Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Ymgynghoriad ar awdurdodi un bwyd traddodiadol i’w roi ar y farchnad ar sail hysbysiad – mis Ionawr 2026

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Ionawr 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Ionawr 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, awdurdodau iechyd lleol a phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae ymgynghoriad cyfochrog ar wahân yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS).

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, a gyflwynwyd o dan Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 (“y Rheoliadau Bwydydd Newydd”) – Hysbysiad o fwyd traddodiadol o drydedd wlad.

  • Awdurdodiad newydd ar gyfer cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.) Verdc.)

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk. Rhoddir manylion llawn ar sut i ymateb isod.

Diffiniadau

Mae’r hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig yn yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud â bwyd traddodiadol o drydedd wlad. Gall yr wybodaeth a’r diffiniadau canlynol fod o ddefnydd wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Cynhyrchion rheoleiddiedig

Mae’n rhaid i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, fynd trwy broses dadansoddi risg, ac mae’n rhaid eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, gan gynnwys y prosesau dadansoddi risg a rheoli risg, a chyfraniad gweinidogion yma: Cefndir ar roi cynnyrch rheoleiddiedig ar y farchnad.

Bwydydd newydd

Bwydydd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997 yw bwydydd newydd. Er mwyn rhoi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, neu newid y manylebau neu’r amodau ar gyfer defnyddio bwydydd newydd awdurdodedig, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd 2015/2015. Darllenwch ganllawiau ar awdurdodi bwydydd newydd am fwy o wybodaeth.

Hysbysiad am fwyd traddodiadol (‘Erthygl 14’) 

Dyma lwybr symlach i awdurdodi cynhyrchion sydd wedi cael eu bwyta y tu allan i’r DU neu’r UE am o leiaf 25 mlynedd cyn i’r hysbysiad gael ei wneud. Anogir ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth am yr hyn y gellir ei ddysgu am y risgiau diogelwch o’r defnydd presennol hwn. Bydd yr ASB yn cynnal adolygiad o fewn pedwar mis. Os nad oes gan yr ASB unrhyw wrthwynebiadau diogelwch, caiff y cynnyrch ei awdurdodi a’i roi ar y rhestr awdurdodedig.

Awdurdodi bwyd traddodiadol (‘Erthygl 16’)

Os oes gan yr ASB wrthwynebiadau diogelwch yn dilyn cais Erthygl 14, nid yw’r cynnyrch wedi’i awdurdodi i’w roi ar farchnad Prydain Fawr. Yn dilyn hyn, gall yr ymgeisydd gyflwyno cais drwy lwybr Erthygl 16, lle mae angen gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gwrthwynebiadau diogelwch a godwyd gan yr ASB yn ystod proses Erthygl 14. Ni chododd yr ASB wrthwynebiadau diogelwch ar gyfer rhoi’r cynnyrch hwn ar y farchnad, felly mae’n mynd yn ei flaen fel hysbysiad Erthygl 14.

Rheoliadau a gymathwyd

Nid yw deddfwriaeth yr UE sy’n uniongyrchol gymwys bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Cafodd deddfwriaeth yr UE, a ddargedwyd (‘retained’) pan ymadawodd y DU â’r UE, ei chymathu (‘assimilate’) ar 31 Rhagfyr 2023. Pan fydd cyfeiriadau at ddeddfwriaeth ag ‘UE/EU’ neu ‘CE/EC’ yn y teitl, dylid ystyried bod y rhain bellach yn gyfraith a gymathwyd lle bônt yn gymwys i Brydain Fawr. Cyhoeddir cyfreithiau a gymathwyd ar legislation.gov.uk. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.

Mae’r Fframwaith Cyffredin dros dro ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn drefniant anstatudol rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli.  Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i ddatblygu yn unol â’r ymrwymiadau i weithio ar y cyd ar draws y pedair gwlad, fel y nodir yn y Fframwaith hwn. Felly, datblygwyd yr ymgynghoriad hwn drwy ddull pedair gwlad. Cytunir ar yr argymhellion terfynol ar sail pedair gwlad cyn eu cyflwyno i weinidogion Cymru, Lloegr a’r Alban, gyda Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon yn cael gwybod y datblygiadau diweddaraf. Mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan lawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU yn ei chyfanrwydd.

Crynodeb o allbwn gwyddonol a mesurau diogelu

Aseswyr risg yr ASB ac FSS sy’n cyflwyno’r wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a disgrifio peryglon a risgiau i iechyd, ac am asesu lefelau cysylltiad (‘exposure’). Ar gyfer y bwyd traddodiadol hwn, adolygodd y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) yr hysbysiad, a chyhoeddodd ei allbwn. Mae ymateb yr ASB i’w allbwn i’w weld yn yr Atodiad isod.

Rheoli risg

Mae ein hymgynghorwyr polisi yn gyfrifol am yr allbynnau rheoli risg. Mae dogfen argymhellion rheoli risg yr ASB yn cyflwyno’r ffactorau y maent wedi’u nodi fel rhai sy’n berthnasol i’r hysbysiad hwn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad a wneir gan weinidogion, ac mae’n cynnwys telerau awdurdodi arfaethedig a darpariaethau perthnasol eraill. Mae dolen i’r ddogfen argymhellion rheoli risg ar gyfer yr hysbysiad i’w gweld yn yr atodiad perthnasol isod.

Manylion yr ymgynghoriad

Cyflwyniad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar yr hysbysiad am y cynnyrch rheoleiddiedig, cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.) Verdc.)

Ceir trosolwg o fanylion yr hysbysiad hwn yn yr atodiad isod. Am fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at y ddogfen argymhellion rheoli risg sydd hefyd i’w chael yn yr atodiad.

