Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

BPA mewn plastig

Beth yw Bisffenol A (BPA) mewn plastig a'r gwaith ymchwil a'r dystiolaeth sy'n cefnogi ein dealltwriaeth ohono.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Ionawr 2018

Mae Bisffenol A (BPA) yn gemegyn a ddefnyddir i wneud deunyddiau plastig fel cynwysyddion storio bwyd a photeli y gallwch eu hail lenwi. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i wneud ambell orchudd neu leinin diogelu ar gyfer caniau a thuniau bwyd a diod.

Gall ychydig bach iawn o'r cemegyn drosglwyddo o ddeunydd pecynnu i fwyd a diod. Fodd bynnag, nid yw'r lefelau o BPA a ganfyddir mewn bwyd yn cael ei ystyried i fod yn niweidiol.

Asesiadau diogelwch BPA

Mae nifer yn pryderu am BPA gan ei fod yn un o blith nifer fawr o sylweddau a allai ymyrryd â’n system hormonau. Mae asesiadau helaeth wedi'u cynnal ar BPA ac mae data newydd yn cael ei adolygu.

Mae'r asesiad diogelwch llawn diweddaraf wedi canfod nad yw dod i gysylltiad â BPA yn y deiet yn bryder iechyd i unrhyw grŵp oedran.

Rydym ni'n gytun nad yw BPA yn peri unrhyw risg i iechyd ar hyn o bryd ac mae'n ddiogel i'w ddefnyddio wrth gynhyrchu plastig. Byddwn yn parhau i ystyried unrhwy dystiolaeth newydd mewn perthynas â BPA.

ASB yn Esbonio

Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif faint o sylwedd cemegol y gall rhywun ei fwyta bob dydd drwy gydol ei oes heb achosi risg sylweddol i’w iechyd. Dyma beth a elwir yn lefel y gellir ei goddef yn ddyddiol (TDI) ar gyfer sylwedd cemegol. Mae gan BPA TDI dros dro. 

Ar hyn o bryd, rydym ni'n bwyta llai na'r TDI ar gyfer BPA o ffynonellau megis cynwysyddion bwyd. 

Gwaith ymchwil parhaus ar BPA

Mae Rhaglen Genedlaethol Tocsicoleg (NTP) yr Unol Daleithiau yn cynnal astudiaeth tymor hir ar BPA. Mae'n edrych ar sut mae dod i gysylltiad â BPA yn effeithio ar lygod mawr, cyn ac ar ôl rhoi genedigaeth. Bydd yr astudiaeth yn gallu dweud wrthym ni p'un a allai dod i gysylltiad â BPA gynyddu'r risg o ddatblygu canser mewn pobl.