Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr

Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr – rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref o dan y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026

Rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Os ydych chi’n lladd anifeiliaid gartref, ystyrir bod unrhyw rannau o’r carcas nad ydych chi’n eu bwyta yn sgil-gynhyrchion anifeiliaid o dan y Rheoliad ABP, a rhaid eu trin yn unol â hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid.

Mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn gyrff cyfan, yn rhannau o anifail, yn gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu’n gynhyrchion eraill o anifail nad yw’n fwriad iddynt gael eu bwyta gan bobl.

Mae deunydd yn troi’n sgil-gynnyrch anifeiliaid pan fydd naill ai’n anaddas i’w fwyta gan bobl, neu pan gymerir penderfyniad nad yw’r deunydd wedi’i fwriadu i’w fwyta, hyd yn oed os yw’n addas i’w fwyta. Ar ôl ei ddosbarthu’n sgil-gynnyrch anifeiliaid, ni ellir ei ddefnyddio’n ddiweddarach fel bwyd.

Mae’r Rheoliad ABP yn gosod sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn 3 chategori yn seiliedig ar risg. (footnote 1) Bydd gwastraff sy’n cronni yn sgil lladd gartref, gan gynnwys crwyn wedi’u trin a chroen, carnau, plu, gwlân, cyrn a gwallt, yn dod o dan gategori 3 os nad yw’r deunyddiau hynny’n dangos arwyddion o glefyd y gellir ei drosglwyddo drwy’r deunydd hwnnw i bobl neu anifeiliaid. (footnote 2) Mae gwastraff arall sy’n cronni yn sgil lladd gartref yn dod o dan gategori 1 er enghraifft, os yw’n cynnwys deunydd risg penodedig (SRM), neu gategori 2. Mae’r categorïau hyn yn pennu sut y mae’n rhaid trin a chael gwared ar ddeunydd. Cyfeiriwch at y Rheoliad ABP am ragor o wybodaeth am gael gwared ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Rhaid cael gwared ar bob sgil-gynnyrch anifeiliaid yn unol â’r Rheoliad ABP. Fel arfer, mae hyn yn golygu anfon y deunydd gwastraff i gyfleusterau cymeradwy neu gofrestredig i’w rendro neu ei losgi. Mae rhestr o safleoedd cymeradwy ar gael ar y dudalen Ffatrïoedd gweithredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid: safleoedd cymeradwy. Gall yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) neu’ch awdurdod lleol (neu, mewn rhai achosion, adran Iechyd yr Amgylchedd) gynghori ar opsiynau gwaredu.

Yr awdurdod lleol perthnasol ar gyfer yr ardal lle mae’r fferm wedi’i lleoli sy’n gyfrifol am orfodi’r gofynion o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar ffermydd. Mae gan swyddogion awdurdodedig bwerau i fynd i mewn i safleoedd a’u harolygu, yn ogystal â chyhoeddi hysbysiadau lle bo angen. Gall y rhain gynnwys, er enghraifft:

  • mynnu bod sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliadol yn cael eu gwaredu
  • mynnu bod y safle’n cael ei lanhau a’i ddiheintio, gan gynnwys nodi’r dull lle bo’n berthnasol
  • gwahardd symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliadol i’r safle neu oddi yno

Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar gategoreiddio, trin a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Os ydych chi yng Nghymru, ewch i dudalen Llywodraeth Cymru ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid, ac os ydych chi yn Lloegr, gweler tudalen GOV.UK ynghylch categorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu.