Asid ffolig
Gwybodaeth am gyfnerthu blawd ag asid ffolig a pham mae’n digwydd.
Cyfnerthu blawd ag asid ffolig
Yn y DU, mae blawd gwenith nad yw’n gyflawn yn cael ei gyfnerthu ar hyn o bryd â chalsiwm, haearn, niasin a thiamin, a hynny yn ôl y gyfraith. O dan y gofynion newydd, bydd blawd gwenith nad yw’n gyflawn hefyd yn cael ei gyfnerthu ag asid ffolig yn ôl y gyfraith o fis Rhagfyr 2026 ymlaen. Rydym yn disgwyl i rai cynhyrchion gynnwys blawd wedi’i gyfnerthu ag asid ffolig o hydref 2025.
Mae diffyg ffolad yn achosi diffygion tiwb niwral (NTDs) yn ystod beichiogrwydd. Gall NTDs achosi sawl cyflwr difrifol i fabanod yn y groth, gan gynnwys spina bifida, gan effeithio ar iechyd yn hirdymor. Yn y DU, amcangyfrifir, drwy gyfnerthu blawd gwenith nad yw’n flawd cyflawn ag asid ffolig, y bydd cyfraddau NTD yn lleihau tua 20%.
Bydd cyfnerthu blawd ag asid ffolig yn arwain hefyd at gynyddu lefelau bwyta asid ffolig a gwella statws ffolad ar draws y boblogaeth gyfan. Mae ffolad, gan gynnwys asid ffolig, yn chwarae rhan bwysig wrth ffurfio celloedd gwaed coch iach a chynnal iechyd yr ymennydd.
Mae gan y penderfyniad i gyfnerthu blawd ag asid ffolig hanes hir. Fe’i argymhellwyd gyntaf gan Bwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) y DU yn 2006 ar ôl adolygiad cynhwysfawr o’r dystiolaeth.
Mae defnyddio blawd gwenith fel cynnyrch ar gyfer cyfnerthu asid ffolig wedi’i fabwysiadu mewn mwy na 60 o wledydd ledled y byd (gan gynnwys Awstralia, Canada ac UDA), naill ai’n orfodol neu’n wirfoddol. Y brif fantais o gyfnerthu blawd yn hytrach na bwydydd eraill yw bod y rhan fwyaf o bobl yn bwyta blawd mewn rhyw ffurf neu’i gilydd.
Ffolad ac asid ffolig
Mae ffolad, a elwir hefyd yn fitamin B9, yn fitamin hanfodol sydd i’w gael yn naturiol mewn llawer o fwydydd. Mae hefyd ar gael mewn bwydydd ac atchwanegiadau cyfnerthedig, yn fwyaf cyffredin fel asid ffolig (y fersiwn artiffisial o ffolad).
Mae ffolad, gan gynnwys asid ffolig, yn chwarae rhan bwysig wrth ffurfio celloedd gwaed coch iach a chynnal iechyd yr ymennydd. Mae’n un o’r fitaminau pwysicaf yn ystod beichiogrwydd. Mae asid ffolig yn helpu i ddatblygu asgwrn cefn babi ac yn lleihau’r risg o NTDs, fel spina bifida.
Atchwanegiadau asid ffolig ar gyfer beichiogrwydd
Mae’r llywodraeth yn cynghori bod menywod sy’n feichiog neu sy’n ceisio mynd yn feichiog yn cymryd atchwanegiad asid ffolig o 400 microgram bob dydd cyn gynted ag y byddant yn dechrau ceisio cael babi (yn ddelfrydol am 3 mis cyn hynny) ac am o leiaf 12 wythnos gyntaf beichiogrwydd.
Er y bydd menywod beichiog, neu fenywod sy’n ceisio beichiogi, yn bwyta bwyd sydd wedi’i gyfnerthu ag asid ffolig, dylent barhau i gymryd atchwanegiadau asid ffolig. Bwriad cyfnerthu asid ffolig yw cefnogi, nid disodli, y cyngor cyfredol ar atchwanegiadau asid ffolig.
Cynhyrchion sy’n cynnwys blawd wedi’i gyfnerthu ag asid ffolig
Bydd blawd gwenith nad yw’n gyflawn yn cael ei gyfnerthu â 0.25 miligram fesul 100 gram o flawd.
Bydd cyfnerthu blawd gwenith nad yw’n gyflawn yn cyrraedd mwy o bobl, oherwydd bod 99% o gartrefi yn prynu bara a bod 76% o bobl yn bwyta bara gwyn. Mae tua dwy ran o dair o’r blawd a gynhyrchir yn y DU yn cael ei gynnwys mewn cynhyrchion bara, tra bod y gweddill yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o fwydydd fel bisgedi, cacennau, prydau parod a chawliau.
