Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Diogelwch bwyd yn ystod toriad trydan: cyngor i ddefnyddwyr

Sut i osgoi gwenwyn bwyd a gwastraff bwyd yn ystod toriad trydan gartref

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Medi 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Medi 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Os bydd toriad trydan yn digwydd yn eich cartref ac nad oes gennych drydan, mae’n bwysig eich bod yn parhau i storio a pharatoi bwyd yn ddiogel.

Os bydd y toriad trydan yn para llai na 4 awr, mae’n annhebygol y bydd hyn yn effeithio ar ddiogelwch bwyd mewn man storio oer neu rewedig. 

Sut i storio bwyd yn ddiogel ar ôl toriad trydan

Os bydd y toriad trydan yn para mwy na 4 awr, dyma rai camau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod eich bwyd yn ddiogel.

Peidio ag agor drysau oergelloedd a rhewgelloedd yn ddiangen 

Dylai eich oergell aros yn oer am hyd at 4 awr. Dylai’r bwyd yn eich rhewgell barhau i fod wedi’i rewi am hyd at 48 awr mewn rhewgell lawn (neu 24 awr os yw’n hanner llawn), ond amcangyfrif yw hwn. Bydd tymereddau oergelloedd a rhewgelloedd yn amrywio, gan ddibynnu ar y brand a’r model. Gall tymheredd amgylchol yr ystafell achosi i dymheredd eich oergell/rhewgell gynyddu os cânt eu hagor yn aml. 

Defnyddio thermomedr oergell er mwyn cadarnhau a yw’r oergell wedi mynd yn rhy gynnes

Mewn amgylchiadau arferol, rydym yn argymell sicrhau bod eich oergell wedi’i osod ar 5ºC neu’n is. Fodd bynnag, yn ystod toriad trydan, gellir storio bwyd mewn oergelloedd o dan 8°C. Os bydd y tymheredd yn codi i 8°C ac uwch, dylech fwyta unrhyw fwyd sydd angen ei gadw yn yr oergell fel arfer, a hynny o fewn 4 awr yn gyntaf.  Darllenwch ein cyngor ar oeri am fwy o wybodaeth.

Storio bwyd y tu allan (os bydd hi’n oer) 

Os bydd y tywydd yn oer (o dan 8°C), gallwch storio bwyd y tu allan. Cofiwch storio bwyd mewn amodau sych a glân, allan o olau’r haul, a’i ddiogelu rhag anifeiliaid. Dylech ddefnyddio blwch wedi’i selio i atal halogiad ac atal unrhyw beth rhag ymyrryd â’r bwyd. 

Cadwch fwydydd sydd wedi’u storio yn y cwpwrdd ar gyfer rhywbryd eto

Bydd bwyd sydd fel arfer yn cael ei storio ar dymheredd yr ystafell yn parhau i fod yn ddiogel i’w fwyta. Bydd rhai bwydydd fel bwydydd tun yn ddiogel i’w bwyta heb eu cynhesu. Darllenwch ein gwiriwr ffeithiau wrth fwyta gartref am fwy o gyngor ar fwyta bwydydd tun. Dylech ystyried bwyta’r bwydydd hyn dim ond ar ôl i chi fwyta bwydydd sydd angen eu storio yn yr oergell ac a allai fynd yn ddrwg

Sut i baratoi a choginio bwyd yn ystod toriad trydan

Coginio

Ni fydd poptai trydan na phoptai anwytho ‘induction’ yn gweithio yn ystod toriad trydan, ond gall poptai nwy barhau i weithio. Gallwch hefyd goginio bwyd a chynhesu dŵr at ddibenion paratoi bwyd a glanhau gan ddefnyddio stôf wersylla, barbeciw, neu stofiau nwy potel, os yw’r rhain ar gael.  

Dilynwch gyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr ar ddefnyddio’r offer hyn yn ddiogel, gan fod y rhan fwyaf wedi’u cynllunio i’w defnyddio yn yr awyr agored yn unig. 

