Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr

Lladd da byw gartref – crynodeb

Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ionawr 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau

Gogledd Iwerddon

Mae canllawiau penodol ar ladd da byw gartref ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae’r rhain yn rhoi gwybodaeth am y gyfraith yn y wlad hon.

Cysylltwch â swyddfeydd rhanbarthol Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) i gael gwybodaeth am:

Northern Ireland

Hanes adolygu

Rhif yr adolygiad
Dyddiad
Diben yr adolygiad 
Adolygwyd gan
5 Ionawr 2026
  • Trosglwyddo i dempled canllawiau newydd yr ASB.
  • Tudalen gynnwys wedi’i diweddaru.
  • Diweddariad i gyfeiriadau a dolenni deddfwriaethol.
  • Diweddariad i Statws Cyfreithiol y canllawiau.
  • Symleiddio’r adran ar y Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy.
  • Diweddariad i’r adran ar y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid.
  • Diweddariad i’r adran ar y Rheoliadau Lles Anifeiliaid.
  • Diweddariad i’r adran ar gysylltiadau defnyddiol.
  • Diweddariad i’r rhestr SRM yn Atodiad C.
Tîm Polisi Hylendid Cig a Thîm Polisi Hylendid yr ASB yng Nghymru
4 Medi 2020
  • Caniatáu defnyddio deiliaid Tystysgrif Cymhwysedd neu drwydded i ladd o dan Reoliad y Cyngor 1099/2009.
  • Ychwanegu arferion gorau.
  • Ychwanegu’r gofynion cofnodi ar gyfer ffermwyr.
  • Mewnosod adran ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
  • Diweddaru’r cyfeiriadau deddfwriaethol.
  • Ychwanegu rhestr o gysylltiadau a dolenni defnyddiol.
  • Newidiadau i’r cynllun a’r fformat.
Tîm Polisi Hylendid Cig

Crynodeb

Diben

Datblygwyd y canllawiau hyn i roi gwybodaeth am y gyfraith sy’n cwmpasu lladd da byw gartref.

Statws cyfreithiol

Nod y canllawiau hyn yw egluro’n glir y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â lles anifeiliaid, enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEs), sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABPs) a hylendid cig. Mae’r canllawiau hefyd yn nodi arferion gorau.

Ar gyfer pwy mae’r cyhoeddiad hwn?

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer:

  • perchnogion da byw
  • lladdwyr sydd â thrwydded Lles Adeg Lladd (WATOK)
  • deiliaid Tystysgrif Cymhwysedd (CoC) i ladd anifeiliaid
  • awdurdodau lleol

I ba wledydd yn y DU y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?

  • Cymru
  • Lloegr

Geiriau allweddol

  • cig a da byw
  • hylendid a diogelwch bwyd
  • cyfraith bwyd, monitro a rheolaethau