Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Adroddiad y Cyfarwyddwr, 18 Mai 2026
Adroddiad gan Sian Bowsley, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru.
Crynodeb
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:
- dolen i’r papur a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2026
- trosolwg ar ddatblygiadau a materion o ddiddordeb i WFAC sy’n ymwneud â Chymru
Gwahoddir aelodau o’r Pwyllgor i wneud y canlynol:
- nodi’r diweddariad
- gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach
Adroddiad y Prif Weithredwr i’r Bwrdd
Dyma adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr, a gyflwynwyd i’r Bwrdd yn ystod ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.
Diweddariad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
Ers cyfarfod â thema diwethaf WFAC ym mis Chwefror, rydym wedi gwneud cynnydd mewn nifer o weithgareddau ymgysylltu strategol. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r prif weithgareddau hyd at ddiwedd mis Ebrill.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybod i’r Pwyllgor mai hwn fydd fy adroddiad olaf ond un fel Cyfarwyddwr Cymru, gan fy mod i’n gadael yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Gorffennaf. Hoffwn ddiolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth drwy gydol fy nghyfnod yn y swydd, ac am y cyfle gwerthfawr i weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid ledled Cymru. Rwy’n hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd ers i mi ddechrau yn y rôl ym mis Medi 2024.
Ym mis Chwefror, aeth Cadeirydd yr ASB a minnau i sesiwn Y Farchnad yn y Senedd, sef digwyddiad ‘cwrdd a chyfarch’ sy’n cysylltu Aelodau o’r Senedd (ASau) â sefydliadau ledled Cymru. Gwnaethom fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Mae’r cynllun wedi bod yn orfodol yng Nghymru ers 2013 ac yn cael ei ystyried yn llwyddiant amlwg, gyda Chymru yn arwain y ffordd o ran ei weithredu a’i orfodi. Mae’r cynllun yn grymuso defnyddwyr ac yn sbarduno gwelliannau cynaliadwy mewn diogelwch bwyd. Mynegodd ASau gefnogaeth gref dros y Cynllun, gan nodi mai dim ond ychydig iawn o gŵynion am hylendid bwyd a gawsant gan eu hetholwyr. Mae’r adborth hwn yn cefnogi’r safbwynt bod y CSHB yn gweithio’n dda ac yn parhau i ennyn hyder y cyhoedd. Yn dilyn Y Farchnad, cyfarfûm â’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ynghyd â Chadeirydd yr ASB a Chadeirydd WFAC, i drafod meysydd o fuddiant cyffredin a gwaith ymgysylltu yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau ei Hadolygiad o’r ASB yng Nghymru. Fel y nodais eisoes, cyhoeddwyd yr adolygiad yn wreiddiol gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y pryd yn 2021, ac roedd ganddo gwmpas eang. Bwriad yr adolygiad oedd asesu a oedd cylch gwaith polisi’r ASB, y trefniadau llywodraethu presennol a sut y caiff cyfrifoldebau eu dirprwyo rhwng yr ASB a Llywodraeth Cymru yn glir ac yn parhau i fod yn briodol. Yn hytrach nag ail-lunio ein rôl, y nod oedd rhoi mwy o eglurder ynghylch pwy sy’n gwneud beth a sut rydym yn cydweithio, ynghyd â llywodraethu a chyfrifoldebau clir. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod strwythur presennol yr ASB yng Nghymru yn effeithiol, heb fod angen newid sylfaenol. Mae hyn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gweithredu’r argymhellion, gan ganolbwyntio ar adnewyddu’r Concordat gyda Llywodraeth Cymru i egluro rolau a chryfhau trefniadau llywodraethu, ac ar adeiladu ar ein dull o ymgysylltu ag awdurdodau lleol i sicrhau cydweithio effeithiol.
Rwyf wedi bod yn ymgysylltu’n agos ac yn rheolaidd â rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig awdurdodau lleol a Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru, gan gydnabod eu rôl hanfodol ym maes cyflawni a sicrwydd. Yn fwyaf diweddar, gwnaethom gwrdd i drafod y cynnydd ar y Cytundeb Cydweithredol rhwng yr ASB, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynnal deialog barhaus i sicrhau bod profiad gweithredol, mewnwelediadau a heriau Cymru yn llywio ac yn dylanwadu’n weithredol ar raglen Dyfodol Rheoleiddio Bwyd.
