Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer system ddiwygiedig o gefnogaeth ariannol i ladd-dai a sefydliadau trin helgig
Gwahoddir safbwyntiau ar gynlluniau i adolygu’r gefnogaeth ariannol i ladd-dai a sefydliadau trin helgig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Cwmpas daearyddol yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymestyn i gylch gwaith daearyddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), sef Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Gweithredwyr busnesau bwyd yn y diwydiant cig y mae eu gweithgareddau yn destun arolygiadau y codir tâl amdanynt gan yr ASB. Yn benodol, y rheiny sy’n cael gostyngiad ar eu tâl. Mae hyn yn cynnwys gweithredwyr:
- lladd-dai cymeradwy
- ffatrïoedd torri
- sefydliadau trin helgig
- cyfleusterau lladd ar y fferm
Yn ogystal:
- cyrff masnach sy’n cynrychioli gweithredwyr busnesau bwyd o’r fath
- cwsmeriaid gweithredwyr busnesau bwyd o’r fath (gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd) a’u cymdeithasau masnach, er enghraifft, undebau ffermwyr
- cyrff proffesiynol sy’n cynrychioli’r rheiny sy’n cynnal arolygiadau mewn safleoedd cig
- cymdeithasau a grwpiau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd neu reoli arian cyhoeddus
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd safbwyntiau a thystiolaeth ar y canlynol:
- rhesymeg yr ASB dros newid a’r diwygiadau arfaethedig i’r system gefnogaeth i fodloni’r rhesymeg honno
- safbwyntiau neu awgrymiadau amgen a allai helpu i fireinio’r cynigion cyn i Fwrdd yr ASB, ac yn y pen draw weinidogion yn y tair gwlad, wneud penderfyniadau terfynol
- yr effaith bosib ar weithredwyr busnesau bwyd, defnyddwyr, a’r system fwyd ehangach a fyddai’n deillio o’r newidiadau
Bydd yr ymatebion yn llywio’r polisi terfynol. Byddant yn sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r fframwaith gostyngiadau a argymhellir i Fwrdd yr ASB, ac yn y pen draw i weinidogion, yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur, ac yn dryloyw.
Mae dwy elfen benodol i drefn yr ASB o godi tâl am reolaethau cig:
- Y taliadau am gynnal reolaethau swyddogol.
- Y gefnogaeth ariannol a ddarperir drwy gynllun gostyngiadau.
Ar hyn o bryd, nid yw’r ASB yn ymgynghori, nac yn gwahodd safbwyntiau, ar unrhyw newidiadau i’r system y tu hwnt i’r rhai a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r rhain yn ymwneud yn unig â chynigion ar gyfer system ddiwygiedig o gefnogaeth ariannol drwy ostyngiadau ar daliadau am reolaethau swyddogol.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.
England, Northern Ireland and Wales
Sut i ymateb
Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn dydd Gwener 12 Mehefin 2026.
Ymatebwch gan ddefnyddio’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein.
Neu gallwch ymateb drwy e-bostio meatchargingpolicy@food.gov.uk. Cofiwch gynnwys y canlynol yn eich e-bost:
- a ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad
- y wlad yr ydych ynddi – Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr neu arall
- maint eich sefydliad:
- 9 neu lai o weithwyr (micro)
- 10 – 49 o weithwyr (bach)
- 50 – 249 o weithwyr (canolig)
- 250 neu fwy o weithwyr (mawr)
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.