Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer system ddiwygiedig o gefnogaeth ariannol i ladd-dai a sefydliadau trin helgig

Gwahoddir safbwyntiau ar gynlluniau i adolygu’r gefnogaeth ariannol i ladd-dai a sefydliadau trin helgig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2026

Cwmpas daearyddol yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymestyn i gylch gwaith daearyddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), sef Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Gweithredwyr busnesau bwyd yn y diwydiant cig y mae eu gweithgareddau yn destun arolygiadau y codir tâl amdanynt gan yr ASB. Yn benodol, y rheiny sy’n cael gostyngiad ar eu tâl. Mae hyn yn cynnwys gweithredwyr:

  • lladd-dai cymeradwy
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • cyfleusterau lladd ar y fferm

Yn ogystal:

  • cyrff masnach sy’n cynrychioli gweithredwyr busnesau bwyd o’r fath
  • cwsmeriaid gweithredwyr busnesau bwyd o’r fath (gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd) a’u cymdeithasau masnach, er enghraifft, undebau ffermwyr
  • cyrff proffesiynol sy’n cynrychioli’r rheiny sy’n cynnal arolygiadau mewn safleoedd cig
  • cymdeithasau a grwpiau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd neu reoli arian cyhoeddus

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd safbwyntiau a thystiolaeth ar y canlynol:

  • rhesymeg yr ASB dros newid a’r diwygiadau arfaethedig i’r system gefnogaeth i fodloni’r rhesymeg honno
  • safbwyntiau neu awgrymiadau amgen a allai helpu i fireinio’r cynigion cyn i Fwrdd yr ASB, ac yn y pen draw weinidogion yn y tair gwlad, wneud penderfyniadau terfynol
  • yr effaith bosib ar weithredwyr busnesau bwyd, defnyddwyr, a’r system fwyd ehangach a fyddai’n deillio o’r newidiadau

Bydd yr ymatebion yn llywio’r polisi terfynol. Byddant yn sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r fframwaith gostyngiadau a argymhellir i Fwrdd yr ASB, ac yn y pen draw i weinidogion, yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gymesur, ac yn dryloyw.

Mae dwy elfen benodol i drefn yr ASB o godi tâl am reolaethau cig:

  1. Y taliadau am gynnal reolaethau swyddogol.
  2. Y gefnogaeth ariannol a ddarperir drwy gynllun gostyngiadau.

Ar hyn o bryd, nid yw’r ASB yn ymgynghori, nac yn gwahodd safbwyntiau, ar unrhyw newidiadau i’r system y tu hwnt i’r rhai a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r rhain yn ymwneud yn unig â chynigion ar gyfer system ddiwygiedig o gefnogaeth ariannol drwy ostyngiadau ar daliadau am reolaethau swyddogol.

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.  

England, Northern Ireland and Wales

Sut i ymateb

Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn dydd Gwener 12 Mehefin 2026.

Ymatebwch gan ddefnyddio’r ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein.

Neu gallwch ymateb drwy e-bostio meatchargingpolicy@food.gov.uk. Cofiwch gynnwys y canlynol yn eich e-bost:

  • a ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad
  • y wlad yr ydych ynddi – Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr neu arall
  • maint eich sefydliad:
    • 9 neu lai o weithwyr (micro)
    • 10 – 49 o weithwyr (bach)
    • 50 – 249 o weithwyr (canolig)
    • 250 neu fwy o weithwyr (mawr)

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Y bwriad yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ar y dudalen hon o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.