Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Adroddiad Cryno o Raglen Archwilio 2023-2024 a 2024-2025: trefniadau a phrosesau awdurdodau lleol ar gyfer darparu gwasanaethau, a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau

Penodol i Gymru

Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd o wasanaeth gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol, a gynhaliwyd i gyflawni cyfrifoldebau monitro ac archwilio statudol yr Asiantaeth. Ysgrifennwyd yr adroddiad ym mis Medi 2025.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Tachwedd 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Tachwedd 2025
Gweld yr holl ddiweddariadau

Rhagair

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd anifeiliaid, diogelwch bwyd a chyfraith safonau bwyd, ac am sicrhau bod rheolaethau swyddogol sy’n seiliedig ar risg yn cael eu cynnal mewn sefydliadau busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid, sydd â’r nod o wirio bod busnesau bwyd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Maent hefyd yn cyfrannu at ganlyniad strategol yr ASB, sef bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid o ddydd i ddydd.

Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleolo dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Mae’n ofynnol i’r ASB fonitro ac archwilio gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol o dan y ddeddfwriaeth hon a Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625. Wrth ddatblygu ei threfniadau archwilio, mae’r ASB wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd ar sut y dylai archwiliadau o’r fath gael eu cynnal. 

Yn ogystal ag asesu’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol yn erbyn gofynion cyfreithiol a chanllawiau statudol, mae’r broses archwilio hefyd yn rhoi’r cyfle i nodi a lledaenu arferion da ac i ddarparu gwybodaeth i lywio polisi’r ASB ar weithredu a gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae archwiliadau’r ASB yn asesu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â gofynion Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625 a’r Safon Gorfodi Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid o fewn y Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd gan Awdurdodau Lleol (y Cytundeb Fframwaith). Cynhaliwyd asesiadau hefyd yn erbyn Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2021 (FLCoP) ynghyd â chanllawiau cysylltiedig a gyhoeddir yn ganolog, gan gynnwys Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2021.

Mae’r adroddiad hwn ar gael ar ffurf copi caled gan Dîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio’r ASB, Yr ASB yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, ac yn electronig ar wefan yr ASB.

1.0 Cyflwyniad

Cefndir

1.1 Mae archwilio’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhelir gan awdurdodau lleol yn rhan o drefniadau’r ASB i wella diogelwch a hyder defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae gweithredu rheolaethau swyddogol sy’n seiliedig ar risg mewn busnesau bwyd ar amlderau priodol yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a sicrhau diogelwch bwyd i ddefnyddwyr.

1.2 Mewn ymateb i bandemig COVID-19, gwnaeth yr ASB gysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol yng Nghymru i roi cymorth iddynt ar y safonau disgwyliedig o ran cynnal gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd.

1.3 Ar 16 Mehefin 2021, rhoddwyd manylion canllawiau Cynllun Adfer yr ASB i awdurdodau lleol. Roedd y Cynllun Adfer yn nodi canllawiau a chyngor yr ASB i awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a mis Mawrth 2023. Y nod oedd sicrhau, yn ystod y cyfnod adfer yn sgil effaith pandemig COVID-19, fod adnoddau awdurdodau lleol yn cael eu targedu lle’r oeddent yn ychwanegu’r gwerth mwyaf wrth ddarparu mesurau diogelu ar gyfer iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Roedd hefyd yn bwriadu diogelu uniondeb y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. 

1.4 Roedd y Cynllun Adfer yn darparu fframwaith ar gyfer y system cynnal rheolaethau swyddogol, yn unol â’r FLCoP ar gyfer sefydliadau bwyd newydd a sefydliadau risg uchel a/neu sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio, a hynny wrth gynnig hyblygrwydd i sefydliadau risg is ar yr un pryd. 

1.5 Ar 20 Chwefror 2023, anfonwyd cyfathrebiad at awdurdodau lleol yng Nghymru i gadarnhau y byddai’r Cynllun Adfer yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023. O 1 Ebrill 2023, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol:    

  • gynnal ymyriadau priodol ar gyfer sefydliadau sydd yn ôl yn y rhaglen ymyriadau arferol yn unol â’r amlderau a nodir yn yr FLCoP
  • gweithio tuag at ail-alinio â’r darpariaethau a nodir yn yr FLCoP o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan ddefnyddio’r ystod lawn o hyblygrwydd a gynigir eisoes gan yr FLCoP. Gellir dod o hyd i’r rhain ym Mhennod 4 o’r FLCoP a Phennod 4 o Ganllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 
  • parhau i arfer dull sy’n seiliedig ar risg ar gyfer y gofynion a nodir yn y Cod yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael  

1.6 Rhan allweddol o gylch gwaith yr ASB yn ei rôl fel Awdurdod Cymwys yw rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau bwyd, fel awdurdodau lleol, yn darparu ac yn gweithredu’n gywir unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau bwyd a bwyd anifeiliaid maent yn eu darparu o fewn cylch gwaith yr ASB. Mae’r rhaglen archwilio hon, ar y cyd â’r arolygon perfformio chwe misol, yn darparu elfen allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.

1.7 Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.  

