Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mae digwyddiad bwyd (‘food incident’) yn codi pan fo pryderon am fygythiadau (go iawn neu amheuon) i ddiogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid ac mae’n bosib bod gofyn ymyrryd i ddiogelu buddiannau defnyddwyr.

Mae gofyniad cyfreithiol ar fusnesau i roi gwybod i’w hawdurdod lleol/awdurdod iechyd porthladd a’r Asiantaeth Safonau Bwyd os oes unrhyw reswm i gredu nad yw bwyd neu fwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â’r gofynion diogelwch, a dylid eu tynnu neu eu galw’n ôl o’r farchnad ar unwaith.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr

Awdurdodau Lleol

Llenwch y ffurflen adrodd am ddigwyddiadau i awdurdodau lleol (ALlau) a’i hanfon i’r cyfeiriad e-bost perthnasol a geir yn y ffurflen.

England, Northern Ireland and Wales

Busnesau

Llenwch y ffurflen adrodd am ddigwyddiadau i weithredwyr busnesau bwyd (FBOs) a’i hanfon i’r cyfeiriad e-bost perthnasol a geir yn y ffurflen.

England, Northern Ireland and Wales

Rhoi gwybod am ddigwyddiad yn yr Alban

Os ydych chi yn yr Alban, neu os yw’r digwyddiad yn ymwneud â busnes yn yr Alban, rhowch wybod am y digwyddiad i Safonau Bwyd yr Alban (FSS).