Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ar gyfer gwerthwyr symudol a gwerthwyr bwyd stryd

Gwybodaeth i werthwyr symudol, faniau byrgyrs, gwerthwyr bwyd stryd a marchnadoedd ffermwyr ar y drefn labelu alergenau newydd ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha.

Ar 1 Hydref 2021, newidiodd y gofynion ar gyfer labelu bwyd PPDS ledled y Deyrnas Unedig (DU).

Mae'r ddeddfwriaeth newydd hon, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS, gan gynnwys gwerthwyr symudol, stondinau bwyd, faniau byrgyrs, stondinau ym marchnadoedd ffermwyr a gwerthwyr bwyd stryd.

Bwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr yw bwyd PPDS. Mae’n eitem sengl, sy’n cynnwys y bwyd a’i ddeunydd pecynnu, sy’n barod i’w chyflwyno i’r defnyddiwr cyn iddi gael ei harchebu neu ei dewis.

Mae’r newidiadau hyn hefyd yn effeithio ar werthwyr symudol sy’n gwerthu bwyd lle mae’r un busnes yn pecynnu bwyd mewn lleoliad gwahanol. Felly, os yw’ch busnes yn gwerthu bwyd o stondin farchnad neu gerbyd er enghraifft, a’ch bod chi’n pecynnu’r bwyd hwn eich hun mewn lleoliad gwahanol, bwyd PPDS yw hwn.

Yn y canllaw hwn, byddwch chi’n gweld enghreifftiau o fwyd PPDS sy’n cael ei ddarparu’n aml gan werthwyr symudol a gwerthwyr bwyd stryd, yn ogystal â labeli enghreifftiol ac atebion i gwestiynau cyffredin gan y sector.

Stondin fwyd yn arddangos bwyd gyda labeli PPDS

Newidiadau o ran labelu alergenau ar gyfer gwerthwyr symudol a gwerthwyr bwyd stryd

Bydd y gofynion labelu newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar ddeunydd pecynnu a allai achub bywydau. Gelwir y ddeddfwriaeth hon hefyd yn Gyfraith Natasha.

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu ag enw’r bwyd a rhestr lawn o gynhwysion. Bydd rhaid i unrhyw gynhwysion alergenaidd gael eu pwysleisio yn y rhestr hon.

Gall hyn gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain, er enghraifft, o uned arddangos, yn ogystal â chynhyrchion sy’n cael eu cadw y tu ôl i gownter, neu rai mathau o fwyd a werthir mewn safleoedd symudol neu dros dro.

Enghreifftiau o fwyd sy’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Mae bwyd PPDS y gallai gwerthwyr symudol neu werthwyr bwyd stryd ei ddarparu yn cynnwys:

  • Prydau bwyd sy’n cael eu rhoi mewn cynwysyddion cyn eu harchebu
  • Cartonau wedi’u pecynnu o sglodion neu nygets cyw iâr wedi’u gosod o dan lamp boeth gan ragweld cyfnod prysur amser cinio
  • Paninis neu focsys pizza wedi’u pecynnu ymlaen llaw y gellir eu hailgynhesu ar gais y defnyddiwr
  • Brechdanau neu focsys salad wedi’u pecynnu
  • Byrgyrs wedi’u lapio ac sy’n barod i’w gwerthu.

Enghreifftiau o fwyd nad yw’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu'n uniongyrchol

Nid yw PPDS yn cynnwys bwyd nad yw mewn deunydd pecynnu pan fydd defnyddiwr yn ei archebu. Nid yw bwyd sydd wedi’i baratoi yn ôl archeb a  bwyd sy’n cael ei becynnu ar gais y defnyddiwr yn fwyd PPDS. 

Nid yw’r bwyd hwn yn fwyd PPDS a gall gynnwys cynhyrchion fel:

  • Diodydd poeth wedi’u gwneud yn ôl archeb
  • Caws nad yw mewn deunydd pecynnu pan fydd y cwsmer yn ei archebu
  • Pizza sy’n cael ei arddangos, gyda sleisys wedi’u gweini ar hambwrdd cardbord agored
  • Cacennau a toesenni (pastries) heb eu pecynnu mewn arddangosfa wydr
  • Cyw iâr wedi’i ffrio nad yw wedi’i roi mewn bocs o dan lamp boeth
  • Sglodion sy’n cael eu pecynnu adeg eu harchebu
  • Byrgyrs ac winwns/nionod wedi’u ffrio heb eu pecynnu ar blât poeth.