Sylwch y gall coginio ’r offer hyn gymryd mwy o amser na choginio trwy ddulliau confensiynol, felly mae angen i chi gymryd gofal ychwanegol bod bwyd yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio drwyddo.  

Mae ein tudalen we ar ddiogelwch bwyd barbeciw yn cynnwys ambell air o gyngor ar goginio bwyd yn ddiogel ar farbeciw neu stôf wersylla.

Glanhau ac atal croeshalogi

Mae’n bwysig eich bod yn coginio, trin a pharatoi eich bwyd yn gywir. Mae hyn yn cynnwys golchi eich dwylo cyn cyffwrdd â bwyd a glanhau arwynebau gwaith ac offer cegin. Gallwch ddefnyddio diheintydd dwylo sy’n cynnwys alcohol i lanhau eich dwylo neu chwistrellau neu weips gwrthfacterol ar gyfer arwynebau ac offer os effeithir ar y  cyflenwad dŵr. 

Dylech barhau i gadw bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta ar wahân i atal croeshalogi

Bwyta bwydydd wedi’u hoeri yn gyntaf er mwyn lleihau gwastraff bwyd

Mae angen storio bwydydd y mae’n rhaid eu hoeri o dan 8°C i’w cadw’n ddiogel.

Gall y rhain gynnwys:

  • bwydydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’, fel cig, dofednod, pysgod, a bwydydd parod wedi’u pecynnu ymlaen llaw sy’n ‘barod i’w bwyta’ fel brechdanau, saladau, a chigoedd deli
  • cynhyrchion sy’n nodi ‘keep refrigerated’ ar y label 
  • bwyd dros ben neu brydau rydych wedi’u coginio ac na fyddwch yn eu gweini ar unwaith 

Os yw tymheredd yr oergell wedi cyrraedd 8°C neu uwch, dylech daflu’r bwydydd hyn ar ôl 4 awr (oni bai bod y trydan yn cael ei adfer o fewn 4 awr) gan ei bod yn bosib na fyddant yn ddiogel i’w bwyta.

Er mwyn cadw bwyd yn ddiogel a lleihau gwastraff bwyd, defnyddiwch fwydydd yn y drefn ganlynol:

  1. bwyd sydd angen ei gadw yn yr oergell
  2. bwyd rhewedig sydd wedi dadmer nad oes angen ei goginio
  3. bwyd sy’n cael ei storio ar dymheredd ystafell a allai fynd yn ddrwg
  4. bwyd tun, bwyd potel a bwyd sych sy’n cael eu storio ar dymheredd yr ystafell

Gellir rhannu unrhyw fwydydd sydd angen eu cadw yn yr oergell nad ydych wedi cael amser i’w bwyta â’ch cymdogion, os ydynt wedi’u storio’n gywir.

Diogelu pobl sy’n agored i salwch

Mae rhai pobl mewn mwy o berygl o fynd yn sâl oherwydd gwenwyn bwyd. Gall y rhain gynnwys plant ifanc, menywod beichiog, pobl hŷn, a phobl â chyflwr iechyd isorweddol. Yn achos y bobl hyn, dylech gymryd gofal ychwanegol i sicrhau diogelwch bwyd, er enghraifft: 

  • golchwch ddwylo, arwynebau ac offer yn aml er mwyn atal croeshalogi 
  • byddwch yn ofalus gyda bwydydd risg uchel fel cig deli a physgod mwg 
  • gwnewch yn siŵr bod y bwyd yn stemio’n boeth cyn ei fwyta 
  • peidiwch â bwyta bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu sydd wedi mynd yn ddrwg, a chofiwch wirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’

Paratoi fformiwla babanod ar ôl toriad trydan

Er mwyn paratoi fformiwla babanod yn ddiogel, bydd angen i chi allu berwi dŵr. Gweler canllawiau’r GIG  ar baratoi fformiwla babanod yn ddiogel. Os na allwch ferwi dŵr, gallwch ddefnyddio fformiwla fabanod barod i’w defnyddio.

Pwysig

Mae’r cyngor hwn ar gyfer defnyddwyr domestig. Os ydych yn fusnes bwyd, dylech gysylltu â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol am gyngor.