Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Adolygu Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) 2018

Penodol i Gymru

Rydym ni'n lansio'r ymgynghoriad hwn er mwyn casglu sylwadau ar gynigion i ddiwygio a diweddaru'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. Rydym ni'n gofyn i ymatebion ddod i law erbyn 23 Chwefror 2018.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 April 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 April 2018

Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?

Awdurdodau Lleol, Cyrff Proffesiynol sydd â diddordeb mewn Cyfraith Bwyd, Busnesau Bwyd a'u Cymdeithasau Masnach.

Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?

Mae Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod) yn darparu cyfarwyddiadau a chanllawiau ar gyfer gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd. Mae'r Cod wedi'i gyhoeddi dan adran 40 y Ddeddf Diogelwch Bwyd a rheoliadau cysylltiedig, ac mae'n gosod cyfarwyddiadau a meini prawf awdurdodol y mae'n rhaid i Awdurdodau Bwyd roi sylw dyledus iddynt. O bryd i'w gilydd, mae gofyn adolygu'r Cod er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu arferion gorfodi cyfredol a'i fod yn cefnogi Awdurdodau Bwyd wrth iddynt gyflawni gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd, gan gynnwys eu rhywmedigaethau mewn perthynas â Rheolaethau Swyddogol. Ei nod yw sicrhau bod gweithgarwch gorfodi yn effeithiol, yn gyson, yn seiliedig ar risg ac yn gymesur.

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau ar ddiwygiadau arfaethedig i God Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod). Yn benodol, nod y diwygiadau yw:

  • mynd i'r afael â sylwadau a ddaeth i law gan randdeiliaid mewn ymateb i ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2015. Roedd yr ymgynghoriad yn egluro trefniadau ynghylch cofrestru busnesau bwyd ac arolygu sefydliadau bwyd symudol, llongau ac awyrennau er mwyn lleihau gweithgarwch rheoleiddio di-angen; Roedd hefyd yn adolygu gofynion cymwyseddau a chymwysterau ar gyfer swyddogion awdurdodedig sy'n cyflawni Rheolaethau Swyddogol a gweithgarwch gorfodi arall;
  • diweddaru a darparu canllawiau ychwanegol ar ddigwyddiadau bwyd a mynd i'r afael â throseddau, e.e. twyll bwyd a throseddau bwyd;
  • gwella strwythur, dyluniad a diwyg y ddogfen, a darparu gwell esboniad o'r broses ar gyfer gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd er mwyn sicrhau bod cysondeb yn y modd y mae Awdurdodau Bwyd yng Nghymru yn ei chyflawni. 

Wales

Dylech anfon eich holl sylwadau at

Tîm Cefnogi ac Archwilio Awdurdodau Lleol

Llawr 11, Tŷ Southgate
Wood St,
Caerdydd
CF10 1EW

Ffôn​: 029 20678908

E-bost: lasupportwales@food.gov.uk 

Rhaid i ymatebion ddod i law erbyn: Dydd Gwener, 23 Chwefror 2018

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.