Cytunodd Llywodraeth Cymru ar gyllid yr ASB yng Nghymru ar gyfer 2026–27, sef £5.656 miliwn. O’r cyfanswm hwn, mae £0.49 miliwn wedi’i glustnodi i ariannu’r gwaith cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid gan awdurdodau lleol. Darperir y cyllid hwn i gyflawni’r blaenoriaethau gwaith a nodir yng Nghytundeb Cyflenwi Gwasanaethau eang yr ASB yng Nghymru ar gyfer 2026–27, fel y cytunwyd â Llywodraeth Cymru.
Dros y chwarter diwethaf, mae’r timau polisi yng Nghymru wedi bod yn cyflawni amrywiaeth o ffrydiau gwaith allweddol, gan gynnwys y canlynol:
-
Cyhoeddwyd Arolwg o Fwyd Anifeiliaid Anwes Amrwd, ochr yn ochr â chanllawiau i ddefnyddwyr ar drin a storio bwyd anifeiliaid anwes amrwd yn ddiogel. Y nod yw helpu i wella ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r risgiau hylendid o drin bwyd anifeiliaid anwes amrwd.
-
Yn dilyn ein cyflwyniad diweddar i WFAC ar atchwanegiadau bwyd, rydym bellach wedi sefydlu is-grŵp o’r Gweithgor Atchwanegiadau Bwyd. Nod y grŵp yw archwilio ystod o faterion, gan gynnwys fitaminau a mwynau sy’n cael eu gwerthu uwchlaw’r symiau a argymhellir, ac ystyried a oes modd gwella’r canllawiau a’r cyngor presennol er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth busnesau a gwaith gorfodi awdurdodau lleol.
-
Lansiwyd ymgynghoriad ar y system ddiwygiedig o gefnogaeth ar gyfer codi tâl ar safleoedd cig, gan geisio safbwyntiau am gynlluniau i ddiwygio’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael i ladd-dai a sefydliadau trin helgig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r cynigion wedi’u llunio ar ôl ymgysylltu’n helaeth â’r diwydiant a rhanddeiliaid allweddol. Fe’u datblygwyd ar y cyd â chydweithwyr polisi yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan sicrhau dull cyson a chydlynol gan yr ASB. Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn helpu i lunio’r polisi terfynol a’r argymhellion i Fwrdd yr ASB, cyn cael cytundeb gan Weinidogion.
-
Ym mis Mawrth, cymeradwyodd y Gweinidog yng Nghymru bedwar awdurdodiad i roi cynhyrchion (bwyd newydd) wedi’u heplesu’n fanwl ar y farchnad. Daeth y rhain i rym ar 24 Mawrth. Cymeradwywyd hefyd awdurdodiad ar gyfer bwyd newydd traddodiadol, a ddaeth i rym ar 31 Mawrth. Rydym bellach yn bwrw ymlaen â’n cynllun gwaith awdurdodi i roi cynhyrchion ar y farchnad ar gyfer 2026/27. Mae hyn yn cynnwys bwrw ymlaen ag ymgynghoriadau dros yr haf ar y set nesaf o awdurdodiadau’r farchnad. Bydd y rhain yn cynnwys swp o geisiadau am gynhyrchion wedi’u heplesu’n fanwl, ychwanegyn bwyd anifeiliaid lle nodwyd pryderon diogelwch, a chais ychwanegol am ychwanegyn bwydydd newydd traddodiadol. Byddwn hefyd yn ceisio cytundeb gan Weinidogion i awdurdodi’r tri chais blaenllaw yn y sector CBD, y gwnaethom ymgynghori arnynt yr haf diwethaf.
-
Cyhoeddwyd canllawiau gorfodi ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl. Datblygwyd y canllawiau ar y cyd ag awdurdodau lleol yng Nghymru i’w cefnogi i gyflawni eu dyletswyddau wrth gynnal rheolaethau swyddogol. Daw hyn yn sgil cyflwyno deddfwriaeth yn Lloegr sy’n caniatáu awdurdodi cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl. O dan egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a geir yn Neddf Marchnad Fewnol y DU, gellir caniatáu gwerthu’r cynhyrchion hyn yng Nghymru, â rhai eithriadau. Mae canllawiau cyfatebol penodol hefyd wedi’u cyhoeddi yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
-
Rydym yn parhau i gynorthwyo i lunio agweddau iechyd y cyhoedd ar Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS). Mae hyn yn cynnwys chwarae rôl allweddol yn Rhaglen Cytundeb SPS yr ASB. Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n cylch gwaith ehangach ar safonau bwyd, yn ogystal â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru. Wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo, rydym yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i gynllunio’r broses weithredu. Rhannodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gyhoeddiad cyhoeddus ar 9 Mawrth 2027, gan amlinellu y bydd angen i bob busnes yn y DU fod yn barod i alinio’n ddeinamig â rheolau’r UE ar gynhyrchu, symud a masnachu planhigion, chynhyrchion anifeiliaid, a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, erbyn canol 2027. Gwnaethom ysgrifennu at y diwydiant, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru i dynnu sylw at y cyhoeddiad, ac i’w hannog i ymgyfarwyddo â’r newidiadau rheoleiddio posib.
