Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

BPA mewn plastig

Beth yw bisffenol A (BPA) a’r ymchwil a’r dystiolaeth sy’n cefnogi ein dealltwriaeth o BPA.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 July 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 July 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cemegyn a ddefnyddir i wneud plastigau anhyblyg yw BPA, gan gynnwys cynwysyddion storio bwyd a photeli diodydd y gellir eu hail-lenwi. Caiff ei ddefnyddio hefyd i wneud haenau a leininau ar gyfer caniau bwyd a diod. Ni ellir ei ddefnyddio ar eitemau y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan fabanod a phlant ifanc fel poteli a biceri bwydo babanod oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol.

Lle caniateir ei ddefnyddio, gall ychydig bach iawn o’r cemegyn drosglwyddo o rai deunydd pecynnu i fwyd a diod. Fodd bynnag, nid yw lefel y BPA a ganfuwyd mewn bwyd yn y DU hyd yn hyn yn cael ei ystyried yn niweidiol ar hyn o bryd.

Asesiadau diogelwch BPA

Mae rhai pobl yn poeni am BPA oherwydd ei fod yn yn un o blith nifer mawr o sylweddau a allai ymyrryd â’n systemau hormonau o bosib (aflonyddwyr endocrin). Mae asesiadau helaeth wedi’u cynnal ar BPA yn y gorffennol ac mae data newydd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd yn gosod cyfyngiadau ar BPA, ac mae’n ofynnol i weithgynhyrchwyr bodloni’r cyfyngiadau hyn. O dan yr egwyddor ragofalus, mae amodau llymach wedi’u pennu sy’n nodi na ddylai BPA drosglwyddo i fwydydd o eitemau a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc.

Adolygodd y Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a'r Amgylchedd (COT) y sail wyddonol a’r goblygiadau ar gyfer rheoli risg y lefel newydd y gellir ei goddef yn ddyddiol (TDI) a bennwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ar gyfer BPA, a’r asesiad dilynol gan Sefydliad Ffederal yr Almaen ar gyfer Asesu Risg (BfR). Cyhoeddodd y COT Ddatganiad Sefyllfa wedi’i ddiweddaru yn cytuno i fabwysiadu’r TDI a bennwyd yn wreiddiol gan y BfR.

Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi datganiad atodol maes o law, a fydd yn rhoi manylion ei drafodaethau ar farn EFS ac asesiad BfR, ei werthusiad o’r sylfaen dystiolaeth, a’r trafodaethau a arweiniodd at fabwysiadu’r TDI sy’n deillio o’r BfR. Bydd yr ASB yn ystyried y camau nesaf, a fydd yn debygol o gynnwys diweddaru’r cyfyngiadau presennol mewn perthynas â BPA unwaith y bydd y gwerthusiad wedi’i gwblhau.

ASB yn Esbonio
Mae gwyddonwyr yn amcangyfrif faint o sylwedd cemegol y gall rhywun ei fwyta bob dydd drwy gydol ei oes heb achosi risg sylweddol i’w iechyd. Dyma beth a elwir yn lefel y gellir ei goddef yn ddyddiol (TDI) ar gyfer sylwedd cemegol. Yn y DU, mae’r COT wedi cytuno i fabwysiadu’r TDI o 0.2 ug/kg bw (microgramau fesul cilogram o bwysau’r corff) y dydd.

Mwy o wybodaeth

Gweler yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor ar Wenwyndra (COT) ar gyfer Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd.