Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Adroddiad Cyfarwyddwr Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 5 Chwefror 2026

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Sian Bowsley, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ionawr 2026

Crynodeb

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:

  • dolen at adroddiad y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar 10 Rhagfyr 2025; a
  • throsolwg ar ddatblygiadau a materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â Chymru.

Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i:

  • nodi’r diweddariad
  • gofyn i’r Cyfarwyddwr ymhelaethu ar unrhyw faterion sydd angen eu trafod yn fanylach.

Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd

Dyma adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr a gyflwynwyd i’r Bwrdd yng nghyfarfod mis Rhagfyr.

Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru

Ers cyfarfod â thema diwethaf WFAC ym mis Tachwedd, rydym wedi bod yn ymwneud â’r gweithgarwch ymgysylltu strategol canlynol:

  • Mae timau Cymru a Gogledd Iwerddon wedi symud i’r Gyfarwyddiaeth Bolisi sydd dan arweiniad Rebecca Sudworth. Mae Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon a minnau wedi bod yn cydweithio’n agos â Rebecca i help i sicrhau bod y newid yn esmwyth. Bydd y symudiad hwn yn cryfhau ac yn cadarnhau cydweithio ar draws y tair gwlad.
  • Cafodd yr adroddiad olaf o adolygiad Llywodraeth Cymru o swyddogaethau’r ASB yng Nghymru ei gymeradwyo gan y Gweinidog a disgwylir iddo gael ei gyhoeddi’n fuan. Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion sydd â’r nod o gryfhau sut mae’r ASB yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac yn cydweithio ag awdurdodau lleol. Ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, byddwn yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ar y camau nesaf, gan sicrhau bod ein dull yn parhau i hybu gwait gweithredu a rheoleiddio effeithiol ar fwyd ledled Cymru.
  • Yn ddiweddar, bûm yn cyflwyno ein blaenoriaethau polisi cyfredol i Grŵp Ymgynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol. Roedd hyn yn cynnwys sut yr ydym yn cefnogi’r dull Iechyd Cyfunol cydweithredol a diweddariad ar ddyfodol gwaith gweithredu a rheoleiddio ar fwyd yng Nghymru. Cafodd y cyflwyniad groeso, a mynegodd y grŵp awydd i’n gweld yn cyflwyno sesiynau manylach ar bynciau penodol sy’n berthnasol i iechyd y cyhoedd mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
  • Yn ddiweddar, cyfrannodd y tîm at waith y Comisiynydd Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol o ddatblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar gryfhau systemau bwyd lleol, i sicrhau bod hylendid a diogelwch bwyd yn cael sylw priodol.
  • Fel rhan o’n hymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid, buom yn cyfrannu at ddigwyddiadau allweddol y diwydiant, gan gynnwys Cynhadledd NFU Cymru a Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ym mis Tachwedd. Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwerthfawr i gryfhau cysylltiadau â rhanddeiliaid, i rannu gwybodaeth am ein blaenoriaethau polisi, ac i wrando ar bryderon y sector. Hefyd, buom yn cynorthwyo ein Prif Weithredwr mewn cyfres o gyfarfodydd rhagarweiniol ag uwch-swyddogion gweithredol Llywodraeth Cymru, gan helpu i gychwyn deialog adeiladol a chadarnhau ein hymrwymiad i gydweithredu ar draws y llywodraeth a’r diwydiant.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r timau polisi wedi ymwneud â’r ffrydiau gwaith canlynol:

  • Ddechrau mis Rhagfyr, cyhoeddwyd canllawiau diogelwch cyntaf y DU gennym ar gynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd (CCP) gan weithio gyda’r tîm cyfathrebu i sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu hysbysu.
  • Gwnaethom hefyd lansio ymgynghoriad ar bedwar cais am gynhyrchion wedi’u heplesu’n fanwl, gan wahodd sylwadau gan randdeiliaid ar yr awdurdodiad arfaethedig, gan gynnwys y telerau awdurdodi, gofynion labelu, ac unrhyw ffactorau dilys eraill (hynny yw, ffactorau amgylcheddol, economaidd ac ati) a ddylai gael eu hystyried. Ceir rhagor o fanylion yn yr adran ar ymgynghoriadau isod.
  • Gwnaethom awdurdodi cais newydd ar gyfer Magnesiwm L-threonad. Gyda chefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru, bydd y sylwedd hwn yn cael ei ychwanegu at yr atodiad ar fitaminau a mwynau yn y Rheoliadau Atchwanegiadau yng Nghymru. Daw hyn i rym ym mis Mawrth.
  • Gwnaethom weithio gyda’r Gymdeithas Bwydydd Oer (CFA) i adolygu ei chanllawiau arferion da dan arweiniad y diwydiant, a gyhoeddwyd y mis hwn. Mae’r canllawiau diweddaredig hyn yn cynnig cyngor ymarferol i helpu busnesau bwyd i reoli’r perygl o Listeria monocytogenes mewn bwydydd parod i’w bwyta, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid yng Nghymru i roi sylw i’r canllawiau.
  • Yn ddiweddar, gwnaethom ddatblygu a chyhoeddi tudalen we i ddefnyddwyr sy’n cynnwys canllawiau clir ar ddefnyddio atchwanegiadau bwyd yn ddiogel. Mae’r cynnwys yn amlygu’r risgiau sy’n gysylltiedig â chynnyrch a werthir sy’n uwch na’r lefelau a argymhellir ynghyd â chyngor clir i ddefnyddwyr ar y camau y dylent eu cymryd i sicrhau eu diogelwch. Yn ogystal â hyn, rydym wedi diweddaru’r pecyn cymorth i awdurdodau lleol ar atchwanegiadau bwyd i’w helpu yn eu gwaith gorfodi.
  • Yn dilyn trafodaeth a chytundeb y Bwrdd ym mis Rhagfyr, rydym yn paratoi ar gyfer ymgynghoriad yn y gwanwyn ar system gymorth ddiwygiedig ar gyfer y diwydiant cig. Bydd adborth o’r ymgynghoriad hwn yn sail i gynigion ar sut y gallai’r gyfundrefn cynllun taliadau cig weithredu. Caiff hyn ei ystyried gan y Bwrdd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda phenderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Weinidogion.
  • Gwnaethom gyhoeddi diweddariad i’r Canllawiau ar Ladd Da Byw Gartref i Gymru a Lloegr o ganlyniad i benderfyniad Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (WOAH) i ailddosbarthu statws risg Cymru a Lloegr mewn perthynas ag enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE) o ‘risg dan reolaeth’ i ‘risg ddibwys’ y llynedd. Dim ond i wella eglurder ac i sicrhau bod y gofynion yn haws i’w dilyn y gwnaed y newidiadau.
  • Ar 1 Ionawr, daeth Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (UE) 2019/1793) (Cymru) 2025 i rym gan gyflwyno newidiadau i’r rheolaethau mewnforio ar gyfer rhai bwydydd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO) sy’n cael eu mewnforio i Gymru.
  • Rydym yn parhau i gynorthwyo i lunio agweddau iechyd y cyhoedd ar Gytundeb Iechydol a PhytoIechydol (SPS).

Yn y timau partneriaeth ag ymgysylltu ag awdurdodau lleol rydym wedi:

  • dechrau helpu awdurdodau lleol gyda’r newid i’r Model Gweithredu Safonau Bwyd newydd. Mae hyn yn cynnwys datblygu rhaglen hyfforddi sy’n cyfuno dysgu hunangyfeiriedig, hwyluso sesiynau ar-lein, a gweithdai wyneb yn wyneb. Rydym hefyd wedi cynnal sesiwn ar gyfer swyddogion arweiniol i drafod y dull o’i gyflwyno a sut y byddwn yn helpu gyda’r newid
  • cyhoeddi Safon Cymhwysedd wedi’i diweddaru ochr yn ochr â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd i roi dull asesu i awdurdodau lleol er mwyn i swyddogion allu dangos eu cymhwystra wrth gynnal rheolaethau swyddogol ac answyddogol. Mae fideo hyfforddi wedi’i gynhyrchu ynghyd â chofnodion asesu diweddaredig at ddefnydd awdurdodau lleol
  • cyflwyno dau weithdy hyfforddiant mewn cysondeb ar gyfer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol. Mae’r rhain yn helpu i sicrhau defnydd cyson o’r CSHB yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Cymerodd 56 o swyddogion ran yn yr hyfforddiant, a chafwyd adborth positif ganddynt
  • noddi Digwyddiad Hyfforddi Blynyddol Cangen Cymru o’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig ym mis Tachwedd, gan ddwyn awdurdodau lleol yng Nghymru ynghyd i gael hyfforddiant ac i rannu arferion gorau i wella cysondeb ym mhob agwedd ar safonau masnach. Cyflwynwyd dwy sesiwn gennym ar y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd diwygiedig, a oedd yn cynnwys ein help i gyflwyno Model Gweithredu Safonau Bwyd, a throsolwg o ddigwyddiadau diweddar a materion sy’n dod i’r amlwg.

Roedd gweithgarwch y tîm diogelu defnyddwyr yn ystod y misoedd diwethaf yn cynnwys:

  • Rhoi’r system blwch post PRISM newydd ar waith yn llwyddiannus i symleiddio a gwella sut mae cyfathrebu ar ddigwyddiadau’n cael ei reoli. Mae’r diweddariad hwn yn gwella effeithlonrwydd, yn sicrhau bod modd olrhain a chydlynu ymatebion yn well, ac yn hybu dull mwy cyson o ddelio â digwyddiadau ymhlith timau. Mae’r system newydd wedi arwain at newid y cyfeiriadau e-bost a ddefnyddir gan y tîm i reoli digwyddiadau ac i ymateb y tu allan i oriau, ac mae’r rhain wedi’u rhannu â’r rhanddeiliaid perthnasol.
  • Opson XV – mae gweithgarwch samplu ar waith yng Nghymru, gyda 4 awdurdod lleol wedi’u dewis i gymryd rhan mewn gwaith samplu dilysrwydd targededig fel rhan o fenter genedlaethol. Disgwylir y bydd samplau’n cael eu cyflwyno i labordai i gael eu profi ym mis Ionawr ac adroddir ar hyn fel rhan o waith ehangach Opson maes o law.
  • Cyflwyniad yng Nghynhadledd Dechnegol Rhaglen HELIX ar ‘Achosion a Heriau Diogelwch Bwyd’. Roedd y sesiwn yn cynnwys trosolwg o’n gwaith, gan amlygu’r heriau presennol o fewn y system fwyd a sut yr ydym yn ymateb i ddiogelu defnyddwyr. Buom hefyd yn edrych ar risgiau newydd sy’n dod i’r amlwg a’r strategaethau sy’n cael eu datblygu i roi sylw iddynt, gyda phwyslais ar bwysigrwydd cydweithredu â phartneriaid allweddol i reoli’r materion hyn yn effeithiol.
  • Digwyddiadau anarferol o ddiddordeb cenedlaethol sy’n ymwneud â galw fformiwla fabanod yn ôl lle mae amheuaeth o halogiad posib â thocsin seriwlîd (‘cereulide’). Cafodd tîm rheoli amlasiantaethol ei hel at ei gilydd i ymchwilio i’r mater, a oedd yn cynnwys cydweithwyr o Iechyd y Cyhoedd yn ogystal â chymorth awdurdodau lleol gyda’r gwaith samplu gwyliadwriaeth. Tynnwyd y cynnyrch dan sylw oddi ar y farchnad, ac mae’r ymchwiliadau’n parhau.