Nid oes angen label ar fwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw (bwyd rhydd), a rhaid iddo fodloni’r gofynion cyfredol o ran darparu gwybodaeth am alergenau. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am yr 14 prif alergen i gwsmeriaid. Mae gennych chi rywfaint o ddewis o ran sut byddwch chi’n darparu’r wybodaeth hon iddynt

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw

Efallai y byddwch chi hefyd yn gwerthu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw a gafodd ei becynnu gan fusnes arall. Nid bwyd PPDS yw hwn, ond mae dal angen label arno gydag enw, rhestr gynhwysion, alergenau a manylion gorfodol eraill.

Mae gennym ni wybodaeth bellach am labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a’r gofynion y mae'n rhaid i labeli bwyd eu bodloni.

Gair i gall

Defnyddiwch ein hadnodd labelu alergenau a chynhwysion bwyd i wirio a yw eich busnes yn darparu bwyd PPDS.

Canllawiau labelu ar gyfer gwerthwyr symudol a gwerthwyr bwyd stryd

Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw’r bwyd a’r rhestr gynhwysion. 

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd.

Gellir ychwanegu pwyslais trwy ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol, neu destun wedi’i danlinellu. Rhaid i hyn fod yn ddigon eglur i ddefnyddwyr ei ddarllen.

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ofynion labelu, gan gynnwys enw’r bwyd, maint y print, a labelu sy’n rhybuddio am alergenau fel label ‘gallai gynnwys’.

Cyflwyno’r wybodaeth am alergenau i’ch defnyddwyr

Gallwch barhau i ddarparu gwybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr ar lafar neu drwy arddangos gwybodaeth ar fwydlen, bwrdd du neu hysbysiad.

Fodd bynnag, mae hyn yn ychwanegol at y gofyniad i roi labeli ar fwyd PPDS.

Mae gennym ni ragor o wybodaeth am ddarparu gwybodaeth alergenau yn ein canllawiau alergenau ar gyfer busnesau bwyd.

Enghraifft o label bwyd PPDS

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd, a sut i’w gyflwyno a’i gynhyrchu.

Ceir un enghraifft o sut y gallai’r label ymddangos isod, ond gallech ddewis ei gyflwyno mewn modd gwahanol cyn belled ag eich bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol. Rhaid i chi gynnwys enw’r bwyd, rhestr lawn o gynhwysion, a phwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen sy’n bresennol yn y bwyd.  

Label bwyd PPDS porc pei

Diffinio ‘pecynnu’

Mae bwyd i’w ystyried yn fwyd PPDS os caiff ei becynnu fel hyn:

  • Mae’r bwyd naill ai wedi ei amgáu’n rhannol neu yn llwyr gan y deunydd pecynnu.
  • Ni ellir newid y deunydd pecynnu heb ei agor neu ei newid.
  • Mae’r bwyd yn barod i’w werthu i’r defnyddiwr terfynol.

Byddai’r canlynol yn enghreifftiau o’r math hwn o becynnu:

  • Cacen wedi’i lapio’n llwyr mewn cling ffilm.
  • Bara wedi ei roi mewn bag papur a’r bag wedi ei blygu neu ei grychu i amgáu’r bara.
  • Rholiau mewn bag plastig sydd wedi’i glymu â chwlwm neu wedi’i selio.

Nid yw bwyd yn fwyd PPDS os nad oes ganddo ddeunydd pecynnu, neu os ydyw wedi ei becynnu mewn modd sy’n golygu y gellir ei newid heb agor neu newid y deunydd pecynnu (er enghraifft, cacen wedi ei gweini ar hambwrdd cardfwrdd agored). 

Cwestiynau cyffredin gan werthwyr symudol am labelu bwyd PPDS

Ble gallaf ddod o hyd i’r anghenion penodol ar gyfer yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd PPDS?