Bydd blawd gwenith nad yw’n gyflawn yn cael ei gyfnerthu ag asid ffolig, sy’n golygu y gall unigolion sydd methu bwyta cynhyrchion sydd wedi’u cyfnerthu ag asid ffolig, neu’n dewis peidio â’u bwyta, barhau i wneud hynny trwy ddewis cynhyrchion wedi’u gwneud o flawd nad yw wedi’i gyfnerthu. Mae hyn yn cynnwys blawd gwenith cyflawn, cynhyrchion heb glwten a mathau eraill o flawd fel soia neu flawd o rawn hynafol fel blawd gwenith yr Almaen (‘spelt’).
Labelu cynhyrchion sydd wedi’u cyfnerthu ag asid ffolig
Rhaid labelu fitaminau a mwynau ychwanegol yn rhestr gynhwysion y blawd. Rhaid datgan hyn hefyd pan ddefnyddir blawd wedi’i gyfnerthu fel cynhwysyn. Mae hyn yn golygu os yw cynnyrch yn cynnwys blawd sydd wedi’i gyfnerthu ag asid ffolig, bydd yn ymddangos yn y rhestr gynhwysion — er enghraifft: Blawd Gwenith (Blawd Gwenith, Calsiwm Carbonad, Niasin, Haearn, Asid Ffolig, Thiamin).
Ystyriaethau unigol
Yn y DU, mae bwyd wedi cael ei gyfnerthu ag asid ffolig yn wirfoddol ers tro, a bydd hefyd yn orfodol cyfnerthu’r bwydydd hyn sydd eisoes wedi’u cyfnerthu’n wirfoddol ag asid ffolig, fel amrywiaeth eang o rawnfwydydd brecwast. Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, nid yw ychwanegu asid ffolig at flawd yn gysylltiedig â phryderon iechyd.
Efallai y cynghorir rhai pobl sy’n cymryd meddyginiaeth benodol i fonitro faint o asid ffolig maen nhw’n ei gymryd neu osgoi atchwanegiadau asid ffolig oherwydd rhyngweithiadau posibl â’u meddyginiaeth. Dylai pobl yn y sefyllfa hon geisio cyngor gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi gwerthuso’r dystiolaeth sy’n ymwneud â gorsensitifrwydd i asid ffolig ac nid oes unrhyw adroddiadau o orsensitifrwydd i asid ffolig mewn bwyd.
Mwy o wybodaeth
Ffolad, asid ffolig ac atchwanegiadau yn ystod beichiogrwydd
Cymru
- GIG 111 Cymru – Canllaw Beichiogrwydd
- Bwyta’n Dda Tyfu’n Dda – atchwanegiadau fitamin pwysig: Eich beichiogrwydd a’r enedigaeth
Lloegr
- Vitamins and Supplements in Pregnancy: Vitamins and supplements in pregnancy - NHS
- Folic acid and pregnancy: Pregnancy, breastfeeding and fertility while taking folic acid - NHS
- Folic acid: vitamin that helps the body make healthy red blood cells - NHS
Gogledd Iwerddon
- Folic acid supplements important in pregnancy planning | HSC Public Health Agency
- Folic acid – one of life’s essentials | HSC Public Health Agency
Yr Alban
- Vitamins and minerals in pregnancy| Ready Steady Baby!
- Planning for pregnancy | NHS inform
- Folic acid | Vitamin B9 | Food Standards Scotland
Dechrau Iach – fitaminau beichiogrwydd am ddim i’r rhai sy’n gymwys: Getting vitamins – Get help to buy food and milk (Healthy Start)
Canllawiau i fusnesau
Tystiolaeth
Adroddiad COMA: Folic Acid and the Prevention of Disease
Adroddiad SACN: Folate and Disease Prevention
Adroddiad SACN: SACN Report to CMO on folic acid and colorectal cancer risk
SACN: Update on folic acid
FSS: Stochastic modelling
COT: Folic Acid – Statement on the Tolerable Upper Level (TUL) a Lay summary Folic Acid – Statement on the Tolerable Upper Level (TUL)
COT: Folic Acid Risk Assessment | Committee on Toxicity (food.gov.uk)
NDNS blood folate supplementary report
Deddfwriaeth
Datganiad i’r wasg ar gyfer deddfwriaeth a osodwyd yn Lloegr: Birth defects prevented by fortifying flour with folic acid - GOV.UK
Datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru: Ychwanegu asid ffolig at flawd i atal namau geni
Deddfwriaeth, memorandwm esboniadol ac asesiad effaith (Lloegr): Rheoliadau Bara a Blawd (Diwygio) (Lloegr) 2024
Deddfwriaeth (Gogledd Iwerddon): Rheoliadau Bara a Blawd (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2024
Deddfwriaeth (Yr Alban): Rheoliadau Diwygio Bara a Blawd (Yr Alban) 2024
Deddfwriaeth (Cymru): Rheoliadau Bara a Blawd (Cymru) 2025
Hanes diwygio
Published: 17 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Hydref 2025