1.8 Mae’r Cytundeb Fframwaith ar waith awdurdodau lleol o orfodi cyfraith bwyd yn nodi’r trefniadau y mae’r ASB yn eu defnyddio i fonitro ac archwilio gweithgareddau gorfodi awdurdodau lleol i helpu i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Cwmpas Rhaglen Archwilio 2023-2024 a 2024-2025

1.9 Cynhaliwyd archwiliadau o 16 o’r 22 awdurdod bwyd yng Nghymru, y mae tri ohonynt wedi’u huno’n un gwasanaeth. Felly, archwiliwyd 14 o 20 o wasanaethau gorfodi bwyd. Ystyriodd yr archwiliadau y canlynol:  

  • trefniadau a phrosesau ar gyfer cynllunio darpariaeth gwasanaethau – gan gynnwys asesiad o gynllun ymyrryd awdurdodau lleol, yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a dull blaenoriaethu gweithgareddau sy’n seiliedig ar risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd
  • camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau o archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliad yn unol â hynny 

1.10 Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen archwilio, ymgysylltodd yr ASB â rhanddeiliaid perthnasol a llunio cynllun archwilio ar gyfer y ddwy flynedd y bu’r rhaglen archwilio’n rhedeg. Mae’r rhain wedi’u hatodi yn Atodiad A. 

2.0 Methodoleg Archwilio

2.1 Cafodd awdurdodau lleol lythyr cyn yr archwiliad yn gofyn am gopïau o’u cynllun gwasanaeth, rhaglenni samplu, manylion adnoddau staffio, data ar ymyriadau sefydliadau bwyd a dogfennaeth gysylltiedig. 

2.2 Cafodd awdurdodau lleol hefyd gopi o unrhyw adroddiadau archwilio/cynlluniau gweithredu perthnasol, a gofynnwyd iddynt ddarparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed ar gamau gweithredu oedd heb eu cyflawni.

2.3 Yna, cynhaliwyd archwiliad strwythuredig ar y safle, a oedd yn cynnwys cyfarfodydd gyda Phennaeth y Gwasanaeth, swyddogion arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ynghylch y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol, yn ogystal ag archwiliad o ddetholiad o gofnodion ar reolaethau swyddogol bwyd. 

2.4 Cynhaliwyd yr archwiliadau rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2025. Treuliodd bob awdurdod lleol 1½ diwrnod gwaith ar yr elfen archwiliad ar y safle. 

2.5 Cafodd pob awdurdod lleol yn y rhaglen archwilio adroddiad ysgrifenedig yn dilyn yr archwiliad a oedd yn cynnwys asesiad o sicrwydd ar gyfer gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd a chynllun gweithredu diweddaredig yn sgil archwiliad, a gyhoeddwyd ar wefan yr ASB.   

3.0 Canfyddiadau’r Archwiliad

Cynllunio a darparu gwasanaethau

3.1 Roedd gwasanaethau pob un o’r 14 awdurdod lleol naill ai’n dilyn, neu’n dilyn i raddau helaeth, ganllawiau’r ASB ar gynllunio gwasanaethau i gynllunio eu darpariaeth gwasanaethau ar gyfer hylendid a safonau bwyd.  

3.2 Roedd un gwasanaeth safonau bwyd wedi ail-alinio i raddau helaeth â’r amlderau gofynnol ar gyfer cynnal ymyriadau o fewn y Cod.

3.3 Roedd pum gwasanaeth awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd da o ran ail-alinio â’r amlderau ymyrryd o fewn y Cod ar gyfer gwasanaethau hylendid a safonau bwyd. Roedd tri awdurdod lleol arall yn gwneud hynny ar gyfer hylendid bwyd yn unig. Roedd y gwasanaethau hyn yn dilyn cynlluniau seiliedig ar risg ac yn dangos cynnydd cyson tuag at ail-alinio â’r Cod.

3.4 Roedd gwasanaethau chwe awdurdod lleol yn gwneud cynnydd cyfyngedig o ran ail-alinio â’r amlderau ymyrryd o fewn y Cod ar gyfer hylendid a safonau bwyd. Roedd un awdurdod lleol arall yn gwneud hynny ar gyfer safonau bwyd yn unig. Yn y gwasanaethau hyn, roedd cynlluniau ar gyfer ail-alinio â’r Cod naill ai’n annigonol neu heb eu cefnogi’n ddigonol yn ymarferol; roedd hyn yn golygu bod awdurdodau lleol un ai’n methu ag ail-alinio neu roedd ansicrwydd o ran ail-alinio â’r Cod.

3.5 Roedd un gwasanaeth safonau bwyd nad oedd ag unrhyw gynllun i ail-alinio â’r Cod, a hynny oherwydd diffyg adnoddau. Roedd y gwasanaeth hwn wedi rhoi’r gorau i gynnal arolygiadau rhagweithiol mewn sefydliadau, heblaw am nifer bach o sefydliadau risg uchel.

