Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Newidiadau o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) ar gyfer ysgolion, colegau a meithrinfeydd

Gwybodaeth i ysgolion, colegau a meithrinfeydd am y drefn labelu newydd ar gyfer bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha.

Ar 1 Hydref 2021, newidiodd y gofynion ar gyfer labelu bwyd PPDS ledled y Deyrnas Unedig (DU).

Mae'r ddeddfwriaeth newydd hon, a elwir hefyd yn Gyfraith Natasha, yn berthnasol i unrhyw fusnes bwyd sy'n cynhyrchu bwyd PPDS, ysgolion cynradd ac uwchradd, colegau, prifysgolion a meithrinfeydd sy'n darparu bwyd.

Bwyd sy’n cael ei becynnu yn yr un man ag y caiff ei gynnig neu ei werthu i ddefnyddwyr yw bwyd PPDS. Mae’n eitem sengl, sy’n cynnwys y bwyd a’i ddeunydd pecynnu, sy’n barod i’w chyflwyno i’r defnyddiwr cyn iddi gael ei harchebu neu ei dewis.

Ar gyfer bwyd a ddarperir mewn ysgol, gall hyn olygu newidiadau i labelu ar gyfer bwyd fel pizza neu frechdanau sy'n cael eu pecynnu ar y safle cyn i'r defnyddiwr eu harchebu.

Mae'r newidiadau’n golygu y bydd angen labelu bwyd sy’n cael ei baratoi a’i becynnu cyn i’r defnyddiwr ei archebu neu ei ddewis, ac a werthir yn yr un safle ag y caiff ei becynnu (neu mewn safle lle mae busnes yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad).

Ar gyfer ysgolion, gall hyn olygu newidiadau i labelu ar gyfer bwyd fel pizza neu frechdanau sy’n cael eu paratoi a’u pecynnu ar y safle cyn i’r defnyddiwr eu harchebu.

Yn y canllaw hwn, byddwch chi’n gweld enghreifftiau o fwyd PPDS a geir fel arfer mewn ysgolion, yn ogystal â labeli enghreifftiol ac atebion i gwestiynau cyffredin gan y sector.

Ffreutur ysgol yn arddangos bwyd gyda labeli PPDS

Newidiadau o ran labelu alergenau ar gyfer ysgolion, colegau a meithrinfeydd

Bydd y gofynion labelu newydd yn helpu i ddiogelu defnyddwyr trwy ddarparu gwybodaeth am alergenau ar ddeunydd pecynnu a allai achub bywydau. Gelwir y ddeddfwriaeth hon hefyd yn Gyfraith Natasha.

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnes bwyd sy’n cynhyrchu bwyd PPDS ei labelu ag enw’r bwyd a rhestr gynhwysion lawn. Bydd rhaid i unrhyw gynhwysion alergenaidd gael eu pwysleisio yn y rhestr hon.

Gall hyn gynnwys bwyd y mae defnyddwyr yn ei ddewis eu hunain, er enghraifft, o uned arddangos, yn ogystal â chynhyrchion sy'n cael eu cadw y tu ôl i gownter. 

Enghreifftiau o fwyd sy’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Mae enghreifftiau o fwyd PPDS y gall ysgolion ei ddarparu yn cynnwys:

  • potiau ffrwythau, potiau brecwast
  • blychau o sglodion neu nygets cyw iâr wedi'u gosod o dan lamp boeth gan ragweld cyfnod prysur amser cinio
  • brechdanau neu flychau salad wedi'u pecynnu
  • byrgyrs wedi'u pecynnu 

Enghreifftiau o fwyd nad yw’n cael ei becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol

Nid yw PPDS yn cynnwys bwyd nad yw mewn deunydd pecynnu.  Nid yw bwyd sy’n cael ei becynnu neu ei blatio ar gais y defnyddiwr yn fwyd PPDS.
Nid yw'r bwyd hwn yn fwyd PPDS a gall gynnwys cynhyrchion fel:

  • cacennau heb eu pecynnu, a bwyd heb ei becynnu sydd y tu ôl i gownter arddangos gwydr neu mewn cwpwrdd sy’n cadw bwyd yn boeth
  • prydau bwyd wedi'u paratoi neu eu platio yn ôl archebion.

Nid oes angen label ar fwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw (bwyd rhydd), a rhaid iddo fodloni gofynion gwybodaeth am alergenau cyfredol ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw. 

Bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw

Efallai y byddwch chi hefyd yn gwerthu bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw a gafodd ei becynnu gan fusnes bwyd arall mewn safle gwahanol i'r man lle caiff ei gynnig i ddefnyddwyr, neu fwyd sydd wedi'i becynnu gan fusnes arall.

Nid yw hwn yn fwyd ’wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol’ ond mae'n fwyd 'wedi'i becynnu ymlaen llaw'. Mae angen label gydag enw, rhestr gynhwysion, alergenau a manylion gorfodol eraill ar fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw. 

Dyma ragor o wybodaeth am labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a'r gofynion y mae'n rhaid i labeli bwyd eu bodloni.

Defnyddiwch ein hadnodd labelu alergenau a chynhwysion bwyd i wirio a yw eich ysgol yn darparu bwyd PPDS.