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ofynion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu sy’n rhybuddio am alergenau fel label ‘gallai gynnwys’.

A oes angen labelu PPDS ar ddiodydd poeth, fel te neu goffi?

Nid yw diodydd poeth a wneir yn ôl archeb yn gynnyrch PPDS, ac nid oes angen labelu PPDS arnynt.

Ond os ydych chi’n arllwys ac yn rhoi caead ar ddiodydd cyn i ddefnyddwyr eu harchebu, gan ragweld prysurdeb, byddai’r diodydd yn gynnyrch PPDS a byddai angen eu labelu.

A oes angen i mi labelu bwyd os ydw i’n paratoi ac yn lapio bwyd a’i gadw o dan lamp boeth cyn iddo gael ei archebu?

Os ydych chi’n pecynnu bwyd ymlaen llaw gan ragweld archebion defnyddwyr, bydd angen labelu PPDS ar y cynhyrchion hyn.

Os byddaf yn arddangos taflen sy’n rhoi gwybodaeth am alergenau yn fy uned, a oes angen i mi labelu bwyd PPDS o hyd?

Oes, nid yw defnyddio taflen sy’n rhoi gwybodaeth am alergenau yn disodli labelu bwyd PPDS.

Bydd angen rhestr lawn o gynhwysion a gwybodaeth am alergenau ar y label o hyd ar fwyd PPDS.

A oes modd ysgrifennu labeli bwyd â llaw?

Oes, cyhyd â’u bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer labeli. Mae gan ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS wybodaeth fanwl am ofynion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu sy’n rhybuddio am alergenau fel label ‘gallai gynnwys’. Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw’r bwyd a’r rhestr gynhwysion. 

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd.

Gellir ychwanegu pwyslais trwy ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol, neu destun wedi’i danlinellu. Rhaid i hyn fod yn ddigon eglur i ddefnyddwyr ei ddarllen.

A oes angen i mi labelu eitemau bwyd os cânt eu gwerthu yn rhydd?

Nid oes angen label ar fwyd rhydd nad yw’n cael ei werthu mewn pecynnau, hyd yn oed os ydych chi’n eu rhoi mewn pecynnau ar ôl i’r cwsmer eu harchebu. Rhaid iddo fodloni’r gofynion cyfredol ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw. Dylech barhau i ddarparu gwybodaeth o ran a yw unrhyw un o’r 14 prif alergen yn bresennol yn y bwyd a gallwch ddewis sut i gyflwyno’r wybodaeth hon i’r defnyddiwr. 

A oes angen i mi labelu sawsiau, siytni ac ati sy'n cael eu cynnwys fel rhan o archeb?

Os yw arwyneb mwyaf y deunydd pecynnu’n llai na 10 centimetr sgwâr (10cm2), nid oes rhaid i chi gynhyrchu label PPDS gyda’r holl gynhwysion a’r alergenau wedi’u pwysleisio. Os na fyddwch chi’n cynhyrchu label llawn, mae'n rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth am gynhwysion ar gael ar ryw ffurf (er enghraifft ar lafar neu ar ddarn o bapur nad yw ar y pecyn). Rhaid i wybodaeth orfodol am alergenau fod ar y label o hyd fel datganiad ‘yn cynnwys’, er enghraifft ‘Yn cynnwys: Llaeth, Wyau a Gwenith’. 

Os yw arwynebedd mwyaf y deunydd pecynnu’n fwy na 10 centimetr sgwâr (10cm2), bydd angen labelu PPDS ar sawsiau, siytni ac ati.

A oes angen i mi newid labeli ar gyfer bwyd a werthir ar-lein neu dros y ffôn neu i’w gasglu a’i ddosbarthu?

Nid yw’r gofynion labelu newydd yn berthnasol i fwyd a werthir o bell. Mae hyn yn cynnwys bwyd sy'n cael ei brynu dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd.

Bydd angen i fusnesau sy’n gwerthu bwyd PPDS yn y modd hwn sicrhau bod gwybodaeth orfodol am yr 14 prif alergen ar gael i’r defnyddiwr cyn iddo brynu’r cynnyrch a hefyd wrth i’r bwyd gael ei ddosbarthu.