Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwiriwr ffeithiau wrth fwyta gartref

Cyngor ar rai cwestiynau a chamsyniadau cyffredin am ddiogelwch bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mehefin 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mehefin 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Dyma ateb rhai o’r cwestiynau diogelwch bwyd mwyaf cyffredin sy’n codi am wahanol fathau o fwyd. 

ASB yn Esbonio
Mae yna nifer o gamsyniadau o ran pa mor hir y gallwch chi storio bwyd, sut i wybod a yw bwyd wedi mynd yn ddrwg, a sut i gadw’ch bwyd yn ddiogel gartref. Trwy restru’r cwestiynau mwyaf cyffredin, gobeithiwn y bydd hyn yn eich helpu i gadw’n ddiogel ac i osgoi taflu bwyd sy’n berffaith iawn i’w fwyta yn ddiangen.

Llaeth

A yw’r prawf arogli’n gweithio ar gyfer llaeth a chynnyrch llaeth? 

Nid yw’n ddiogel defnyddio’r prawf arogli ar gyfer unrhyw fwyd sydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni fydd y prawf arogli’n gweithio oherwydd nad oes modd arogli’r bygiau sy’n achosi gwenwyn bwyd.

Efallai y bydd dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar laeth a chynhyrchion llaeth eraill fel iogwrt. Y gweithgynhyrchwr sy’n penderfynu pa ddull sydd orau ar gyfer y bwyd y mae’n ei gynhyrchu. Bydd y gweithgynhyrchwr yn ystyried y ffordd y caiff y bwyd ei brosesu wrth benderfynu a oes angen dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ddyddiad ‘ar ei orau cyn’.

Os oes dyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar fwyd, gellir defnyddio’r prawf arogli. Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd, nid diogelwch. Gallwch arogli bwyd sydd â dyddiad ‘ar ei orau cyn’ i weld a yw wedi difetha neu suro. Gallwch hefyd ddefnyddio cliwiau gweledol, fel edrych am lwydni neu unrhyw newidiadau i wead y bwyd. Gellir bwyta bwyd â dyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar ôl y dyddiad ar y pecyn, ond efallai na fydd yn blasu cystal ag y byddai cyn y dyddiad hwnnw.

Dylid edrych ar y dyddiadau storio, y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a’r dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ wrth brynu bwyd er mwyn helpu i sicrhau ei fod yn ddiogel ac i osgoi gwastraff.

I gael mwy o wybodaeth am y prawf arogli a marciau dyddiad, ewch i’n tudalen ar ddyddiadau ‘ar ei orau cyn’ a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’.

Reis

Am ba hyd y gallwch chi fwyta reis yn ddiogel ar ôl ei goginio? 

Gellir bwyta reis yn oer os caiff ei oeri yn gyflym. Rhowch y reis yn yr oergell a’i fwyta o fewn 24 awr. 

Gall bwyta reis sydd wedi’i ailgynhesu achosi gwenwyn bwyd. Nid ailgynhesu reis sy’n achosi’r broblem, ond y ffordd y mae’r reis wedi’i storio cyn ei ailgynhesu.
 
Cadwch reis yn yr oergell am ddim mwy na diwrnod cyn ei ailgynhesu. Pan fyddwch chi’n ailgynhesu unrhyw reis, gwnewch yn siŵr ei fod yn stemio’n boeth yr holl ffordd drwyddo.
  
Gall reis heb ei goginio gynnwys sborau o facteriwm o’r enw Bacillus cereus. Gall y bacteria hwn achosi gwenwyn bwyd. Gall sborau Bacillus cereus oroesi wrth eu coginio. Po hiraf y caiff reis wedi’i goginio ei adael ar dymheredd ystafell, y mwyaf tebygol yw y bydd y bacteria neu’r tocsinau’n gwneud y reis yn anniogel i’w fwyta.  

Ydw i’n gallu ailgynhesu reis?

Ni ddylech byth ailgynhesu reis fwy nag unwaith. A phan fyddwch yn ailgynhesu reis, sicrhewch ei fod yn stemio’n boeth drwyddo. 

Os oes gennych reis dros ben, dylech ei oeri cyn gynted â phosib, ac yn ddelfrydol, o fewn awr. Gall ei rannu’n ddognau llai helpu gyda hyn. Peidiwch â gadael reis i oeri yn y sosban neu’r sosban stemio. 

Ydw i’n gallu ailgynhesu reis tecawê?

Ni ddylech byth ailgynhesu reis fwy nag unwaith. Dylech gymryd gofal ychwanegol gyda reis tecawê. Yn ddelfrydol, dylid bwyta reis tecawê yn fuan ar ôl ei brynu.   

Mae hyn oherwydd bod rhai busnesau bwyd yn coginio eu reis ymlaen llaw ac yna’n ei ail-gynhesu cyn ei roi i gwsmeriaid. O ran pa mor ddiogel yw ailgynhesu reis sydd wedi’i goginio, mae hyn yn dibynnu ar sut y cafodd ei storio a’i drin ac a gafodd ei goginio’n llwyr yn y lle cyntaf. Mae bob amser yn werth gofyn i’r busnes tecawê sut mae’n trin y reis.

Ydw i’n gallu rhewi reis?

Gallwch chi rewi reis, ond dylech chi oeri’r reis yn gyflym cyn ei roi yn y rhewgell. I wneud hyn, gallech chi roi’r cynhwysydd reis mewn dŵr oer, yna’i orchuddio a’i storio yn y rhewgell. Trwy roi reis yn y rhewgell o fewn awr i’w goginio, byddwch chi’n atal bacteria rhag lluosi a chynhyrchu tocsinau. Cyn bwyta, dylech ddadmer eich reis yn yr oergell ac yna’i ailgynhesu nes ei fod yn stemio’n boeth cyn ei fwyta ar unwaith.   

Wyau

Ydy’r prawf arnofio’n gweithio?

Dydyn ni ddim yn awgrymu defnyddio’r prawf arnofio i benderfynu a yw wyau’n ddiogel ai peidio, gan fod y prawf yn asesu pa mor hen yw’r wyau, nid eu diogelwch. Ni all y prawf ddangos pa facteria sydd wedi bod yn tyfu y tu mewn i’r wyau. Po hynaf yr wy, y mwyaf o aer sydd y tu mewn iddo, a dyna sy’n gwneud iddo arnofio. 

A yw wyau’n ddiogel i’w bwyta ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’?

Mae wyau’n ddiogel i’w bwyta am ddeuddydd ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’ os cânt eu coginio’n drylwyr. Dylai’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ fod wedi’i stampio ar yr wy. Dylech sicrhau bod gwyn a melyn yr wy wedi’u coginio’n drylwyr. Gallwch chi ddefnyddio wyau ddeuddydd ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’ wrth goginio neu wrth bobi.   

A yw wyau amrwd yn ddiogel i’w bwyta?

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mesurau rheoli diogelwch bwyd yn niwydiant wyau ieir y Deyrnas Unedig wedi gwella. Felly mae babanod, plant, menywod beichiog a phobl hŷn nawr yn gallu bwyta wyau ieir amrwd neu wyau wedi’u coginio’n ysgafn, neu fwydydd sy’n cynnwys yr wyau hyn, os oes ganddynt farc ‘British Lion’ neu os ydynt yn cael eu cynhyrchu o dan gynllun sicrwydd wyau ‘Laid in Britain’.  
 
Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol i unigolion sydd ag imiwnedd gwael iawn ac sydd angen deiet a oruchwylir yn feddygol gan weithwyr iechyd.  

Mae’r cyngor hwn yn dal i fod yn berthnasol yn ystod brigiadau o Ffliw Adar. Mae Ffliw Adar yn peri risg diogelwch isel iawn i ddefnyddwyr ac nid yw’n newid ein cyngor ar fwyta wyau. Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) gyngor pellach ar Ffliw Adar.

A ddylwn i storio wyau yn yr oergell?

Dylech storio wyau mewn lle oer, sych.  Yn ddelfrydol, dylid storio wyau yn yr oergell. Dylid glanhau’r ardal storio yn rheolaidd. Dilynwch gyngor y cynhyrchwr ac osgoi storio wyau lle byddent yn agored i newidiadau eithafol mewn tymheredd. Gall newidiadau tymheredd arwain at anwedd (condensation) ar yr wyneb, sy’n achosi i fwy a mwy o Salmonela dreiddio o du allan y plisgyn i mewn i’r wy. 

Ydw i’n gallu rhewi wyau?

Gellir rhewi wyau a’u defnyddio’n ddiogel yn ddiweddarach. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cracio’r wyau i gynhwysydd y gellir ei selio ac yna eu rhewi. Gallwch wahanu’r melynwy oddi wrth y gwyn yn gyntaf os yw’n well gennych, ac yna eu rhoi mewn cynwysyddion ar wahân. 
  
Labelwch y cynwysyddion fel y gallwch chi eu hadnabod yn hawdd pan fyddwch chi angen eu defnyddio. Gall hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer pobi. Gallwch chi hefyd gracio’r wy i gynhwysydd y gellir ei selio, a churo’r wy cyn rhewi. Mae hyn yn ffordd hawdd o wneud wyau wedi’u sgramblo neu omled.  

Ffrwythau

Ydy hi’n iawn i fwyta bananas brown?