Canllawiau labelu ar gyfer ysgolion, colegau a meithrinfeydd

Mae angen i labeli ar fwyd PPDS ddangos enw'r bwyd a'r rhestr gynhwysion.

Mae hyn yn cynnwys pwysleisio unrhyw un o’r 14 alergen a ddefnyddir yn y cynnyrch yn y rhestr gynhwysion, fel sy’n ofynnol gan gyfraith bwyd. Gellir ychwanegu pwyslais trwy ddefnyddio print trwm, priflythrennau, lliwiau cyferbyniol, neu destun wedi’i danlinellu. Rhaid i hyn fod yn ddigon eglur i ddefnyddwyr ei ddarllen.

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys enw’r bwyd, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau, fel label ‘gallai gynnwys ’.

Bocsys bwyd ysgol


Dim ond ar fwyd sy'n cael ei becynnu a'i werthu neu ei gynnig ar eich safle mae’r newidiadau labelu alergenau PPDS yn effeithio. 

Os caiff bocsys bwyd eu paratoi ar safle'r ysgol ar gyfer digwyddiad, fel taith ysgol, gall y gofynion gwybodaeth am alergenau amrywio. Os yw'r cinio yn cael ei baratoi a'i becynnu yn ôl archeb, nid yw’r rhain wedi’u pecynnu ymlaen llaw, ac felly nid ydynt yn fwyd PPDS. 

Fodd bynnag, os yw'r cinio ysgol yn cael ei baratoi a’i becynnu heb archebion penodol gan blant unigol, byddai angen i'r rhain gydymffurfio â'r gofynion labelu PPDS newydd. 

Os oes sawl eitem mewn bocs bwyd, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau ar gyfer pob eitem. Bydd angen i chi labelu pob eitem PPDS yn unigol. Bydd unrhyw eitemau wedi'u pecynnu ymlaen llaw rydych chi wedi'u prynu o rywle arall (hynny yw bwyd wedi'i becynnu mewn lleoliad gwahanol gan fusnes arall) eisoes â labelu cynhwysion llawn. 

Label bwyd PPDS enghreifftiol

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yr hyn i'w gynnwys ar label bwyd, a sut i'w gyflwyno a'i gynhyrchu.

Ceir un enghraifft o sut y gallai’r label ymddangos isod, ond gallech ddewis ei gyflwyno mewn modd gwahanol cyn belled ag eich bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol. Rhaid i chi gynnwys enw'r bwyd, rhestr gynhwysion lawn, a phwysleisio unrhyw un o'r 14 alergen sy'n bresennol yn y bwyd.

Label bwyd PPDS brechdan caws a phicl

Diffinio ‘pecynnu’

Mae bwyd i’w ystyried yn fwyd PPDS os caiff ei becynnu fel hyn:

  • Mae’r bwyd naill ai wedi ei amgáu’n rhannol neu yn llwyr gan y deunydd pecynnu.
  • Ni ellir newid y deunydd pecynnu heb ei agor neu ei newid.
  • Mae’r bwyd yn barod i'w werthu i'r defnyddiwr terfynol.

Byddai’r canlynol yn enghreifftiau o’r math hwn o becynnu:

  • cacen wedi’i phecynnu’n llwyr mewn cling ffilm.
  • bara wedi ei roi mewn bag papur a’r bag wedi ei blygu neu ei grychu i amgáu’r bara.
  • rholiau mewn bag plastig sydd wedi'i glymu â chwlwm neu wedi'i selio.

Nid yw bwyd yn fwyd PPDS os nad oes ganddo ddeunydd pecynnu, neu os ydyw wedi ei becynnu mewn modd sy’n golygu y gellir ei newid heb agor neu newid y deunydd pecynnu (er enghraifft, cacen wedi ei gweini ar hambwrdd cardfwrdd agored). 

Cwestiynau cyffredin gan ysgolion am labelu bwyd PPDS

Ble gallaf ddod o hyd i’r anghenion penodol ar gyfer yr hyn i’w gynnwys ar label bwyd PPDS?

Mae ein canllawiau labelu ar gyfer bwyd PPDS yn cynnwys gwybodaeth fanwl am anghenion labelu, gan gynnwys arferion enwi, maint y print, a labelu yn rhybuddio am alergenau, fel label ‘gallai gynnwys’. 


A yw'r newidiadau PPDS yn effeithio ar brydau ysgol sydd wedi'u platio yn ôl archeb?

Nac ydynt. Os ydych chi'n platio bwyd (heb ei becynnu cyn y pwynt y mae'n cael ei archebu) nid oes angen rhestru cynhwysion. Rhaid i chi allu darparu gwybodaeth, yn ysgrifenedig neu ar lafar, am bresenoldeb unrhyw alergenau yn y bwyd rydych chi'n ei weini.

A yw'r newidiadau PPDS yn effeithio ar focsys bwyd?

Dim ond i fwyd sy'n cael ei becynnu a'i werthu neu ei gynnig ar eich safle y mae’r newidiadau labelu alergenau PPDS yn berthnasol.

