Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Pecyn ymgynghori ar y cynnig i awdurdodi 4 cynnyrch bwyd rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad, Rhagfyr 2025

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon. Dyddiad lansio: 15 Rhagfyr 2025 Ymatebion erbyn: 8 Chwefror 2026

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Rhagfyr 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Rhagfyr 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, awdurdodau iechyd lleol a phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gyhoeddi gan asiantaeth Safonau Bwyd yr Alban (FSS).

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer y canlynol:

  • ymestyn y defnydd o un bwyd newydd awdurdodedig
  • 3 awdurdodiad newydd ar gyfer 3 bwyd newydd

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:

Rhoddir manylion llawn ar sut i ymateb isod.

Diffiniadau

Gall yr wybodaeth a’r diffiniadau canlynol fod o ddefnydd wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Cynhyrchion rheoleiddiedig – Mae’n rhaid i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, fynd trwy broses dadansoddi risg, ac mae’n rhaid eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, gan gynnwys y prosesau dadansoddi risg a rheoli risg, a chyfraniad gweinidogion yma: Cefndir ar roi cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad.

Mae bwydydd newydd yn fwydydd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997. Er mwyn rhoi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, neu newid y manylebau neu’r amodau ar gyfer defnyddio bwydydd newydd awdurdodedig, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd 2015/2283. Canllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd.

Rheoliadau a gymathwyd – Nid yw deddfwriaeth yr UE sy’n uniongyrchol gymwys bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Cafodd deddfwriaeth yr UE, a ddargadwyd (‘retained’) pan ymadawodd y DU â’r UE, ei chymathu (‘assimilate’) ar 1 Ionawr 2024. Pan fydd cyfeiriadau at ddeddfwriaeth ag ‘UE/EU’ neu ‘CE/EC’ yn y teitl, dylid ystyried bod y rhain bellach yn gyfraith a gymathwyd lle bônt yn gymwys i Brydain Fawr. Cyhoeddir cyfreithiau a gymathwyd ar legislation.gov.uk. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.

Mae’r Fframwaith Cyffredin dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn drefniant anstatudol rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli. Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â’r ymrwymiadau i gydweithio ar draws y pedair gwlad fel y nodir yn y fframwaith hwn. Felly, datblygwyd yr ymgynghoriad hwn drwy ddull pedair gwlad. Cytunir ar yr argymhellion terfynol ar sail pedair gwlad cyn eu cyflwyno i weinidogion Cymru, Lloegr a’r Alban, gyda Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon yn cael gwybod y datblygiadau diweddaraf. Mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan lawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU yn ei chyfanrwydd.

Fframwaith Windsor – Ar gyfer nwyddau bwyd-amaeth i’w manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw sy’n gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS):

  • Ym mis Hydref 2023, rhoddwyd Fframwaith Windsor ar waith gan ddarparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion bwyd manwerthu bwyd-amaeth wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu i ddefnyddwyr terfynol o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
  • Gall y nwyddau hyn fodloni’r un safonau a ddefnyddir yng ngweddill y DU ym maes iechyd y cyhoedd, marchnata (gan gynnwys labelu) a bwydydd organig wrth symud drwy’r NIRMS.
  • O dan NIRMS, bydd cynhyrchion rheoleiddiedig sydd wedi’u hawdurdodi ym Mhrydain Fawr yn gallu cael eu rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon os ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn.
  • Mae’r ASB yn parhau i ymrwymo i sicrhau y gall defnyddwyr ar draws y DU fod yn hyderus bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, hyd yn oed lle gall rheolau sy’n berthnasol i’r un math o fwyd fod ychydig yn wahanol.

Asesiad diogelwch – Mae aseswyr risg yr ASB ac FSS yn cyflwyno’r wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a disgrifio peryglon a risgiau i iechyd, ac am asesu lefelau cysylltiad (‘exposure’). Mae dolenni i’r asesiad diogelwch ar gyfer pob cais i’w gweld yn yr atodiad cyfatebol perthnasol isod.