Mae ein timau cyflawni, sy’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol ac yn cynnal gwaith archwilio rheoleiddiol a diogelu defnyddwyr yng Nghymru, wedi bod yn ymwneud â’r canlynol yn ddiweddar:
-
Darparwyd trawsnewidiadau cronfa ddata ffurfiol i bedwar awdurdod lleol, er mwyn eu galluogi i ddechrau gweithio yn unol â’r Model Gweithredu Safonau Bwyd (FSDM) newydd. Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol i weithredu’r FSDM drwy gynnal galwadau un i un rheolaidd a darparu deunydd hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys sawl gweminar a gyflwynir gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI). Gwnaeth 209 o swyddogion ledled Cymru gymryd rhan yn y gweminarau hyn, ac maent bellach ar gael i awdurdodau lleol drwy sianel YouTube yr ASB. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn. Roedd 94% wedi rhoi sgôr ‘Rhagorol’ neu ‘Dda Iawn’ i’r hyfforddiant, ac roedd 98% wedi dweud bod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn. Mae saith awdurdod lleol yn bwriadu mabwysiadu’r FSDM o fis Ebrill ymlaen, gan ddangos momentwm cadarn tuag at ei gyflwyno’n ehangach.
-
Mae’r Grŵp Llywodraethu Bwyd Anifeiliaid wedi cytuno ar y cynnig ar gyfer rhaglen cyflenwi bwyd anifeiliaid 2026-27. Ar hyn o bryd, rydym yn aros am bedair dogfen Memorandwm o Ddealltwriaeth (MOU) gan arweinwyr rhanbarthol dros fwyd anifeiliaid. Mae dwy wedi eu dychwelyd hyd yn hyn.
-
Mae’r prosiect Cofrestru Manylach wedi’i gwblhau. Yn unol â’r cytundeb cydweithredu, gwnaethom weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol ledled Cymru i archwilio a oes angen system well o gofrestru neu drwyddedu ar gyfer busnesau bwyd – sef cymeradwyaeth ymlaen llaw yn hytrach na hawl i gofrestru. Mae diweddariad wedi’i ddarparu i’r Gweinidog. Y nod oedd asesu a allai gofyn am ragor o wybodaeth gan weithredwyr busnesau bwyd ar adeg cofrestru helpu i wella cydymffurfiaeth, drwy eu hannog i ystyried y gofynion o’r cychwyn cyntaf, gan leihau’r baich ar awdurdodau lleol. Mae’r rhaglen waith hon bellach wedi symud i Raglen Dyfodol Rheoleiddio Bwyd, a byddwn yn gweithio ar draws y tair gwlad i’w symud ymlaen.
-
Rhannwyd Cynllun Archwilio 2026–27 ag awdurdodau lleol, gan roi rhagolwg cynnar o’r gweithgarwch archwilio. Mae hyn yn eu galluogi i gynllunio a pharatoi’n effeithiol, ac yn cefnogi tryloywder a dull adeiladol o gael sicrwydd. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â gwaith samplu hylendid bwyd a safonau bwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol.
-
Cyflwynwyd gwaith y tîm digwyddiadau yng Nghymru i Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol. Defnyddiwyd y digwyddiad fformiwla fabanod i ddangos pa mor gymhleth yw’r gadwyn fwyd. Cryfhaodd y sesiwn ddealltwriaeth o rôl yr ASB wrth reoli digwyddiadau ac mae gwaith dilynol ar waith i ymgysylltu â sawl adran o Lywodraeth Cymru er mwyn archwilio cyfleoedd i gydweithio’n agosach.