Mae’r tîm Archwilio a Sicrwydd wedi parhau i wneud cynnydd yn y meysydd gwaith canlynol:  

  • Y rhaglen archwilio alergenau: daw’r rhaglen hon i ben ym mis Chwefror, a hynny ar ôl cwblhau cyfanswm o chwe archwiliad. Bydd adroddiad cryno cyfunol o ganfyddiadau’r archwiliadau, ynghyd ag arferion gorau, yn cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. Mae gweithgarwch cynllunio cychwynnol ar waith i gwmpasu a datblygu rhaglen archwilio 2026/27.
  • Yr adroddiad cryno o Raglen Archwilio 2023-2024 a 2024-2025: mae’r adroddiad hwn, sy’n trafod trefniadau a phrosesau awdurdodau lleol ar gyfer darparu gwasanaethau, ynghyd â chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau, wedi’i gyhoeddi ar wefan yr ASB.

Mae ein tîm cyfathrebu dwyieithog wedi parhau i sicrhau bod negeseuon allweddol yr ASB yn cael eu lledaenu ledled Cymru, ac mae hyn wedi cynnwys:

  • Lansiad llwyddiannus ein sianeli Facebook ac Instagram dwyieithog newydd i Gymru, sy’n nodi cam pwysig yn y broses o gryfhau ein presenoldeb digidol. Mae hyn wedi golygu cydweithredu eang rhwng timau i gynllunio a darparu cynnwys diddorol sy’n cynnal momentwm ac a fydd yn cynyddu maint ein cynulleidfa yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae creu cynnwys Cymraeg sy’n unigryw, yn berthnasol yn ddiwylliannol ac sy’n taro tant â defnyddywr a busnesau yng Nghymru wedi bod yn ffocws allweddol, gan sicrhau bod ein negeseuon yn ddefnyddiol ac yn effeithiol.
  • Yn ystod cyfnod y Nadolig, ehangwyd ein hymgyrch llwyddiannus “Mae Bacteria wrth eu Bodd Yma” gyda chalendr llawn o gynnwys wedi’i seilio ar y Nadolig, gan gynnwys negeseuon ar ein sianeli dwyieithog newydd, a chydweithrediadau gyda phartneriaid i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Gwnaethom ymddangos ddwywaith ar sioe ‘Bore Cothi’ ar BBC Radio Cymru i atgyfnerthu negesuon pwysig – yn gyntaf, annog defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth fwyta allan, ac yn ddiweddarach rhannwyd awgrymiadau ymarferol ar ddiogelwch bwyd mewn ffordd anffurfiol a hygyrch. Drwy’r ymdrechion hyn, gwnaethom gryfhau ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ategu ein strategaeth ymgysylltu digidol.
  • Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd yr ASB rybudd rhagofalus a oedd yn cynghori pobl ag alergeddau i beidio â bwyta cynnyrch siocled dull Dubai, yn dilyn canfyddiadau’r ASB bod sawl eitem nad oedd yn bodloni safonau diogelwch a labelu, ac a allai olygu perygl i ddefnyddwyr. Defnyddiwyd ein llwyfannau a’n hoffer i ledaenu’r rhybudd hwn – gan gynnwys rhannu’r neges ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a thrwy bartneriaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, a fu’n rhannu’r neges ar eu llwyfannau hwythau. Llwyddodd y dull rhagweithiol hwn i ddenu sylw’r cyfryngau yng Nghymru, gan helpu i gyrraedd cynulleidfa fwy a hybu ein hymrwymiad i ddiogelu defnyddwyr.

Ymgynghoriadau

Mae’r ymgynghoriadau canlynol ar waith ar hyn o bryd:

Ymgynghoriad ar awdurdodi 4 cynnyrch bwyd rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad – lle gofynnir am safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â’r cynnig arfaethedig i awdurdodi 4 bwyd newydd.

Dyddiad lansio: 15 Rhagfyr 2025
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2026

Edrych ymlaen

Bydd llawer o’r gwaith yn yr adroddiad hwn yn parhau yn ystod y misoedd nesaf. Hefyd, byddwn yn gweithio ar y prosiectau a’r ffrydiau gwaith canlynol.