Rheoli risg – Mae ein hymgynghorwyr polisi yn gyfrifol am yr allbynnau rheoli risg. Mae dogfen argymhellion rheoli risg yr ASB yn cyflwyno’r ffactorau y maent wedi’u nodi fel rhai sy’n berthnasol i’r ceisiadau hyn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad a wneir gan weinidogion, ac mae’n cynnwys telerau awdurdodi arfaethedig a darpariaethau perthnasol eraill. Mae dolenni i’r ddogfen argymhellion rheoli risg ar gyfer pob cais i’w gweld yn yr Atodiad cyfatebol perthnasol isod.

Manylion yr ymgynghoriad

Cyflwyniad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar y ceisiadau a gyflwynwyd i’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig i awdurdodi 4 bwyd newydd.

Ceir trosolwg o fanylion pob un o’r ceisiadau yn yr atodiadau isod. Am wybodaeth lawn a phellach, cyfeiriwch at ddogfennau technegol asesiadau diogelwch ac argymhellion rheoli risg yr ASB ac FSS. Mae’r dolenni wedi’u cynnwys yn yr atodiad cyfatebol.

Atodiadau i geisiadau

  • Atodiad A: RP1411 – olew Schizochytrium sp. sy’n llawn DHA ac EPA (ymestyn y defnydd o’r bwyd newydd awdurdodedig)
  • Atodiad B: RP1476 – 2'-ffiwcosylactos (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))
  • Atodiad C: RP1477 – halen sodiwm 3'-sialylactos (3'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))
  • Atodiad D: RP1478 – halen sodiwm 6'-sialylactos (6'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))

Wrth ymgynghori, mae’r ASB yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y telerau awdurdodi arfaethedig, ar unrhyw ofynion labelu, ac ar unrhyw ffactorau dilys eraill (hynny yw, cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd) fel y’u nodwyd. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu i nodi unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn i sylw gweinidogion cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, y cam nesaf yw i’r ASB ysgrifennu at weinidogion yng Nghymru a Lloegr gyda’i hargymhellion. Bydd FSS yn ysgrifennu at weinidog yn yr Alban gyda’i hargymhellion. Bydd gweinidogion yng Ngogledd Iwerddon yn cael gwybod y diweddaraf. Mae hyn yn unol â chyfrifoldeb yr ASB ac FSS dros roi cyngor, gwybodaeth neu gymorth i weinidogion am faterion diogelwch bwyd, neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd (Adran 6, Deddf Safonau Bwyd 1999, ac Adran 3, Deddf Bwyd (yr Alban) 2015). Bydd y gweinidogion perthnasol wedyn yn gwneud penderfyniadau ar awdurdodi, gan ystyried yr argymhellion rheoli risg, unrhyw ddarpariaethau perthnasol o gyfraith a gymathwyd ac unrhyw ffactorau dilys eraill, gan gynnwys y rhai a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.

Effeithiau

Fel rhan o’r broses dadansoddi a rheoli risg, mae’r ASB wedi asesu’r effeithiau posib a fyddai’n deillio o’r cynigion. Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rhai a nodwyd amlaf fel effeithiau posib wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (hynny yw, effeithiau amgylcheddol, masnachol, gwleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol, effeithiau o ran dichonoldeb technegol, a buddiannau defnyddwyr).

Ar gyfer y ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn, nid oes unrhyw effeithiau arwyddocaol wedi’u nodi. Rhestrir effeithiau unigol, gan gynnwys masnach, Gogledd Iwerddon, ffactorau dilys eraill, ac effeithiau eraill, ar gyfer pob cais yn y ddogfen rheoli risg gyfatebol ar gyfer pob cais. Yn gyffredinol, dylai awdurdodi’r cynhyrchion hyn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector.

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori

Bob mis, cyhoeddir manylion yr holl geisiadau dilys am gynhyrchion rheoleiddiedig ar y Gofrestr Ceisiadau am Gynhyrchion Rheoleiddiedig ar wefan yr ASB.

Gwahoddir rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau a ofynnir isod mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill.

Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd ymatebion ar gael ar wefan yr ASB ac yn cael eu rhannu â gweinidogion.

Cwestiynau

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn (ar gyfer pob cais):

  • A oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch diogelwch y ceisiadau o ran y defnyddwyr arfaethedig?
  • A oes gennych unrhyw chi sylwadau neu bryderon ynghylch effeithiau awdurdodi neu beidio ag awdurdodi’r ceisiadau ac, os ydych o blaid awdurdodi’r ceisiadau, delerau awdurdodi’r ceisiadau (fel yr amlinellir yn argymhellion rheoli risg yr ASB ac FSS)?
  • A oes unrhyw ffactorau eraill y dylai gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu’n barod?
  • A oes gennych chi unrhyw adborth arall? Gan gynnwys ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy’n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy, fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol a ffactorau amgylcheddol).

Ymatebion

Rhaid cyflwyno ymatebion erbyn 11.59pm ar 8 Chwefror 2026. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat, neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Ymatebwch i’r ymgynghoriad drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk

Nodwch pa gais/ceisiadau neu gynnyrch/cynhyrchion rydych chi’n ymateb yn eu cylch trwy ddefnyddio’r llinell bwnc ganlynol ar gyfer eich ymateb: Ymateb i ymgynghoriad RP1411, RP1476, RP1477 neu RP1478 (dewiswch yr un sy’n briodol) ar fwydydd newydd.

Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.

Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn o fewn 3 mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.

Bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â gweinidogion yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mwy o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.

Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Atodiad A: RP1411 – Olew Schizochytrium sp. sy’n llawn DHA ac EPA (ymestyn y defnydd o’r bwyd newydd awdurdodedig)

Cefndir

Cafodd yr ASB gais gan DSM Nutritional Products Switzerland i awdurdodi’r cynnig arfaethedig i ymestyn y defnydd o olew Schizochytrium sp. sy’n llawn DHA ac EPA, fel bwyd newydd mewn dau gategori bwyd ychwanegol: analogau o gig a chynhyrchion cig, ac analogau cynnyrch pysgodfeydd, ym Mhrydain Fawr.

Er mwyn ymestyn y defnydd o fwydydd newydd, ac er mwyn gallu rhoi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad yr UE a gymathwyd 2015/2283.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd eisoes wedi cymeradwyo ymestyn y defnydd o olew Schizochytrium sp. sy’n llawn DHA ac EPA yn Rheoliad (UE) 2022/1365 dyddiedig 4 Awst 2022 sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (UE) 2017/2470 o ran amodau defnyddio’r bwyd newydd hwn ar yr un lefelau defnydd ag a ofynnir yn y cais hwn a chan ddefnyddio’r un enwau categori bwyd. Sylwer na ofynnodd y Comisiwn i EFSA am farn o ran yr ymestyniad defnydd hwn.

Gogledd Iwerddon

Mae olew Schizochytrium sp. sy’n llawn DHA ac EPA eisoes wedi’i awdurdodi yng Ngogledd Iwerddon fel bwyd newydd a chyda’r ymestyniad defnydd arfaethedig. Mae argymhelliad yr ASB i awdurdodi yn cyd-fynd â’r awdurdodiad cynnyrch yng Ngogledd Iwerddon.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Dyma argymhelliad rheoli risg yr ASB: mae ymestyn y defnydd o olew Schizochytrium sp. sy’n llawn DHA ac EPA, sef bwyd newydd cymeradwy, fel y’i disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nid yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged (y boblogaeth gyffredinol gan gynnwys menywod sy’n bwydo ar y fron, menywod beichiog, a babanod a phlant ifanc), ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl o dan yr amodau defnydd bwriadedig.

