Deuddeg o drafferthion y ’Dolig – ydych chi’n euog, tybed?
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhybuddio y gallai camgymeriadau coginio dros gyfnod yr ŵyl ddifetha’ch Nadolig. Mae arbenigwyr bwyd yn datgelu’r deuddeg camgymeriad i’w hosgoi.
Daeth gŵyl y Baban â gwên ’nôl i’r byd – oni bai eich bod chi’n un o’r miloedd ohonom a fydd yn treulio’r Nadolig â’ch pen yn y tŷ bach yn lle wrth y bwrdd yn bwyta twrci.
Mae ymchwil newydd yn datgelu ein bod ni’n genedl o gamblwyr gyda bwyd y Nadolig, gyda niferoedd mawr yn debygol o gymryd camau cyflym peryglus yn y gegin a allai arwain at salwch difrifol i’w hunain, eu teulu neu eu ffrindiau dros y gwyliau. Ac i rai pobl, fel unigolion sydd â systemau imiwnedd gwan, menywod beichiog a phobl hŷn – mae’r risgiau hyd yn oed yn fwy.
Mae ymgyrch Nadolig yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn datgelu’r camgymeriadau dychrynllyd sy’n digwydd mewn ceginau ledled y wlad – ac mae’r canlyniadau’n awgrymu bod llawer ohonom yn cymryd risgiau lu wrth goginio dros gyfnod y Nadolig.
Mae arolwg diweddar yr ASB o dros 2,100 o oedolion wedi datgelu bod pobl yn gwneud y camgymeriadau canlynol yn y gegin:
Twrci trafferthus: Dywedodd 62% y byddent yn dadmer cig neu ddofednod fel twrci ar dymheredd yr ystafell (er enghraifft, ar blât ar arwyneb gwaith) yn lle yn yr oergell – mae hyn yn annog bacteria i dyfu, a all arwain at wenwyn bwyd.
Diystyru’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’: Byddai mwy na hanner (51%) yn bwyta cynhyrchion llaeth (er enghraifft hufen, caws meddal, neu bwdinau) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ oherwydd eu bod yn ‘edrych, yn blasu ac yn arogli’n iawn’ – ond does dim modd gweld, blasu nac arogli bacteria peryglus fel listeria.
Peryglon y pedair awr: Dywedodd mwy na thraean (36%) y bydden nhw’n dal i fwyta bwyd sydd wedi bod allan am dros bedair awr heb ei oeri, gan adael i facteria niweidiol dyfu.
Ar gyfeiliorn gyda’r gweddillion: Dywedodd un o bob chwech (16%) na fyddent yn oeri bwyd dros ben ar dymheredd yr ystafell a’i roi yn yr oergell neu ei rewi o fewn awr i ddwy.
Anwybyddu alergeddau: Yn bryderus, dywedodd (30%) na fyddent yn gofyn i’w gwesteion am alergeddau neu ofynion deietegol cyn gweini bwyd – camgymeriad a allai beryglu bywyd, ac sydd wedi codi o 22% y llynedd.
Helynt yr hanner coginio: Byddai un o bob saith (14%) yn coginio bwyd yn rhannol (er enghraifft, twrci neu stwffin) ymlaen llaw a’i adael ar dymheredd yr ystafell i’w ‘orffen yn ddiweddarach’ – dyna ffordd sicr o roi gwenwyn bwyd ar y fwydlen.
“Peidiwch â gadael i arferion gwael yn y gegin ddifetha’r Nadolig. Gall y camgymeriadau cyffredin hyn arwain at wenwyn bwyd, a all fod yn ddifrifol i blant, menywod beichiog, pobl hŷn ac unrhyw un sydd â system imiwnedd wan. Y newyddion da? Bydd dilyn arferion diogelwch bwyd da yn sicrhau bod pawb yn cael Nadolig diogel a llon.”
Deuddeg o drafferthion y ’Dolig – sawl un ydych chi’n euog ohonynt?
- Dadmer ar y cownter – Gadael dofednod, fel twrci, neu gig i ddadmer ar dymheredd yr ystafell (er enghraifft ar blât ar yr arwyneb gwaith) yn lle yn yr oergell (62%).
- Diystyru’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ – Bwyta cynhyrchion llaeth (er enghraifft hufen, caws, neu bwdinau) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ oherwydd eu bod yn dal i edrych, blasu ac arogli’n iawn (51%).