-
Mae’r tîm diogelu defnyddwyr wedi llwyddo i reoli a chydlynu rhaglen samplu safonau bwyd yr ASB ar gyfer 2025–26. Yn ystod y rhaglen, cymerwyd 219 o samplau ar draws naw awdurdod lleol. Roedd y samplau’n cwmpasu meysydd fel rhywogaethau cig mewn prydau tecawê, Datganiad Cynhwysion Meintiol (QUID) mewn brechdanau, alergenau mewn coffi, prydau tecawê a phrydau ysgol, nwyddau rhydd a rhai wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol, cynnwys cig mewn byrgyrs a selsig, a metelau trwm mewn llysiau.
Mae ein tîm cyfathrebu dwyieithog yng Nghymru wedi parhau i sicrhau bod negeseuon allweddol yr ASB yn cael eu lledaenu ledled Cymru, ac mae hyn wedi cynnwys:
-
Rydym yn parhau i dyfu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol dwyieithog newydd. Perfformiodd ein cynnwys ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi yn eithriadol o dda, gan bwysleisio pwysigrwydd sianeli cyfryngau cymdeithasol sy’n benodol i Gymru. Enghraifft arall sy’n arbennig o berthnasol i’r Pwyllgor hwn yw’r cynnwys a rannwyd ar ôl ein cyfarfod â thema diweddar ar atchwanegiadau. Roedd hyn yn cynnwys fideo byr ohonof yn tynnu sylw at werth y cyfarfodydd hyn, ac yn codi ymwybyddiaeth o ddatblygu terminoleg Gymraeg ym maes gwaith yr ASB. Mae llwyddiant adrodd straeon sy’n berthnasol yn ddiwylliannol, drwy’r Gymraeg, ynghyd â chynnwys gan staff o flaen y camera, wedi atgyfnerthu gwerth llwyfannau pwrpasol i Gymru. Bydd y dull hwn yn parhau i gael blaenoriaeth er mwyn cynyddu ein cyrhaeddiad, ein hymgysylltiad a’n proffil.
-
Yn ddiweddar, buom yn gweithio gyda Busnes Cymru ar erthygl am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru: ‘Gall Pob Busnes Bwyd Ennill Sgôr Hylendid Bwyd o 5’. Mae’r erthygl yn tynnu sylw at fanteision cael sgôr hylendid cryf i fusnesau bwyd a rôl hanfodol awdurdodau lleol. Cafodd yr erthygl ei chynnwys yng nghylchlythyr Busnes Cymru, sydd â 15,000 o danysgrifwyr, a’i rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Busnes Cymru a’r ASB. Helpodd y gweithgaredd hwn i atgyfnerthu negeseuon allweddol am hylendid a chynyddu cydymffurfiaeth a hyder yn y cynllun ymhlith busnesau.
-
Dros y misoedd nesaf, prif ffocws ein gwaith cyfathrebu a’n gweithgarwch â rhanddeiliaid fydd cyflwyno ymgyrch ar gamwybodaeth a thwyllwybodaeth yn ystod mis Mai a mis Mehefin. Bydd hyn yn cynnwys cyfres o flogiau, fideos a deunyddiau ategol dwyieithog, sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Nod yr ymgyrch yw darparu tystiolaeth glir a chyngor awdurdodol, wedi’i seilio ar bynciau sy’n arbennig o agored i gamwybodaeth, gan gynnwys ychwanegion bwyd a bwyd anifeiliaid, galw bwyd yn ôl a chynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd. Drwy’r rhaglen hon o weithgarwch, ein nod yw atgyfnerthu rôl yr ASB fel llais dibynadwy a chredadwy ar ddiogelwch bwyd, gwella dealltwriaeth y cyhoedd o faterion cymhleth, a mynd i’r afael â rhannu camwybodaeth a thwyllwybodaeth yn y system fwyd. Bydd yr ymgyrch hon yn cael ei rhannu a’i hyrwyddo drwy weithio mewn partneriaeth, yn ogystal â thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol dwyieithog yng Nghymru.
Edrych ymlaen
Bydd llawer o’r gwaith yn yr adroddiad hwn yn parhau yn ystod y misoedd nesaf. Hefyd, byddwn yn gweithio ar y prosiectau a’r ffrydiau gwaith canlynol.