3.6 Lle nad oedd awdurdodau lleol yn gwneud digon o gynnydd ar ail-alinio, roedd y canfyddiadau’n dangos y canlynol:

  • dim ond y nifer bach o ymyriadau mewn sefydliadau risg uchel a gynhaliodd un gwasanaeth safonau bwyd
  • roedd un awdurdod nad oedd yn gallu ymgymryd â’r holl ymyriadau hylendid bwyd a safonau bwyd gofynnol mewn sefydliadau risg uchel, ac roedd un arall nad oedd yn gallu cynnal ymyriadau hylendid bwyd
  • roedd tri gwasanaeth nad oeddent yn gallu mynd i’r afael yn ddigonol â’r ôl-groniad o safleoedd heb eu sgorio, na chadw i fyny â’r holl fusnesau newydd a oedd wedi dechrau gweithredu, a hynny ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd
  • roedd dau wasanaeth nad oedd yn gallu mynd i’r afael yn ddigonol â’r ôl-groniad o safleoedd heb eu sgorio ar gyfer safonau bwyd, na chadw i fyny â’r holl fusnesau newydd a oedd wedi dechrau gweithredu
  • nid oedd un gwasanaeth yn gallu mynd i’r afael â’r ôl-groniad o sefydliadau heb eu sgorio ar gyfer safonau bwyd
  • roedd pum gwasanaeth nad oeddent yn gallu cynnal yr holl ymyriadau risg ganolig dyledus ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd
  • roedd un gwasanaeth nad oedd yn gallu cynnal yr holl ymyriadau risg ganolig dyledus ar gyfer hylendid bwyd yn unig
  • roedd dau wasanaeth nad oeddent yn gallu cynnal yr holl ymyriadau risg ganolig dyledus ar gyfer safonau bwyd yn unig
  • roedd pum gwasanaeth nad oeddent yn gallu cynnal yr holl ymyriadau risg isel dyledus ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd
  • roedd un awdurdod lleol nad oedd yn gallu cynnal yr holl ymyriadau risg isel ar gyfer hylendid bwyd
  • roedd dau awdurdod lleol nad oeddent yn gallu cynnal yr holl ymyriadau risg isel ar gyfer safonau bwyd

3.7 Roedd mwyafrif y sefydliadau risg ganolig ar gyfer hylendid bwyd yn paratoi bwyd risg uchel agored ac roeddent wedi cael sgôr risg ganolig yn flaenorol oherwydd eu bod yn cydymffurfio’n dda. Oherwydd bod amser wedi mynd heibio ers yr arolygiad blaenorol, ni ellir sicrhau’r lefel hon o gydymffurfiaeth yn hyderus mwyach, ac mae’n bosib y bydd rhai o’r sefydliadau hyn bellach yn cael eu sgorio fel rhai risg uchel pan fyddant yn destun ymyriad. Dywedodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol eu bod wedi gorfod cymryd camau gorfodi mewn sefydliadau nad oeddent wedi bod yn destun ymyriad yn ddiweddar. Yn yr un modd, roedd llawer o’r arolygiadau safonau bwyd risg ganolig yn digwydd mewn busnesau a oedd yn paratoi ac yn pecynnu bwyd a oedd yn dynodi risg alergenau bosib. Lle na ellir sicrhau cydymffurfiaeth, gall y sefydliadau hyn beri risg sylweddol i iechyd eu defnyddwyr.

3.8 Pan na chaiff sefydliadau risg isel eu harolygu, mae risg y gallai gweithgareddau, perchnogion, rheolwyr, staff neu gydymffurfiaeth flaenorol y busnes fod wedi newid yn sylweddol. Mae hyn yn golygu y gallai rhai o’r sefydliadau hyn fod â phroffil risg gwahanol bellach. Heb gynnal ymyriadau, ni fyddai’r awdurdod lleol yn gallu nodi nac ymateb i unrhyw risgiau newydd neu risgiau ychwanegol.

3.9 Yn ogystal â gweithredu ymyriadau a raglennir, rhaid i awdurdodau lleol hefyd gymryd samplau o fwydydd yn seiliedig ar risg gan fusnesau yn eu hardal yn unol â rhaglen samplu, er mwyn profi a yw cynnyrch yn cydymffurfio. 

3.10 Yn y rhan fwyaf o wasanaethau, roedd y rhaglenni samplu ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd yn seiliedig ar risg. Roeddent yn targedu gweithgynhyrchwyr ac yn cynnwys cyfranogiad mewn arolygon lleol a chenedlaethol y cytunwyd arnynt. 

3.11 Fodd bynnag, mewn tri gwasanaeth hylendid bwyd a dau wasanaeth safonau bwyd, roedd diffyg eglurder yn y rhaglenni samplu. Nid oeddent yn seiliedig ar risg neu nid oeddent yn nodi niferoedd na mathau o weithgarwch samplu yn glir. 

3.12 Mewn tri gwasanaeth safonau bwyd arall, nid oedd rhaglen samplu’n bodoli, a hynny oherwydd bod diffyg adnoddau i gynnal gwaith samplu o’r fath. Mewn rhai achosion, collwyd cyllideb samplu flaenorol oherwydd toriadau ariannol.

