Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rheoliadau deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd

Trosolwg o'r rheoliad allweddol ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd.

Rydym ni'n gyfrifol am ddiogelu'r cyhoedd yn erbyn cemegion a allai drosglwyddo i fwyd o'r deunyddiau y maent yn dod i gysylltiad â nhw, er enghraifft deunydd pecynnu ac offer. Rydym ni'n helpu i orfodi rheolaethau yn seiliedig ar waith ymchwil a gwyliadwriaeth.

Rheoliadau Cenedlaethol 2012

Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau ar gyfer deunyddiau ac eitemau y disgwylir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd neu drosglwyddo eu cynnwys i fwyd, er enghraifft, deunyddiau fel inciau argraffu a labeli gludiog. Nid yw hyn yn cynnwys sylweddau sy'n gorchuddio'r bwyd ac sy'n rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta, fel croen selsig.

Mae Rheoliadau cenedlaethol 2012 yn darparu un pwynt cyfeirio ar gyfer busnesau ac awdurdodau gorfodi trwy ddod â thair prif Offeryn Statudol ynghyd ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd, fel eu bod yn un set o reoliadau. Mae'r rheoliadau cyfunol yn sicrhau parhad y darpariaethau gorfodi ar gyfer deddfwriaeth bresennol sy'n berthnasol yn uniongyrchol i ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd.

Mae rheoliadau 2012 yn nodi:

  • pa achosion o ddiffyg cydymffurfio sy’n droseddau ac yn destun cosbau
  • beth yw awdurdod cymwys

Polisi preifatrwydd ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd

 

Canllaw ar Ddeunyddiau Bioseiliedig mewn Cysylltiad â Bwyd 


Mae’r ASB wedi llunio canllaw i’r rhai sy’n bwriadu defnyddio deunyddiau bioseiliedig i ddatblygu deunyddiau mewn cysylltiad â bwyd newydd. Nod y canllaw yw helpu datblygwyr a gweithgynhyrchwyr nodi ac ystyried agweddau ar gydymffurfiaeth reoleiddiol a allai ddylanwadu ar eu dewis o ddeunyddiau, er mwyn diwallu anghenion cwsmeriaid am ddefnydd bwriadedig y cynnyrch dan sylw yn y pen draw.


Canllaw ar Ddeunyddiau Bioseiliedig mewn Cysylltiad â Bwyd