Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canabidiol (CBD)

Cyngor i ddefnyddwyr ar echdyniadau canabidiol (CBD)

Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mawrth 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae CBD yn un o lawer o gemegion a elwir yn canabinoidiau. Mae i'w gael o fewn cywarch (hemp) a chanabis.

Mae echdyniadau (extracts) CBD yn cael ei gwerthu fel bwyd, yn aml fel atchwanegiad bwyd yn y Deyrnas Unedig (DU). Maent ar gael yn eang mewn siopau, caffis ac ar-lein.

Mae CBD yn cael ei werthu fel bwyd, neu fel atchwanegiad bwyd, yn cynnwys:

  • olewau 
  • diferion neu dinturiau 
  • capsiwlau gel 
  • losin a melysion 
  • bara a chynhyrchion becws eraill 
  • diodydd

Er bod CBD yn gemegyn a geir yn naturiol yn y planhigyn canabis, dim ond yn ddiweddar iawn y cafodd ei echdynnu a'i werthu fel cynnyrch ar wahân. Mae dal llawer nad ydym ni’n ei wybod am echdyniadau CBD, ac ychydig iawn o ymchwil sydd wedi bod ar yr effeithiau y gall ei hachosi. Byddwn ni’n cael rhagor o wybodaeth wrth i fusnesau wneud cais am awdurdodiad bwyd newydd ar gyfer eu cynhyrchion CBD.

Cyngor i grwpiau agored i niwed

Yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gennym rydym ni’n cynghori defnyddwyr i feddwl yn ofalus cyn cymryd unrhyw gynhyrchion CBD. Fel mesur rhagofalus, nid ydym ni’n argymell CBD ar gyfer pobl mewn grwpiau agored i niwed, oni bai eu bod o dan gyfarwyddyd meddygol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • menywod sy’n feichiog neu sy'n bwydo ar y fron
  • pobl sy’n cymryd unrhyw feddyginiaeth. 

Os oes gennych chi unrhyw bryderon iechyd, siaradwch â gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.

Cyngor i oedolion iach

Mae rhai astudiaethau gwyddonol yn awgrymu y gall CBD effeithio ar yr afu/iau os caiff ei gymryd ar ddos uwch, ond ychydig iawn o astudiaethau sydd wedi’u cynnal sy'n ymwneud â lefelau mewn bwyd. Fel mesur rhagofalus, rydym ni’n argymell na ddylai oedolion iach gymryd mwy na 70mg y dydd, oni bai bod meddyg yn cytuno ar hynny. Mae hyn tua 28 diferyn o CBD 5%.

Nid yw hyn yn golygu bod y lefelau hyn yn bendant yn ddiogel, ond bod y dystiolaeth sydd gennym yn awgrymu y gallai lefelau uwch na hyn achosi effeithiau niweidiol ar iechyd.

Ymchwil

Mae'r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynnyrch Defnyddwyr a'r Amgylchedd (COT) wedi cyhoeddi'r adroddiad gwyddonol manwl diweddaraf ar CBD. Rydym ni’n adolygu gwybodaeth newydd am ddiogelwch CBD wrth iddi ddod i’r amlwg.

Mae ein cyngor yn seiliedig ar yr wybodaeth wyddonol ddiweddaraf sydd ar gael i ni ac mae'r lefelau a nodir ar gyfer oedolyn cyffredin sy'n pwyso 70kg. Rydym ni am gefnogi dewis defnyddwyr ond mae'n rhaid i ni gydbwyso hyn ochr yn ochr â diogelu iechyd y cyhoedd.