- Cymryd siawns gyda chig oer – Bwyta cig oer neu bysgod mwg sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ oherwydd eu bod nhw’n dal i edrych, blasu ac arogli’n iawn (37%).
- Ffradach y bwffe – Gadael bwyd allan ar dymheredd yr ystafell (er enghraifft ar gyfer bwffe) am 4+ awr (36%).
- Anwybyddu alergeddau – Peidio â gofyn i westeion am alergeddau a gofynion deietegol (30%).
- Ar gyfeiliorn gyda’r gweddillion – Peidio ag oeri bwyd dros ben ar dymheredd yr ystafell a’i roi yn yr oergell neu ei rewi o fewn 1-2 awr (16%).
- Helynt yr hanner coginio – Coginio bwyd yn rhannol ymlaen llaw, yna ei adael allan ar dymheredd yr ystafell cyn gorffen ei goginio’n ddiweddarach (14%).
- Peryglon pinc – Peidio â dilyn cyfarwyddiadau coginio’n iawn a gwirio i wneud yn siŵr bod eich twrci wedi’i goginio’n drylwyr.
- Offer cegin ofnadwy – Ailddefnyddio cyllyll neu offer cegin ar gyfer cig amrwd a bwydydd eraill heb eu glanhau’n drylwyr yn gyntaf.
- Oergell oer? – Ddim yn gwybod a yw eich oergell ar dymheredd o 5°C neu is.
- Gor-gadw gweddillion – adw’r cinio Nadolig am fwy na deuddydd.
- Storio cynnes – Rhoi bwyd dros ben sy’n boeth yn syth yn yr oergell heb ei oeri yn gyntaf.
Ambell air o gyngor ar goginio diogel dros gyfnod yr wŷl
- Dadmer yn ddiogel – Dylech ddadmer twrci neu gig yn yr oergell – byth ar gownter y gegin. Peidiwch â choginio nes ei fod wedi dadmer yn llwyr.
- Dilyn y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ – Maen nhw’n ymwneud â diogelwch, nid ansawdd. Peidiwch â bwyta bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad defnyddio erbyn.
- Oeri’r bwyd yn gyflym – Rhowch unrhyw fwyd dros ben yn yr oergell o fewn dwy awr.
- Holi am alergeddau – Gofynnwch i westeion bob amser cyn i chi ddechrau coginio a gwiriwch y rhestr gynhwysion.
- Cadw’r bwyd yn oer – Buffet food shouldn’t sit out for more than four hours.
- Coginio’n drylwyr – Dylech ddilyn yr amserau coginio a’r tymheredd cywir i ladd bacteria niweidiol. Gwnewch yn siŵr bod y bwyd yn stemio’n boeth drwy’r canol, nid yr arwyneb yn unig.
Mae mwy o gyngor ar goginio’n ddiogel dros y Nadolig ar gael yn https://www.food.gov.uk/cy/canllawiau-defnyddiwr/hylendid-bwyd-dros-y-nadolig
Gair am yr Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr
Arolwg tracio misol yr ASB yw’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr, sy’n monitro newidiadau yn ymddygiad ac agweddau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.
Bob mis, cynhelir yr arolwg gyda thua 2,100 o oedolion (16 oed neu hŷn) yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr sydd wedi cofrestru ar gyfer panel arolwg ar-lein YouGov. Mae’r sampl wedi’i strwythuro i gynrychioli poblogaeth Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn ôl y brif ddemograffeg, sef oedran, rhywedd, rhanbarth, gradd gymdeithasol a lefel addysg.
Ym mis Tachwedd 2025, gofynnwyd i ymatebwyr pa mor debygol y byddent o ymddwyn mewn ffordd benodol wrth baratoi bwyd i eraill (er enghraifft, yn ystod achlysuron arbennig neu’r Nadolig). Mae’r ffigurau’n dangos cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn debygol (tebygol iawn/tebygol) neu’n annhebygol (annhebygol/annhebygol iawn) o wneud pob ymddygiad.
Caiff adroddiad yr Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr ei gyhoeddi’n chwarterol ac mae’n ategu arolwg ystadegyn swyddogol yr ASB, Bwyd a Chi 2, sy’n casglu data mwy cynhwysfawr bob blwyddyn, gan fonitro ymddygiad ac agweddau defnyddwyr dros gyfnod hirach.
Rhagor o wybodaeth
Bydd yr adroddiad chwarterol nesaf, sy’n ymdrin â chanfyddiadau rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2025, yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026.