Mae argymhellion rheoli risg ac asesiad diogelwch yr ASB i’w gweld isod:

Asesiad diogelwch yr ASB ac FSS: Asesiad Diogelwch RP1411, olew Schizochytrium sp. sy’n llawn DHA ac EPA

Atodiad B: RP1476 – 2'-ffiwcosylactos (2'-FL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))

Cefndir

Cafodd yr ASB gais gan Kyowa Hakko Bio Company Ltd i awdurdodi 2'-ffiwcosylactos (2'-FL) (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637)) fel bwyd newydd o fewn y categorïau bwyd a nodir yn y telerau awdurdodi arfaethedig ym Mhrydain Fawr. Mae 2'-ffiwcosylactos (2'-FL) a gynhyrchir yn synthetig ac o ffynonellau microbaidd eraill eisoes wedi’i awdurdodi ar gyfer amodau defnydd mewn categorïau bwyd eraill ym Mhrydain Fawr.

Er mwyn ymestyn y defnydd o fwydydd newydd, ac er mwyn gallu rhoi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae 2'-ffiwcosylactos (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637)) eisoes wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn yr UE.

Ar wahân i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod, mae’r categorïau bwyd a’r lefelau defnydd bwriadedig yn y cais hwn yn cyd-fynd â’r rheiny a restrir yn Rhestr yr UE o Fwydydd Newydd o dan Reoliad (UE) 2017/2470. Er nad yw’r UE wedi awdurdodi’r bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod, nid yw’r penderfyniad hwn yn seiliedig ar bryderon diogelwch, gan fod yr UE a’r DU wedi nodi mewn asesiad fod y bwyd newydd yn ddiogel ar y lefelau arfaethedig i’w ddefnyddio gan fabanod.

Os caiff ei awdurdodi, bydd hyn yn golygu bod gwahaniaeth rhwng Prydain Fawr a’r UE yn y defnyddiau a awdurdodir ar gyfer y bwyd newydd hwn.

Gogledd Iwerddon

Mae’r bwyd newydd hwn eisoes wedi’i awdurdodi yng Ngogledd Iwerddon. Bydd argymhelliad yr ASB i’w awdurdodi i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod yn arwain at rywfaint o wahaniaeth. Fodd bynnag, o dan Fframwaith Windsor, gellir rhoi nwyddau a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, os ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS), a’u bod yn cael eu symud drwyddo.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Dyma argymhelliad rheoli risg yr ASB: mae 2'-ffiwcosylactos (a gynhyrchir gan straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637)), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nid yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y lefelau defnydd arfaethedig.

Mae argymhellion rheoli risg ac asesiad diogelwch yr ASB i’w gweld isod:

Asesiad diogelwch yr ASB ac FSS: Asesiad Diogelwch RP1476, 2'-ffiwcosylactos (2'-FL) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd

Atodiad C: RP1477 – halen sodiwm 3'-sialylactos (3'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))

Cefndir

Cafodd yr ASB gais gan Kyowa Hakko Bio Company Ltd i awdurdodi halen sodiwm 3'-sialylactos (3'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637)) fel bwyd newydd o fewn y categorïau bwyd a nodir yn y telerau awdurdodi arfaethedig ym Mhrydain Fawr.

Er mwyn ymestyn y defnydd o fwydydd newydd, ac er mwyn gallu rhoi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad yr UE a gymathwyd 2015/2283.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae halen sodiwm 3'-sialylactos (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 3)) eisoes wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn yr UE.

Ar wahân i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod a phlant bach ac i’w ddefnyddio mewn “diodydd â blas (ac eithrio diodydd cola a diodydd â blas cola)”, mae’r categorïau bwyd a’r lefelau defnydd bwriadedig yn y cais hwn yr un fath â’r rheiny yn Rhestr yr UE o Fwydydd Newydd a restrir yn Rheoliad (UE) 2017/2470.

Er nad yw’r UE wedi awdurdodi’r bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc, nid yw’r penderfyniad hwn yn seiliedig ar bryderon diogelwch, gan fod yr UE a’r DU wedi nodi mewn asesiad fod y bwyd newydd yn ddiogel ar y lefelau arfaethedig i’w ddefnyddio gan fabanod a phlant ifanc.

Os caiff ei awdurdodi, bydd hyn yn golygu bod gwahaniaeth rhwng Prydain Fawr a’r UE yn y defnyddiau a awdurdodir ar gyfer y bwyd newydd hwn.