3.13 Lle nad oedd awdurdodau lleol yn gwneud digon o gynnydd ar ail-alinio rhaglenni ymyriadau neu gyflawni rhaglenni samplu, adroddwyd nad oeddent yn gallu penodi digon o staff i gyflawni eu rhwymedigaethau.  Yn ôl yr awdurdodau lleol, roedd hyn oherwydd cyfuniad o’r ffactorau canlynol:

  • dim digon o swyddi
  • dim digon o gyllid ar gael
  • dim digon o staff cymwys ar gael yn y farchnad swyddi
  • dim digon o staff cymwys yn gwneud cais am swyddi a hysbysebir

Camau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau

3.14  Dilynwyd hynt camau archwilio perthnasol a oedd heb eu cwblhau o raglenni archwilio blaenorol. Roedd hyn yn cynnwys y camau gweithredu hynny o raglen archwilio lawn 2013-2017 ac archwiliad â ffocws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn 2017. Cyhoeddwyd cynllun gweithredu diweddaredig i bob awdurdod lleol, a chyhoeddwyd y rhain ar wefan yr ASB.

4.0 Casgliadau ac argymhellion

4.1 Dangosodd yr archwiliad, er bod pob awdurdod lleol naill ai’n dilyn canllawiau cynllunio gwasanaeth yr ASB, neu’n eu dilyn i raddau helaeth, fod gan ychydig dros hanner y gwasanaethau hylendid bwyd gynllun seiliedig ar risg ar waith er mwyn ail-alinio â’r amlderau ymyrryd yn y Cod, a’u bod yn gwneud cynnydd da o ran gweithredu’r cynlluniau hynny. Ar gyfer gwasanaethau safonau bwyd, er bod un gwasanaeth eisoes yn ail-alinio i raddau helaeth, roedd gan bump gwasanaeth arall gynllun yn seiliedig ar risg i ail-alinio â’r amlderau ymyrryd yn y Cod, ac roeddent yn gwneud cynnydd da wrth weithredu’r cynlluniau hynny.

4.2 Nid oedd gan wyth o’r 14 gwasanaeth safonau bwyd a chwech o’r 14 gwasanaeth hylendid bwyd gynllun digonol i ail-alinio â’r Cod, neu nid oeddent yn gwneud digon o gynnydd wrth weithredu cynlluniau. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd diffyg cefnogaeth fewnol a diffyg adnoddau digonol yn ffactor, yn ogystal â marchnad swyddi heriol ar gyfer swyddogion â chymwysterau priodol.

Argymhelliad 1

Dylai awdurdodau lleol fod â chynlluniau sy’n seiliedig ar risg ar waith sy’n nodi sut maent yn bwriadu darparu adnoddau ar gyfer a chynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol, yn unol ag amlder yr ymyriadau o fewn yr FLCoP. Dylent sicrhau bod y cynlluniau hynny’n cael eu cyfleu i’r uwch-reolwyr priodol/fforwm aelodau perthnasol ac ymrwymo i ddarparu digon o adnoddau ar gyfer eu gweithredu. 

[Erthyglau 5(1)(a) ac (e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; para 2.3 o’r FLCoP]

Argymhelliad 2

Rhaid i awdurdodau lleol fod â nifer digonol o swyddogion cymwys a phrofiadol, neu fod â mynediad at nifer digonol o swyddogion o’r fath, fel bod modd cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn effeithlon ac yn effeithiol yn unol â’r gyfraith a’r FLCoP.  

[Erthyglau 5(1)(e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; para 3.3.1 o’r FLCoP]

Argymhelliad 3

Dylai’r ASB barhau i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid perthnasol, er mwyn nodi’r ffactorau a fydd yn cefnogi marchnad swyddi gynaliadwy ar gyfer swyddogion hylendid bwyd a safonau bwyd cymwys. 

4.3  Roedd y mwyafrif o raglenni samplu bwyd awdurdodau lleol yn seiliedig ar risg ac yn cael eu gweithredu’n briodol. Fodd bynnag, mae angen gwella nifer bach o gynlluniau hylendid bwyd a safonau bwyd i sicrhau eu bod yn seiliedig ar risg, yn glir ac yn benodol o ran nifer y samplau sy’n cael eu targedu, a’r math o samplau. Yr hyn a berodd fwy o bryder oedd y ffaith bod nifer bach o wasanaethau safonau bwyd wedi gwneud penderfyniadau i beidio â chefnogi gwaith samplu safonau bwyd wedi’i raglennu, yn groes i ofynion y ddeddfwriaeth a'r Cod.

Argymhelliad 4

Dylai awdurdodau lleol fod â rhaglen i nodi manylion eu blaenoriaethau a’u gweithgareddau samplu bwyd sy’n seiliedig ar risg, gan gynnwys bwydydd a fewnforir. Dylai’r rhaglen ystyried, o leiaf, nifer y sefydliadau busnesau bwyd yn eu hardal, y math o sefydliadau busnesau bwyd, eu maint, a’u sgoriau ymyriadau, ac a yw unrhyw un o’u safleoedd bwyd yn delio â phrosesau arbenigol. 