Gellir bwyta ffrwythau sydd ychydig yn rhy aeddfed, fel bananas brown, afalau sydd wedi crychu a mefus ychydig yn feddal. Ond peidiwch â bwyta’r rhain os oes llwydni arnyn nhw. Mae ffrwythau sydd wedi aeddfedu gormod yn wych ar gyfer coginio, pobi a gwneud smwddis. 

Oes angen i mi olchi ffrwythau?

Cofiwch olchi ffrwythau a llysiau â dŵr cyn eu bwyta. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn lân ac y gellir cael gwared ar facteria niweidiol o’r tu allan. Dylech eu golchi o dan ddŵr tap, neu mewn powlen o ddŵr ffres, gan rwbio eu croen o dan y dŵr. Gallwch chi ddechrau gyda’r eitemau lleiaf budr yn gyntaf a rhoi rins terfynol i bob un ohonyn nhw.

Ydw i’n dal i allu bwyta bwyd os ydw i’n tynnu’r darn sydd wedi llwydo?

Ni ddylid bwyta bwyd sy’n amlwg wedi pydru neu’n cynnwys llwydni. Mae hyn oherwydd risgiau posib o’r llwydni. Mae’r cyngor hwn yn arbennig o bwysig i bobl mewn grwpiau sy’n agored i niwed sy’n cynnwys plant, pobl hŷn, menywod beichiog a’r rheiny sydd â system imiwnedd gwannach.   

Er ei bod yn bosib y gallai tynnu’r llwydni ynghyd â darn sylweddol o’r cynnyrch sydd o’i amgylch gael gwared ar unrhyw docsinau nad oes modd eu gweld, nid oes unrhyw sicrwydd y byddai gwneud hynny’n cael gwared arnynt i gyd.

Llysiau

Ydych chi’n gallu bwyta tatws pan fyddan nhw wedi troi’n wyrdd ac yn dechrau egino?

Os yw tatws wedi dechrau egino, tynnwch y darnau hynny cyn eu defnyddio. Cofiwch dorri unrhyw ddarnau gwyrdd neu ddarnau sydd wedi pydru i ffwrdd cyn eu defnyddio.  

Gall darnau gwyrdd ar datws gynnwys lefelau uchel o docsinau naturiol o’r enw glycoalcaloidau. Mae glycoalcaloidau i’w cael fel arfer mewn tatws ar lefelau isel, ond gallant fod yn uwch mewn: 

  • rhannau gwyrdd 
  • rhannau wedi’u difrodi 
  • rhannau sy’n dechrau egino 

Gall lefelau uchel o glycoalcaloidau gynhyrfu’r system dreulio ac achosi symptomau fel poen yn yr abdomen, chwydu a dolur rhydd. Fodd bynnag, mae gwenwyn glycoalcaloid yn anghyffredin iawn, er bod llawer iawn o datws yn cael eu bwyta mewn sawl gwlad. 

Er mwyn osgoi cynhyrchu lefelau uchel o glycoalcaloidau mewn tatws, storiwch nhw mewn lle tywyll, oer a sych. 

Ydw i’n gallu rhewi tatws?

Gallwch chi rewi tatws sydd wedi’u coginio neu rai sydd wedi’u berwi ymlaen llaw am 5 munud. Gallwch chi rewi tatws sydd dros ben o bryd hefyd. Gallwch rostio tatws wedi’u berwi yn syth o’r rhewgell, ond cofiwch wneud yn siŵr eu bod yn stemio’n boeth. Rhowch nhw yn y popty gydag ychydig o olew i’w crisbio. 

Ydw i’n gallu storio tatws yn yr oergell?

Storiwch datws amrwd, heb eu plicio mewn lle oer, tywyll, fel cwpwrdd. Peidiwch â’u storio yn yr oergell. Gall tatws sy’n cael eu storio yn yr oergell ffurfio mwy o siwgr, a all olygu lefelau uwch o acrylamid pan gaiff y bwyd ei goginio, ei rostio a’i ffrio. 

Pa mor hir ydw i’n gallu bwyta llysiau sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’?

Gall llysiau y tu hwnt i’w dyddiad ‘ar ei orau cyn’ fod wedi dechrau crychu neu droi’n feddal, ond maent yn ddiogel i’w bwyta cyn belled â’u bod heb bydru. Gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw wedi pydru nac yn cynnwys unrhyw lwydni cyn eu bwyta.  

Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd ac nid diogelwch. Bydd bwyd yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad hwn, ond efallai na fydd ar ei orau. Ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’, mae’r cyfnod y mae’n dderbyniol bwyta llysiau yn dibynnu ar y cynnyrch a’r cyfarwyddiadau storio.   

Mae rhestr storio bwyd WRAP yn cynnig cyngor ar gyfer gwahanol fwydydd ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’.   