Bydd gwahaniaeth hefyd yn y categori bwyd ‘diodydd â blas (ac eithrio diodydd cola a diodydd â blas cola)’ sydd, yn yr UE, yn dod o dan ‘diodydd â blas, ac eithrio diodydd â pH dan 5’.

Gogledd Iwerddon

Mae’r bwyd newydd hwn eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon. Bydd argymhelliad yr ASB i’w awdurdodi i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc yn arwain at wahaniaeth. Yn ogystal, bydd mân wahaniaethau yn y categorïau o ddiodydd â blas y caniateir defnyddio’r bwyd newydd hwn ynddynt. Fodd bynnag, o dan Fframwaith Windsor, gellir rhoi nwyddau a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, os ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS), a’u bod yn cael eu symud drwyddo.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Dyma argymhelliad rheoli risg yr ASB: mae halen sodiwm 3'-sialylactos (3'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637)), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nid yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau defnydd bwriadedig.

Mae argymhellion rheoli risg ac asesiad diogelwch yr ASB i’w gweld isod:

Asesiad diogelwch yr ASB ac FSS: Asesiad Diogelwch RP1477, halen sodiwm 3'-sialylactos (3'-SL) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd

Atodiad D: RP1478 – halen sodiwm 6'-sialylactos (6'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637))

Cefndir

Cafodd yr ASB gais gan Kyowa Hakko Bio Company Ltd i awdurdodi halen sodiwm 6'-sialylactos (6'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637)) fel bwyd newydd o fewn y categorïau bwyd a nodir yn y telerau awdurdodi arfaethedig ym Mhrydain Fawr.

Er mwyn ymestyn y defnydd o fwydydd newydd, ac er mwyn gallu rhoi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â Rheoliad yr UE a gymathwyd 2015/2283.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae halen sodiwm 6'-sialylactos (6'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 6)) eisoes wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio yn yr UE.

Ar wahân i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc, mae’r categorïau bwyd a’r lefelau defnydd bwriadedig yn y cais hwn yn cyd-fynd â’r rheiny a restrir yn Rhestr yr UE o Fwydydd Newydd o dan Reoliad (UE) 2017/2470. Er nad yw’r UE wedi awdurdodi’r bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc, nid yw’r penderfyniad hwn yn seiliedig ar bryderon diogelwch, gan fod yr UE a’r DU wedi nodi mewn asesiad fod y bwyd newydd yn ddiogel ar y lefelau arfaethedig i’w ddefnyddio gan fabanod.

Bydd gwahaniaeth hefyd yn y categori bwyd “diodydd â blas (ac eithrio blas cola a diodydd â blas cola)” sydd, yn yr UE, yn dod o dan “diodydd â blas, ac eithrio diodydd â pH dan 5”.

Os caiff ei awdurdodi, bydd hyn yn golygu bod gwahaniaeth rhwng Prydain Fawr a’r UE yn y defnyddiau awdurdodedig ar gyfer y bwyd newydd hwn.

Gogledd Iwerddon

Mae’r bwyd newydd hwn eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon. Bydd argymhelliad yr ASB i’w awdurdodi i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc yn arwain at rywfaint o wahaniaeth. Fodd bynnag, o dan Fframwaith Windsor, gellir rhoi nwyddau a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, os ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS), a’u bod yn cael eu symud drwyddo.

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Dyma argymhelliad rheoli risg yr ASB: mae halen sodiwm 6'-sialylactos (6'-SL) (a gynhyrchir gan ddefnyddio straen deilliadol o Escherichia coli W (ATCC 9637)), fel y disgrifir yn y cais hwn, yn ddiogel ac nid yw’n debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, ar ddiogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y lefelau defnydd bwriadedig.

Mae argymhellion rheoli risg ac asesiad diogelwch yr ASB i’w gweld isod:

Asesiad diogelwch yr ASB ac FSS: Asesiad Diogelwch RP1478, halen sodiwm 6'-sialylactos (6'-SL) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn bwyd ac atchwanegiadau bwyd