[Erthyglau 5(1) (a), (d) ac (e), 9(1) a (2) ac 14(h) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; paragraff 2.3.3 a 4.5 o’r FLCoP] 

Archwilwyr y Rhaglen

Craig Sewell
Joshua Jolliffe
Sarah Maddox

Adran

Y Tîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio
Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
Llawr 4 
Adeilad Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd, CF10 3NQ

Atodiad A: Cynlluniau Archwilio

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

Cynllun archwilio awdurdodau lleol – Cymru  

Gorffennaf 2023 – Mawrth 2024  

Briff y Rhaglen 

Sarah Maddox
Pennaeth Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio – Yr ASB yng Nghymru  
E-bost sarah.maddox@food.gov.uk

Craig Sewell
Archwilydd Arweiniol Cymru – Yr ASB yng Nghymru  
E-bost craig.sewell@food.gov.uk

Cefndir

1. Mewn ymateb i bandemig COVID-19, gwnaeth yr ASB gysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol yng Nghymru i roi cymorth iddynt ar y safonau disgwyliedig o ran cynnal gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd. Ar 16 Mehefin 2021, rhoddwyd manylion canllawiau Cynllun Adfer yr ASB i awdurdodau lleol. 

2. Roedd y Cynllun Adfer yn nodi canllawiau a chyngor yr ASB i awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a mis Mawrth 2023. Y nod oedd sicrhau, yn ystod y cyfnod adfer yn sgil effaith pandemig COVID-19, fod adnoddau awdurdodau lleol yn cael eu targedu lle’r oeddent yn ychwanegu’r gwerth mwyaf wrth ddarparu mesurau diogelu ar gyfer iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Roedd hefyd yn bwriadu diogelu uniondeb y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. 

3. Roedd y Cynllun Adfer yn darparu fframwaith ar gyfer adfer y system cynnal rheolaethau swyddogol, yn unol â Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) ar gyfer sefydliadau bwyd newydd a sefydliadau risg uchel a/neu sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio, a hynny wrth gynnig hyblygrwydd i sefydliadau risg is ar yr un pryd. 

4. Ar 20 Chwefror 2023, anfonwyd llythyr drwy’r llwyfan Hwyluso Cyfathrebu at awdurdodau lleol yng Nghymru i gadarnhau y byddai’r Cynllun Adfer yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023. O 1 Ebrill 2023 ymlaen, nodwyd y dylai awdurdodau lleol fod yn paratoi i wneud y canlynol:  

  • cynnal ymyriadau sydd ar y gweill ar gyfer sefydliadau sy’n gweithredu unwaith eto yn rhan o’r rhaglen ymyriadau arferol yn unol â’r amlderau a nodir yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod). Mae hyn yn unol â’r disgwyliad yn y Cynllun Adfer, sef y dylai sefydliadau ddychwelyd i amlderau’r Cod ar ôl iddynt fod yn destun ymyriad fel rhan o’r Cynllun Adfer
  • gweithio tuag at ail-alinio â’r darpariaethau a nodir yn y Cod o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan ddefnyddio’r ystod lawn o hyblygrwydd a gynigir eisoes gan y Cod. Mae’r hyblygrwydd hwn, gan gynnwys yr eithriadau, i’w gweld ym Mhennod 2 (Pwynt 2.6.4) a Phennod 4 o’r Cod, a Phennod 4 o Ganllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru)
  • parhau i arfer dull sy’n seiliedig ar risg ar gyfer y gofynion a nodir yn y Cod yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael

5. Rhan allweddol o gylch gwaith yr ASB yn ei rôl fel awdurdod cymwys canolog yw rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau cymwys, fel awdurdodau lleol, yn darparu ac yn gweithredu’n gywir unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae’r rhaglen archwilio hon, ar y cyd â’r arolygon perfformiad chwarterol, yn darparu elfen allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.

6. Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleolo dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. 

7. Mae’r Cytundeb Fframwaith ar waith awdurdodau lleol o orfodi cyfraith bwyd yn nodi’r trefniadau y mae’r ASB yn eu defnyddio i fonitro ac archwilio gweithgareddau gorfodi awdurdodau lleol i helpu i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 

Amcanion y Rhaglen

8. Prif amcanion y rhaglen yw:  

  • cael sicrwydd bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweithredu’r canllawiau yn llythyr yr ASB, dyddiedig 20 Chwefror 2023, ynghylch diwedd y Cynllun Adfer. Bydd yn asesu sut mae awdurdodau lleol wedi cynllunio gwasanaethau a chynnal ymyriadau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau statudol, gan gynnwys Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod) 
  • lle nad yw awdurdodau lleol wedi gallu ailalinio â’r amlderau ymyrryd a nodir yn y Cod, bydd y rhaglen yn ceisio sicrwydd bod awdurdodau lleol wedi defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg ac wedi’i lywio gan gudd-wybodaeth i flaenoriaethu ymyriadau, a’u bod yn gweithio tuag at ailalinio â’r Cod. 

9. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn ceisio: 

  • nodi unrhyw enghreifftiau o arferion da ac arloesi a’u rhannu ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y rheolaethau a gynhelir 
  • cael sicrwydd bod awdurdodau lleol yn cynnal ymyriadau yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau statudol a Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 
  • cael dealltwriaeth ehangach o sut mae awdurdodau lleol wedi dehongli gofynion cyfathrebiadau a chanllawiau’r ASB, ac ymateb iddynt
  • amlygu unrhyw bryderon sy’n dod i’r amlwg neu faterion cyffredin sy’n effeithio ar awdurdodau lleol yn dilyn diwedd y Cynllun Adfer   
  • gwirio’r wybodaeth y mae awdurdodau lleol wedi’i darparu drwy’r arolygon cynnydd ac arolygon diwedd blwyddyn 
  • adolygu cynnydd awdurdodau lleol o ran gweithredu unrhyw argymhellion perthnasol sy’n weddill o archwiliadau blaenorol 

Cwmpas y Rhaglen Archwilio

10. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru i asesu’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio ac ymyriadau eu cynnal ar ôl diwedd y Cynllun Adfer, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol. Bydd yr archwiliadau’n canolbwyntio ar gynnal rheolaethau swyddogol mewn perthynas â hylendid a safonau bwyd.  

11. Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024 ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.   

12. Bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol wedi gallu dychwelyd at yr amlderau ymyrryd a nodir yn y Cod ar ôl i’r Cynllun Adfer ddod i ben, ac a ydynt yn cynnal rheolaethau swyddogol yn unol â deddfwriaeth berthnasol, y Cod Ymarfer a chanllawiau canolog perthnasol.  

13. Lle nad yw awdurdodau lleol wedi gallu dychwelyd at yr amlderau ymyrryd a nodir yn y Cod, bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol wedi defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg ac wedi’i lywio gan gudd-wybodaeth i flaenoriaethu ymyriadau, ac a oes ganddynt gynllun ar waith i ailalinio lunio â’r Cod yn y dyfodol. 

14. Bydd yr archwiliadau’n ystyried

  • trefniadau a phrosesau ar gyfer cynllunio darpariaeth gwasanaethau– gan gynnwys asesiad o gynllun ymyrryd awdurdodau lleol, yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a dull blaenoriaethu gweithgareddau sy’n seiliedig ar risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd
  • camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau o archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliad yn unol â hynny

Dull asesu

15. Bydd yr archwiliadau’n cynnwys: 

  • holiadur cyn yr archwiliad yn gofyn am gopïau o gynllun gwasanaeth yr awdurdod lleol, ymyriadau wedi’u cynllunio/cwblhau a dogfennau cysylltiedig   
  • bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cael copi o’r adroddiad archwilio/cynllun gweithredu diwethaf, a gofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’u cynnydd ar unrhyw gamau gweithredu sy’n weddill
  • bydd archwiliad strwythuredig ar y safle yn dilyn hyn a fydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r Pennaeth Gwasanaeth, swyddogion arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ar drefniadau ynghylch darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol  

Amseru

16. Cynhelir yr archwiliadau rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024. Ni ddylai’r archwiliad ar y safle gymryd mwy nag 1-2 ddiwrnod gwaith ar gyfer pob awdurdod lleol. 

Adroddiad Asesu a Chamau Dilynol 

17. Bydd pob awdurdod lleol yn y rhaglen yn cael adborth unigol yn ogystal â chynllun gweithredu diweddaredig yn dilyn yr archwiliad, a gyhoeddir ar wefan yr ASB. 

Canlyniadau disgwyliedig

18. Canlyniadau Uniongyrchol:

  • Cafwyd sicrwydd bod trefniadau effeithiol ar waith gan yr awdurdod lleol ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol yn dilyn diwedd y Cynllun Adfer  
  • Lle nad yw awdurdodau lleol wedi gallu dychwelyd i’r amlderau ymyrryd a nodir yn y Cod, bydd yr archwiliadau’n darparu sicrwydd bod gan yr awdurdod lleol gynllun sy’n seiliedig ar risg ar waith i ailalinio â’r Cod, a’u bod yn symud ymlaen â’r cynllun hwnnw
  • Bydd gwelliannau a chamau a gymerir gan awdurdodau lleol yn cyfrannu at waith gorfodi cyfraith bwyd mwy effeithiol ar lefel leol 
  • Bydd rhannu arferion da a nodwyd yn ehangach yn cyfrannu at wella ansawdd ac effeithiolrwydd y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd 
  • Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu rhannu â thimau perthnasol yr ASB er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau 
  • Bydd yr archwiliadau’n sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei rôl fel Awdurdod Cymwys Canolog 

19. Canlyniadau strategol:

  • Bydd yr archwiliadau’n codi proffil y gwasanaeth bwyd o fewn awdurdodau lleol ac yn eu helpu i gynnal/gwella’r modd y maent yn dyrannu adnoddau 
  • Sicrwydd cadarn ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu gofynion Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (OFFC) 
  • Partneriaeth gryfach rhwng yr ASB, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol 
  • Wrth i fusnesau gydymffurfio’n well â hylendid a safonau bwyd, bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o wella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau’r tebygolrwydd o afiechydon a gludir gan fwyd, digwyddiadau bwyd a thwyll bwyd 
  • Cyfrannu at ddulliau rheoli risg strategol yr ASB a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau’r DU o dan ofynion Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd, a Deddf Safonau Bwyd 1999 

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

Cynllun archwilio awdurdodau lleol – Cymru  
 
Ebrill 2024 – Mawrth 2025  
 
Briff y Rhaglen 

Sarah Maddox
Pennaeth Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio – Yr ASB yng Nghymru  
E-bost sarah.maddox@food.gov.uk

Craig Sewell
Archwilydd Arweiniol Cymru – Yr ASB yng Nghymru  
E-bost craig.sewell@food.gov.uk

Cefndir

1. Mewn ymateb i bandemig COVID-19, gwnaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol yng Nghymru i roi cymorth iddynt ar y safonau disgwyliedig o ran cynnal gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd. Ar 16 Mehefin 2021, rhoddwyd manylion canllawiau Cynllun Adfer yr ASB i awdurdodau lleol. 

