Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Norofeirws

Sut i leihau'r risg o fynd yn sâl a'r risg o ledaenu Norofeirws.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Beth yw norofeirws?

Mae norofierysau'n grŵ o feirysau sy'n achosi ffliw'r bol, neu gastroenteritis. Hefyd, mae fel arfer yn cael ei alw'n 'byg chwydu'r gaeaf'. Norofeirws yw'r un o achosion mwyaf cyffredin salwch a gludir gan fwyd yn y DU.

Er y gall symptomau norofeirws fod yn annymunol, mae'n cael ei ystyried yn haint ysgafn gan nad yw fel arfer yn para'n hir, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella heb driniaeth feddygol.

Y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef symptomau difrifol yw plant ifanc, menywod beichiog, pobl â chyflwr iechyd isorweddol (e.e. canser, diabetes, clefyd yr afu/iau a chlefyd yr arennau) a phobl hŷn.

Rydych chi'n fwyaf tebygol o ddal norofeirws drwy ddod i gysylltiad â pherson sydd wedi'i heintio, ond mae bwyd wedi'i halogi hefyd yn gallu ei ledaenu (er enghraifft, trwy beidio â golchi'ch dwylo). Nid yw feirysau fel norofeirws yn gallu lluosi mewn bwyd, ond maen nhw'n gallu goroesi yno am gyfnodau hir. Mae achosion (outbreaks) o norofeirws wedi’u hachosi gan bobl sy'n trin bwyd, wystrys wedi'u heintio a chynnyrch ffres fel aeron a salad. 

Mae gwybodaeth ynghylch symptomau norofeirws a sut mae'n eich gwneud chi'n sâl ar gael ar y gwefannau canlynol:

Fideo: Yr ASB yn esbonio Norofeirws

ASB yn Esbonio

Feirysau

Mae feirysau yn fach iawn ac yn aml yn gyfryngau pathogenig heintus iawn sy'n achosi clefydau. Maen nhw'n llawer llai na bacteria a pharasitiaid ac yn wahanol iddynt, er eu bod nhw'n gallu achosi salwch tebyg iawn.

Mae feirysau yn gallu lledaenu rhwng pobl mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, trwy:

  • hylifau corfforol – er enghraifft, HIV
  • yr aer – er enghraifft, ffliw
  • amlyncu – er enghraifft, norofeirws 

Yn wahanol i facteria, ni all feirysau dyfu y tu allan i'w lletywr. Fodd bynnag, mae norofeirws yn gallu goroesi ac aros yn heintus mewn bwyd a'r amgylchedd am gyfnodau hir, ac yn aml mae'n gallu goroesi o dan amodau llymach na bacteria.

Sut mae norofeirws yn lledaenu

Mae norofeirws yn heintus iawn. Mae'n gallu halogi bwyd a dŵr ac yn mynd i mewn i’r corff wrth ei amlyncu a'i anadlu drwy'r geg neu'r trwyn. Mae norofeirws yn achosi haint ar ôl cyrraedd y stumog.

Mae hefyd yn gallu lledaenu wrth ddod i gysylltiad ag ysgarthion neu chŵd person sydd wedi'i heintio.
 
Er mwyn osgoi rhoi norofeirws i'ch teulu a'ch ffrindiau , mae'n hanfodol eich bod chi'n dilyn arferion hylendid personol a glanhau da, oherwydd bod y feirws yn gallu gorosei ar arwynebau am sawl mis.

Sut y gallwch chi leihau'r risg o norofeirws gartref

Mae ymchwil wedi dangos bod norofeirws fel arfer yn cael ei ledaenu gan bobl sydd wedi'u heintio (e.e. pobl sy'n trin bwyd a all fod yn sâl). Os oes modd, dylech chi osgoi paratoi bwyd i eraill os ydych yn amau y gall norofeirws fod arnoch chi. Os na ellir gwneud hyn, yna mae'n hanfodol eich bod yn cymryd gofal ychwanegol ac yn dilyn arferion hylendid personol llym pan fyddwch chi'n trin bwyd ac yn ei baratoi. Mae coginio bwyd sydd wedi'i heintio yn iawn yn dinistrio'r feirws, ond byddwch yn ofalus i osgoi croeshalogi wrth ei weini.

Mae hefyd yn hanfodol eich bod chi'n ofalus wrth lanhau a'ch bod chi'n osgoi croeshalogi wrth gludo, paratoi a storio bwyd.

Er mwyn lleihau'r risg o gael norofeirws, rhaid:

  • golchi eich dwylo â sebon a dŵr ar ôl defnyddio'r toiled a chyn ac ar ôl paratoi bwyd
  • trin bwyd yn ddiogel yn eich cegin a golchi byrddau torri ac offer i osgoi croeshalogi
  • glanhau arwynebau yn iawn i atal norofeirws rhag lledaenu
  • coginio bwyd yn gywir trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ynghylch yr amser a'r tymheredd - bydd coginio bwyd yn iawn yn lladd norofeirws sy'n bresennol yn y bwyd.