  • Bydd Etholiadau’r Senedd ym mis Mai yn arwain at newid sylweddol i gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru, gyda system newydd yn golygu cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd (ASau) o 60 i 96. I baratoi ar gyfer hyn, byddwn yn parhau i gryfhau ein hymgysylltiad rhagweithiol ag ASau yn y cyfnod cyn yr etholiad, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o fuddiannau defnyddwyr yn achos bwyd yng Nghymru. Byddwn yn cymryd rhan yn ‘Y Farchnad’, sef sesiwn ymgysylltu a gynhelir yn y Senedd ym mis Chwefror, lle bydd ein Cadeirydd, Susan Jebb, yn bresennol. Bydd y digwyddiad yn gyfle i dynnu sylw at 15 mlynedd o’r CSHB a dangos effaith y cynllun gorfodol yng Nghymru. Rydym yn awyddus i ymgysylltu ag Aelodau o’r Senedd i drafod y cynllun blaenllaw hwn ac unrhyw faterion eraill yn ymwneud â bwyd sydd fwyaf pwysig i’w hetholwyr.
  • Oherwydd yr etholiad, bydd disgwyl i ni gydymffurfio â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni feddwl yn ofalus sut y byddwn yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau ac yn gweithredu’n ddiduedd. Bydd ein dull yn cynnwys parhau â gwaith hanfodol gan osgoi unrhyw weithgarwch y gellid ei ddehongli fel rhywbeth a fyddai’n dylanwadu ar yr etholiad.
  • Byddwn yn parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol i roi’r model gweithredu safonau bwyd newydd ar waith. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol a darparwyr eu Systemau Gwybodaeth Reoli i hwyluso’r newidiadau sydd eu hangen ar systemau cyfrifiadurol awdurdodau lleol. Mae hefyd yn cynnwys bod yn bwynt cyswllt penodol ar gyfer pob awdurdod lleol a chynnal sesiynau ymgysylltu pellach i wella dealltwriaeth o’r model newydd, ac i ateb unrhyw ymholiadau a fydd gan swyddogion.

Mae ein gweithgarwch arfaethedig mewn perthynas â rhanddeiliaid a chyfathrebu yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys:

  • Y gwaith sy’n digwydd i symud ein cynnwys gwe cyhoeddus i GOV.UK, y llwyfan ganolog ar gyfer gwybodaeth y llywodraeth, mewn ymateb i ofynion diogeledd a chyllidebol. Bydd y newid hwn yn golygu cryn waith i’r timau iaith Gymraeg a chyfathrebu, a fydd yn sicrhau nad yw’r newid yn amharu ar hygyrchedd nac ansawdd yr wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Bydd y tîm hefyd yn arwain y gwaith o addasu a throsglwyddo cynnwys i’r llwyfan newydd i sicrhau ei fod yn eglur a defnyddiadwy. Bydd yn rhaid cwblhau’r gwaith o fewn amserlen dynn iawn, a disgwylir y bydd y prosiect wedi’i gwblhau yn ystod mis Mehefin eleni.
  • Mae tîm Cyfathrebu Cymru’n helpu’r tîm canolog gyda’r dasg o fynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth sy’n gysylltiedig â bwyd, sy’n effeithio ar oddeutu pedwar o bob deg oedolyn yn y DU sy’n defnyddio’r we. Er mwyn helpu i greu amgylchedd lle gall pobl wneud dewisiadau gwybodus, mae’r tîm yn datblygu hyb gwirio ffeithiau pwrpasol a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i drafod mythau cyffredin a chynnig atebion clir, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Gyda chymaint o wybodaeth sy’n gwrthddweud ei hun, gall fod yn anodd dod o hyd i ffeithiau cywir, ac mae’r fenter hon yn ymdrech i wneud pethau’n haws i ddefnyddwyr. Mae cynnwys wrthi’n cael ei ddatblygu, ac rydym yn gobeithio dechrau rhannu deunyddiau yn ystod y misoedd nesaf.
  • Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr a rhanddeiliad i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol sy’n seiliedig ar wybodaeth, yn ddiddorol ac yn berthnasol i ddefnyddwyr a busnesau yng Nghymru.