Os yw'r cinio wedi'i becynnu yn ôl archeb, nid yw wedi’i becynnu ymlaen llaw, ac felly nid yw’n fwyd PPDS.

Fodd bynnag, os yw'r bocsys cinio ysgol wedi’u pecynnu heb archebion penodol gan blant unigol, byddai angen i'r rhain gydymffurfio â'r gofynion labelu PPDS newydd.

A yw'r newidiadau PPDS yn effeithio ar brydau ysgol a archebir gan rieni ar gylchred bwydlen?

Ni fyddai hyn yn cael ei ystyried yn fwyd PPDS os yw'r bwyd wedi'i archebu cyn ei becynnu ar gyfer yr unigolyn. Dylech barhau i sicrhau bod gwybodaeth am alergenau ar gael i rieni a myfyrwyr fel yr ydych chi nawr. 

Fodd bynnag, os yw rhieni'n talu am fwyd ymlaen llaw ac nad ydynt wedi gwneud archebion penodol, gellid ystyried bod y bwyd yn PPDS, gan ddibynnu ar b’un a yw’n cael ei becynnu a sut y caiff ei becynnu cyn cael ei ddewis gan fyfyriwr.

A yw'r newidiadau PPDS yn effeithio ar bethau da (tuck) wedi'u pecynnu ymlaen llaw a ddarperir i ddisgyblion blynyddoedd iau gan yr ysgol?

Mae'n ddealladwy efallai na fydd disgyblion ar ben iau'r ysgol yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am y bwyd a ddarperir iddynt ac y bydd gan ysgolion gyfrifoldeb diogelu presennol mewn perthynas â hyn. 

Fodd bynnag, mae'r newidiadau i labelu PPDS yn golygu y bydd angen i unrhyw fwyd sy'n cael ei becynnu ar yr un safle cyn cael ei archebu gan y defnyddiwr ddarparu labelu PPDS.

Ar hyn o bryd gall ysgolion reoli hyn trwy gofnodion iechyd ysgolion neu staff arlwyo sy'n ymwybodol o ofynion alergenau disgyblion.

A oes angen i mi labelu bwyd sydd wedi'i lapio mewn cling ffilm?


Os yw'r bwyd wedi'i amgáu'n llwyr neu'n rhannol gan y cling ffilm neu gan ddeunydd pecynnu arall cyn iddo gael ei archebu (a'i fod yn barod i'w gyflwyno i'r defnyddiwr), ac na ellir newid y bwyd heb agor na newid y deunydd pecynnu, mae'n fwyd PPDS.

Os caiff eitem ei thynnu o’r cling ffilm cyn ei chyflwyno i'r defnyddiwr, nid yw’n fwyd PPDS. Mae hwn yn fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw ac felly mae'n rhaid darparu gwybodaeth am alergenau ar ryw ffurf.

A oes angen i mi labelu eitemau bwyd os cânt eu gwerthu yn rhydd?

Nid oes angen label ar fwyd rhydd nad yw'n cael ei werthu mewn deunydd pecynnu.  Rhaid iddo fodloni'r gofynion gwybodaeth am alergenau cyfredol ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw.

A oes angen i mi labelu bwyd os ydw i'n paratoi ac yn lapio bwyd a'i gadw o dan lamp boeth cyn i’r cwsmer archebu’r bwyd?

Os ydych chi'n pecynnu bwyd ymlaen llaw gan ragweld archebion defnyddwyr, bydd angen labelu PPDS ar y cynhyrchion hyn.

A oes angen i mi ddarparu labeli ar gyfer bar salad neu fwffe hunan-weini? 

Os yw'r salad wedi'i becynnu cyn ei archebu, byddai angen label bwyd PPDS arno. Fodd bynnag, os yw'r bar salad yn un hunan-weini, a bod y myfyriwr yn ei blatio ar blât neu i mewn i flwch ei hun, mae’n fwyd heb ei becynnu ymlaen llaw. 

Gellir cyfleu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw trwy amryw ddulliau i weddu i fodel eich busnes. Mae'n ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am yr 14 alergen os ydyn nhw'n bresennol mewn bwyd. Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu rhestr gynhwysion lawn. 

Os byddaf yn arddangos gwybodaeth am alergenau ar fwydlen neu ar ein gwefan i hysbysu rhieni, a oes dal angen i mi labelu bwyd PPDS?

Oes, nid yw defnyddio taflen wybodaeth am alergenau yn disodli labelu bwyd PPDS.

Bydd angen parhau i gynnwys rhestr gynhwysion lawn a gwybodaeth am alergenau ar y label ar fwyd PPDS.

A oes angen labelu PPDS ar ddiodydd poeth, fel te neu goffi?

Nid yw diodydd poeth a wneir yn ôl archeb yn gynnyrch PPDS, ac nid oes angen labelu PPDS arnynt.

Ond, os byddwch chi’n rhagweld brys ac yn mynd ati ymlaen llaw i dywallt diodydd a rhoi caeadau ar eu pennau cyn i gwsmeriaid eu harchebu, byddai’r diodydd hyn yn syrthio o dan ofynion labelu PPDS a bydd yn ofynnol i chi rhoi labeli arnynt.