Cyn etholiad y Senedd, rydym wedi bod yn paratoi’n weithredol drwy fonitro maniffestos y pleidiau a safbwyntiau ar bolisïau sy’n berthnasol i gylch gwaith yr ASB, a thrwy asesu’r goblygiadau posib ar gyfer ein gwaith yng Nghymru. Mae hyn wedi’i gefnogi drwy ddatblygu a diweddaru briffiau mewnol, er mwyn sicrhau ein bod mewn sefyllfa gadarn i ymgysylltu’n gynnar ag Aelodau o’r Senedd a Gweinidogion newydd, ac i ymateb yn hyderus wrth i flaenoriaethau newydd ddod i’r amlwg.
Yn dilyn yr etholiad, byddwn yn mabwysiadu dull rhagweithiol a strwythuredig o feithrin perthnasoedd ag Aelodau newydd o’r Senedd, a chyda’r Gweinidogion a benodir i bortffolio’r ASB. Byddwn yn defnyddio llwyfannau ymgysylltu sydd eisoes wedi’u sefydlu, gan gynnwys Y Farchnad, ochr yn ochr â chyfathrebu’n rheolaidd ag Aelodau o’r Senedd. Bydd hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o rôl yr ASB yng Nghymru, i arddangos ein gwaith, ac i dynnu sylw at ein prif flaenoriaethau. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan drosolwg clir a hygyrch o’n blaenoriaethau strategol a’n prosiectau cyfredol yng Nghymru, wedi’i gynllunio i hwyluso ymgysylltiad cynnar, deialog cytbwys a chydweithio parhaus.
Byddwn yn cefnogi rhaglen ymgysylltu dargededig yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eto eleni. Rydym hefyd yn cynllunio cyfres o gyfarfodydd rhwng Cadeirydd yr ASB, Cadeirydd WFAC a rhanddeiliaid er mwyn cryfhau perthnasoedd a chytuno ar flaenoriaethau allweddol, yn enwedig gan y bydd gennym lywodraeth a Gweinidogion newydd yng Nghymru.
Yn ogystal, rydym hefyd yn cynllunio ein presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst fel cyfle allweddol i ymgysylltu’n uniongyrchol â defnyddwyr a’r cyhoedd ehangach. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llantwd eleni, yng nghanol gogledd Sir Benfro. Yn unol â’r arfer, bydd stondin wybodaeth gennym lle bydd ein gwirfoddolwyr cyfeillgar a gwybodus yn cynnig cyngor wyneb yn wyneb, yn cynnal sgyrsiau cytbwys am ddiogelwch bwyd, ac yn codi ymwybyddiaeth o rôl, cyfrifoldebau a blaenoriaethau’r ASB yng Nghymru, er mwyn meithrin dealltwriaeth ac ymddiriedaeth y cyhoedd.
Ym mis Medi eleni, bydd Bwrdd yr ASB yn cwrdd yn Abertawe , ac mae tîm Cymru eisoes yn rhan o’r gwaith cynllunio ac yn cynnig cefnogaeth. Bydd hyn yn cynnwys trefnu cyfarfodydd a’r trefniadau cysylltiedig o ran logisteg, yn ogystal â hwyluso rhaglen o ymweliadau lleol, a fydd yn arddangos busnesau bwyd Cymru, arloesedd a chyflawni gwaith rheoleiddio, ac yn cefnogi dealltwriaeth aelodau’r Bwrdd o’r systemau bwyd yng Nghymru.
Dros yr haf, byddwn yn parhau i rannu ein hymgyrch hylendid bwyd â defnyddwyr yng Nghymru, i gyd-fynd â Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd ym mis Mehefin. Bydd ein gweithgarwch yn canolbwyntio ar ysgogi newid ymddygiad drwy wella dealltwriaeth defnyddwyr o arferion hylendid gwael yn y gegin, ac annog camau syml i leihau’r risg o salwch a gludir gan fwyd. Bydd y negeseuon yn targedu cynulleidfa gyhoeddus eang, gyda gwaith allgymorth wedi’i deilwra i grwpiau mwy agored i niwed drwy weithio mewn partneriaeth. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol ar draws ein llwyfannau dwyieithog yng Nghymru. Byddwn hefyd yn rhannu pecynnau adnoddau ag awdurdodau lleol a phartneriaid i helpu i gefnogi a hyrwyddo’r ymgyrch hon.
Ac yn olaf, dyma rannu dyddiad i’ch dyddiaduron. Byddwn yn cynnal ein digwyddiad ymgysylltu seneddol blynyddol yn y Senedd ar 1 Rhagfyr. Mae’n ddyddiau cynnar i’r cynlluniau hyn, a byddaf yn darparu diweddariad manylach yn fy adroddiad nesaf i’r Pwyllgor.