol, yn fwyd PPDS.

Mae gennym ni ragor o wybodaeth am newidiadau i labelu bwyd PPDS ar gyfer gwerthwyr symudol.

Faint o fanylion y mae angen i mi eu darparu wrth labelu cynhwysion cyfansawdd?

Mae cynhwysyn cyfansawdd yn gynhwysyn sy’n cynnwys, ynddo’i hun, fwy nag un cynhwysyn. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys bara mewn brechdan, lle mae’r bara ei hun wedi’i wneud o gynhwysion amrywiol.

Nid yw enwi cynhwysion cyfansawdd mewn rhestr yn ofyniad, ond gellir gwneud hynny. Er enghraifft, gallai label brechdan gynnwys rhestr o’r cynhwysion yn y bara ar ôl yr enw ‘bara’. 

Os gwnaethoch ddewis peidio â rhestru cynhwysyn cyfansawdd o dan ei enw ei hun, bydd angen i chi restru holl gynhwysion cyfansoddol y cynhwysion cyfansawdd ar wahân, yn nhrefn eu pwysau wrth y cynnyrch gorffenedig yn ei gyfanrwydd.

Mae ein canllawiau labelu yn darparu gwybodaeth fanwl am gynhwysion cyfansawdd a labelu bwyd PPDS.

Beth dylwn i ei wneud os bydd y peiriant labelu yn stopio gweithio?

Efallai y byddwch am gynllunio’n rhagweithiol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau fel peiriannau’n torri neu wallau printio, gan ystyried sut mae eich busnes yn gweithredu.

Er enghraifft, efallai y byddwch am ystyried cael peth labeli wedi’u hargraffu ymlaen llaw i’w defnyddio o dan y fath amgylchiadau sy’n disgrifio’r alergenau a’r cynhwysion yn gywir. 

Gellir ysgrifennu labeli bwyd â llaw cyn belled â’u bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol o ran maint ffont. Dylai’r labeli fod yn hawdd eu gweld ac yn ddarllenadwy. Gellir pwysleisio alergenau trwy ddefnyddio print trwm, priflythrennau, neu drwy danlinellu.

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gynhyrchu labeli bwyd. Efallai y byddwch chi am siarad â’r tîm diogelwch bwyd yn eich awdurdod lleol hefyd.