  • Atodiad A RP2272, cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.) Verdc.) (newydd) (Bwyd Traddodiadol)

Wrth ymgynghori, mae’r ASB yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y telerau awdurdodi arfaethedig ac unrhyw ofynion labelu. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau neu i nodi unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn i sylw gweinidogion cyn i’r hysbysiad gael ei awdurdodi.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr ASB yn ysgrifennu at weinidogion yng Nghymru a Lloegr ynghylch y telerau awdurdodi a labelu ar gyfer y cynnyrch hwn, cyn ei roi ar y farchnad. Yn yr Alban, bydd yr FSS yn ysgrifennu at ei gweinidog yn dilyn yr ymgynghoriad, ynghylch y telerau awdurdodi a labelu ar gyfer y cynnyrch hwn, cyn ei roi ar y farchnad. Bydd gweinidogion yng Ngogledd Iwerddon yn cael gwybod y diweddaraf.

Mae hyn yn unol â chyfrifoldeb yr ASB ac FSS dros roi cyngor, gwybodaeth neu gymorth i weinidogion am faterion diogelwch bwyd, neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd (Adran 6, Deddf Safonau Bwyd 1999, ac Adran 3, Deddf Bwyd (yr Alban) 2015). Unwaith y bydd y gweinidogion perthnasol wedi cael gwybod am yr awdurdodiad, byddant yn ystyried yr argymhellion rheoli risg ac unrhyw ddarpariaethau perthnasol a geir mewn cyfraith a gymathwyd a godwyd yn ystod y broses ymgynghori.

Effeithiau

Fel rhan o’r broses dadansoddi a rheoli risg, mae’r ASB wedi asesu’r effeithiau posib a fyddai’n deillio o’r cynigion. Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rhai a nodwyd amlaf fel effeithiau posib wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (hynny yw, effeithiau amgylcheddol, masnachol, gwleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol, effeithiau o ran dichonoldeb technegol, a buddiannau defnyddwyr).

Ar gyfer yr hysbysiad yn yr ymgynghoriad hwn, nid oes unrhyw effeithiau arwyddocaol wedi’u nodi. Rhestrir effeithiau manwl unigol, gan gynnwys masnach, Gogledd Iwerddon ac effeithiau eraill ar gyfer yr hysbysiad, yn y ddogfen rheoli risg gyfatebol. Yn gyffredinol, dylai awdurdodi’r cynnyrch hwn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector.

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori

Bob mis, cyhoeddir manylion yr holl geisiadau dilys am gynhyrchion rheoleiddiedig ar y Gofrestr Ceisiadau am Gynhyrchion Rheoleiddiedig ac ar wefan yr ASB.

Gwahoddir rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau a ofynnir isod mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill.

Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd ymatebion ar gael ar wefan yr ASB ac yn cael eu rhannu â gweinidogion.

Cwestiynau

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:

  1. Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu bryderon ynghylch y telerau awdurdodi ar gyfer cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.)) Verdc.) (fel yr amlinellir yn argymhelliad rheoli risg yr ASB ac FSS)?
  2. Oes unrhyw ffactorau eraill y dylai gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu’n barod?
  3. Oes gennych chi unrhyw adborth arall? Gan gynnwys ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy’n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy, fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol a ffactorau amgylcheddol).

Ymatebion

Rhaid cyflwyno ymatebion erbyn 11.59pm ar 25 Chwefror 2026. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat, neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Ymatebwch i’r ymgynghoriad drwy’r arolwg ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk

Nodwch pa gais/cynnyrch rydych chi’n ymateb yn eu cylch trwy ddefnyddio’r llinell bwnc ganlynol ar gyfer eich ymateb: Ymateb i ymgynghoriad RP2272 ar hysbysiad bwyd traddodiadol.

Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.

Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ymhen tua 3 mis ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben. I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.

Bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â gweinidogion yng Nghymru, Lloegr yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mwy o wybodaeth

Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.

Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Atodiad A: RP2272, cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.) Verdc.) (newydd) (Bwyd Traddodiadol)

Cefndir

Cyflwynwyd hysbysiad ar gyfer y bwyd traddodiadol, cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.) Verdc.), i’r ASB i’w awdurdodi ym Mhrydain Fawr ym mis Hydref 2024 gan WhatIF F&I Pte Ltd.

Er mwyn rhoi bwyd traddodiadol o drydedd wlad ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno hysbysiad yn unol â Rheoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 (“y Rheoliadau Bwydydd Newydd”).

O dan Erthygl 14 o’r Rheoliad, gall gweinidogion awdurdodi bwydydd traddodiadol sydd â hanes o gael eu defnyddio’n ddiogel mewn trydedd wlad, fel y diffinnir gan Erthygl 3.2(b) o’r Rheoliadau Bwydydd Newydd. Bydd y bwydydd traddodiadol awdurdodedig hyn wedi cael eu bwyta’n ddiogel y tu allan i’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd am o leiaf 25 mlynedd yn olynol cyn gwneud yr hysbysiad. 

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.) Verdc.) eisoes wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn yr UE.

Gogledd Iwerddon

Mae’r cynnyrch hwn eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon. Byddai awdurdodi’r cynnyrch hwn ym Mhrydain Fawr yn sicrhau aliniad â rheolau Gogledd Iwerddon.  

Argymhellion Rheoli Risg yr ASB

Argymhelliad rheoli risg yr ASB yw bod cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.) Verdc.), fel y’u disgrifir yn yr hysbysiad hwn, yn ddiogel ac nad ydynt yn debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac ar iechyd pobl ar y crynodiadau arfaethedig.