Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rhoi gwybod am broblem gyda sgoriau hylendid bwyd

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023

Rhoi gwybod am broblem diogelwch bwyd neu hylendid bwyd 

Gallwch roi gwybod am broblem bwyd mewn bwyty, siop fwyd neu gyda bwyd wedi’i archebu ar-lein i’r awdurdod lleol lle mae’r busnes wedi’i leoli.  

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddod o hyd i fanylion cyswllt y tîm diogelwch bwyd. Gallwch anfon e-bost at y tîm neu ddefnyddio gwefan yr awdurdod lleol i roi gwybod am eich problem. 

Bydd tîm diogelwch bwyd yr awdurdod lleol yn ymchwilio i’r mater ac yn cymryd unrhyw gamau priodol. 

Rhoi gwybod am fusnes bwyd heb ei gofrestru 

Mae’n rhaid i bob busnes bwyd gofrestru gyda’i awdurdod lleol. Os ydych o’r farn nad yw busnes bwyd wedi’i gofrestru, gallwch roi gwybod i dîm diogelwch bwyd yr awdurdod lleol lle mae’r busnes wedi’i leoli.  

Rhoi gwybod am broblem gyda sgôr hylendid bwyd 

Darllenwch y canllawiau ar roi gwybod am broblem gyda sgôr hylendid bwyd, gan gynnwys: 

  • os na allwch ddod o hyd i sgôr hylendid busnes bwyd ar y wefan 
  • os yw’r sgôr ar-lein yn wahanol i sticer sgôr hylendid bwyd  
  • os yw busnes yn arddangos sgôr uwch yn fwriadol 

Rhoi gwybod am broblem gyda sgôr hylendid bwyd eich busnes 

Darllenwch ein canllawiau ar roi gwybod am broblem gyda sgôr hylendid bwyd eich busnes os ydych: 

  • yn methu dod o hyd i’ch sgôr ar y wefan 
  • am apelio yn erbyn eich sgôr 
  • am gael sgôr hylendid bwyd ar gyfer eich busnes  

Neu os yw: 

  • manylion eich cyfeiriad yn anghywir 
  • eich sgôr yn wahanol i’r sgôr a roddwyd yn ystod yr arolygiad diwethaf 

Rhoi gwybod am broblem gyda’r gwasanaeth sgoriau hylendid bwyd 

I roi gwybod am broblem neu os oes gennych gwestiynau am ein gwasanaeth chwilio am sgoriau hylendid bwyd, anfonwch e-bost i hygieneratings@food.gov.uk