2. Roedd y Cynllun Adfer yn nodi canllawiau a chyngor yr ASB i awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a mis Mawrth 2023. Y nod oedd sicrhau, yn ystod y cyfnod adfer yn sgil effaith pandemig COVID-19, fod adnoddau awdurdodau lleol yn cael eu targedu lle’r oeddent yn ychwanegu’r gwerth mwyaf wrth ddarparu mesurau diogelu ar gyfer iechyd y cyhoedd a diogelu defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Roedd hefyd yn bwriadu diogelu uniondeb y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. 

3. Roedd y Cynllun Adfer yn darparu fframwaith ar gyfer adfer y system cynnal rheolaethau swyddogol, yn unol â Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) ar gyfer sefydliadau bwyd newydd a sefydliadau risg uchel a/neu sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio, a hwnnw wrth gynnig hyblygrwydd i sefydliadau risg is ar yr un pryd. 

4. Ar 20 Chwefror 2023, anfonwyd llythyr drwy’r llwyfan Hwyluso Cyfathrebu at awdurdodau lleol yng Nghymru i gadarnhau y byddai’r Cynllun Adfer yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023. O 1 Ebrill 2023 ymlaen, nodwyd y dylai awdurdodau lleol fod yn paratoi i wneud y canlynol:  

  • cynnal ymyriadau sydd ar y gweill ar gyfer sefydliadau sy’n gweithredu unwaith eto yn rhan o’r rhaglen ymyriadau arferol yn unol â’r amlderau a nodir yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod). Mae hyn yn unol â’r disgwyliad yn y Cynllun Adfer, sef y dylai sefydliadau ddychwelyd i amlderau’r Cod ar ôl iddynt fod yn destun ymyriad fel rhan o’r Cynllun Adfer
  • gweithio tuag at ail-alinio â’r darpariaethau a nodir yn y Cod o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan ddefnyddio’r ystod lawn o hyblygrwydd a gynigir eisoes gan y Cod. Mae’r hyblygrwydd hwn, gan gynnwys yr eithriadau, i’w gweld ym Mhennod 2 (Pwynt 2.6.4) a Phennod 4 o’r Cod, a Phennod 4 o Ganllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru)
  • parhau i arfer dull sy’n seiliedig ar risg ar gyfer y gofynion a nodir yn y Cod yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael

5. Rhan allweddol o gylch gwaith yr ASB yn ei rôl fel awdurdod cymwys canolog yw rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau cymwys fel awdurdodau lleol, yn darparu ac yn gweithredu’n gywir unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae’r rhaglen archwilio hon, ar y cyd â’r arolygon perfformio chwe misol, yn darparu elfen allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB. 

6. Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. 

Amcanion y Rhaglen 

7. Prif amcanion y rhaglen yw:

  • cael sicrwydd bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gweithredu’r canllawiau yn llythyr yr ASB, dyddiedig 20 Chwefror 2023, ynghylch diwedd y Cynllun Adfer. Bydd yn asesu sut mae awdurdodau lleol wedi cynllunio gwasanaethau a chynnal ymyriadau yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau statudol, gan gynnwys Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod)
  • lle nad yw awdurdodau lleol wedi gallu ailalinio â’r amlderau ymyrryd a nodir yn y Cod, bydd y rhaglen yn ceisio sicrwydd bod awdurdodau lleol wedi defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg ac wedi’i lywio gan gudd-wybodaeth i flaenoriaethu ymyriadau, a’u bod yn gweithio tuag at ailalinio â’r Cod

8. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn ceisio:

  • nodi unrhyw enghreifftiau o arferion da ac arloesi a’u rhannu ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y rheolaethau a gynhelir 
  • cael sicrwydd bod awdurdodau lleol yn cynnal ymyriadau yn unol â deddfwriaeth berthnasol, canllawiau statudol a Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 
  • cael dealltwriaeth ehangach o sut mae awdurdodau lleol wedi dehongli gofynion cyfathrebiadau a chanllawiau’r ASB, ac ymateb iddynt
  • amlygu unrhyw bryderon sy’n dod i’r amlwg neu broblemau cyffredin sy’n effeithio ar awdurdodau lleol yn dilyn diwedd y Cynllun Adfer   
  • gwirio’r wybodaeth y mae awdurdodau lleol wedi’i darparu drwy’r arolygon cynnydd ac arolygon diwedd blwyddyn 
  • adolygu cynnydd awdurdodau lleol o ran gweithredu unrhyw argymhellion perthnasol sy’n weddill o archwiliadau blaenorol 

Cwmpas y Rhaglen Archwilio

9. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau mewn awdurdodau lleol yng Nghymru i asesu’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio ac ymyriadau eu cynnal ar ôl diwedd y Cynllun Adfer, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol. Bydd yr archwiliadau’n canolbwyntio ar gynnal rheolaethau swyddogol mewn perthynas â hylendid a safonau bwyd.  

10. Bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol wedi gallu dychwelyd at yr amlderau ymyrryd a nodir yn y Cod ar ôl i’r Cynllun Adfer ddod i ben, ac a ydynt yn cynnal rheolaethau swyddogol yn unol â deddfwriaeth berthnasol, y Cod Ymarfer a chanllawiau canolog perthnasol.  

11. Lle nad yw awdurdodau lleol wedi gallu dychwelyd at yr amlderau ymyrryd a nodir yn y Cod, bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol wedi defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg ac wedi’i lywio gan gudd-wybodaeth i flaenoriaethu ymyriadau, ac a oes ganddynt gynllun ar waith i  ailalinio lunio â’r Cod yn y dyfodol. 

12. Bydd yr archwiliadau’n ystyried:   

  • Trefniadau a phrosesau ar gyfer cynllunio darpariaeth gwasanaethau – gan gynnwys asesiad o gynllun ymyrryd awdurdodau lleol, yr adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a dull blaenoriaethu gweithgareddau sy’n seiliedig ar risg, gan gynnwys asesu busnesau bwyd newydd
  • camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau o archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliad yn unol â hynny.  

Dull asesu

13. Bydd yr archwiliadau’n cynnwys: 

  • holiadur cyn yr archwiliad yn gofyn am gopïau o gynllun gwasanaeth yr awdurdod lleol, ymyriadau wedi’u cynllunio/cwblhau a dogfennau cysylltiedig   
  • bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cael copi o’r adroddiad archwilio/cynllun gweithredu diwethaf a gofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’u cynnydd ar unrhyw gamau gweithredu sy’n weddill
  • bydd archwiliad strwythuredig ar y safle yn dilyn hyn a fydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r Pennaeth Gwasanaeth, swyddogion arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ar drefniadau ynghylch darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol  

Amseru

14. Cynhelir yr archwiliadau rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025. Ni ddylai’r archwiliad ar y safle gymryd mwy nag 1-2 ddiwrnod gwaith ar gyfer pob awdurdod lleol. 

Adroddiad Asesu a Chamau Dilynol 

15.  Bydd pob awdurdod lleol yn y rhaglen yn cael adborth unigol yn ogystal â chynllun gweithredu diweddaredig yn dilyn yr archwiliad, a gyhoeddir ar wefan yr ASB. Ar ddiwedd y rhaglen, bydd adroddiad cryno dienw yn cael ei gynhyrchu a fydd yn cynnwys canfyddiadau o raglenni archwilio 2023/24 a 2024/25. Bydd yr adroddiad cryno yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol, ac i’r ASB er mwyn gwella’r modd y cynhelir rheolaethau swyddogol. Bydd yr adroddiad cryno hefyd yn amlygu unrhyw themâu cyffredin a materion sy’n dod i’r amlwg yn ogystal ag unrhyw enghreifftiau o arferion da a nodwyd yn ystod y rhaglen. 

Canlyniadau disgwyliedig

20. Canlyniadau uniongyrchol:

  • Rhoi sicrwydd ynghylch y trefniadau sydd ar waith gan yr awdurdod lleol ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol ar ddiwedd y Cynllun Adfer  
  • Lle nad yw awdurdodau lleol wedi gallu dychwelyd i’r amlderau ymyrryd a nodir yn y Cod, bydd yr archwiliadau’n darparu lefel o sicrwydd mewn perthynas ag unrhyw gynllun sy’n seiliedig ar risg sydd gan yr awdurdod lleol ar waith i ailalinio â’r Cod, a bydd yn pennu a ydynt yn symud ymlaen â’r cynllun hwnnw
  • Bydd gwelliannau a chamau a gymerir gan awdurdodau lleol yn cyfrannu at waith gorfodi cyfraith bwyd mwy effeithiol ar lefel leol 
  • Bydd rhannu arferion da a nodwyd yn ehangach yn cyfrannu at wella ansawdd ac effeithiolrwydd y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd 
  • Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu rhannu â thimau perthnasol yr ASB er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau 
  • Bydd yr archwiliadau’n sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei rôl fel Awdurdod Cymwys Canolog 

21. Canlyniadau strategol:

  • Bydd yr archwiliadau’n codi proffil y gwasanaeth bwyd o fewn awdurdodau lleol ac yn eu helpu i gynnal/gwella’r modd y maent yn dyrannu adnoddau 
  • Sicrwydd cadarn ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu gofynion Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (OFFC) 
  • Partneriaeth gryfach rhwng yr ASB, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol 
  • Wrth i fusnesau gydymffurfio’n well â hylendid a safonau bwyd, bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o wella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau’r tebygolrwydd o afiechydon a gludir gan fwyd, digwyddiadau bwyd a thwyll bwyd 
  • Cyfrannu at ddulliau rheoli risg strategol yr ASB a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau’r DU o dan ofynion Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd, a Deddf Safonau Bwyd 1999