A yw ffa coch (kidney beans) amrwd yn wenwynig?

Mae ffa tun o’r archfarchnad yn ddiogel i'w bwyta gan eu bod wedi cael eu socian a’u berwi ymlaen llaw i ladd unrhyw docsinau yn y bwyd.  

Gall ffa amrwd (heb eu coginio), yn enwedig ffa coch, fod yn beryglus. Mae hyn oherwydd eu bod yn naturiol yn cynnwys lectin a all gynhyrchu effeithiau gwenwynig. Ni ddylech goginio ffa coch amrwd yn araf gan nad yw’n dinistrio’r tocsinau a gallai gynyddu ei wenwyndra.

Cig

A yw’n ddiogel ailgynhesu cig yn y microdon?

Gallwch ailgynhesu cig mewn microdon unwaith. Gwnewch yn siŵr bod y cig yn stemio’n boeth drwyddo cyn ei fwyta. Y peth gorau yw defnyddio darnau bach o gig, gan fod darnau mawr yn gallu sychu mewn rhai mannau heb gael eu cynhesu’n drylwyr mewn mannau eraill.
  
Mae’n syniad da troi bwyd yn aml wrth iddo ailgynhesu. Wrth roi bwyd mewn microdon, gall fod yn boeth iawn ar yr ochrau a dal i fod yn oer yn y canol. Bydd troi’r bwyd yn helpu i atal hyn.  

Os ydych chi’n ailgynhesu bwyd mewn microdon, dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ar y deunydd pecynnu, gan gynnwys troi bwyd a gadael iddo oeri. Mae troi bwyd a gadael iddo sefyll yn rhan o’r broses goginio ac ailgynhesu mewn microdon. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod bwyd yr un tymheredd yr holl ffordd drwyddo. 

Ydw i’n gallu ailgynhesu cig fwy nag unwaith?

Dim ond unwaith y dylech chi ailgynhesu cig sydd wedi’i goginio a’i rewi’n flaenorol. Fodd bynnag, gallwch chi goginio cig wedi’i ddadmer yn ddiogel mewn pryd newydd a rhewi’r pryd hwnnw i’w defnyddio rhywbryd eto. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio’ch cyw iâr wedi’i rewi mewn cyrri cyw iâr, ac yna ei rewi i’w ailgynhesu a’i fwyta rhywbryd eto.

Bwyd tun

A yw bwyd yn ddiogel os oes tolc (dent) ar y tun?

Bydd bwyd yn dal i fod yn iawn i’w fwyta os nad yw’r tolc ar y tun yn ddwfn ac nad oes unrhyw arwyddion amlwg eraill bod y tun wedi’i ddifrodi. 
   
Fodd bynnag, os yw’r tolc yn ddwfn, gall y tun fod â thwll, hollt neu doriad cudd yn y sêl. Gallai hyn arwain at dun nad yw bellach yn ddibynadwy. Os yw hyn yn digwydd, ni ddylech fwyta’r bwyd y tu mewn i’r tun. Os yw’r tolc wedi peri i’r tun rydu, ni ddylech chi fwyta’r bwyd y tu mewn chwaith. 

Dylech osgoi bwyta bwyd mewn tun sy’n amlwg wedi chwyddo. Os yw’r bwyd yn tasgu allan o’r tun wrth ei agor, gall hyn fod o ganlyniad i nwy yn cronni yn y bwyd. Gallai hyn fod o ganlyniad i bresenoldeb a thwf micro-organebau. Gall y micro-organebau hyn ddifetha’r bwyd a gwneud yn bwyd yn anniogel i’w fwyta. Os ydych chi wedi prynu tuniau sy’n amlwg wedi chwyddo, dylech eu dychwelyd i’r siop.   

Pa mor hir y gellir bwyta bwyd tun ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’?

Mae faint o amser y mae bwyd tun yn dderbyniol i’w fwyta ar ôl y dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn dibynnu ar y cynnyrch, yr amodau storio a’r brand.   

Dilynwch gyfarwyddiadau’r cynhyrchwr ar storio’r bwyd ar ôl ei agor. Mae hyn fel arfer yn nodi ble i storio cynhyrchion ac am ba hyd. Gall gwahanol frandiau o’r un cynhyrchion ddefnyddio gwahanol brosesau cynhyrchu. Gall hyn effeithio ar eu cyfansoddiad a pha mor gyflym y bydd y bwyd yn mynd yn ddrwg.  

Allwch chi fwyta bwyd tun yn oer?

Ni fydd y rhan fwyaf o fwydydd tun y bwriedir eu coginio cyn eu bwyta yn peri risg diogelwch os cânt eu bwyta’n oer. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar y cynnyrch. Cofiwch ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchwr bob tro cyn bwyta.