Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Canllawiau croeshalogi E. coli O157 ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd ac awdurdodau lleol

Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar y diwygiadau arfaethedig i'n ddogfen ganllaw ar reoli E. coli O157 a chroeshalogi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 November 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 November 2018

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn


Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i:

  • fusnesau bwyd lle mae bwyd parod i'w fwyta yn cael ei drin 
  • swyddogion gorfodi awdurdodau lleol 
  • cyrff masnach megis Cymdeithas Lletygarwch Prydain a Chonsortiwm Manwerthu Prydain

Pwnc ymgynghori

Pwnc yr ymgynghoriad hwn yw canllawiau sy'n cynorthwyo awdurdodau lleol a phob math o fusnesau sy'n trin bwyd amrwd (a all fod yn ffynhonnell pathogenau gan gynnwys E. coli O157) a bwyd parod i'w fwyta. Mae hyn yn cynnwys arfer gorau o ran hylendid, gwahanu a mesurau diogelwch i'w cymryd er mwyn osgoi croeshalogi.

Diben yr ymgynghoriad 


Yn dilyn adolygiad rheolaidd o'r canllawiau E. coli O157, penderfynwyd dilyn fformat newydd i'w gwneud nhw'n fwy dealladwy a hygyrch. Nid oes unrhyw newidiadau wedi bod i'r polisi, yr wyddoniaeth na'r gyfraith. 

Dyma'r prif newidiadau i'r canllawiau:

  • diweddaru'r fformat i'w gwneud yn fwy hygyrch a defnyddio iaith fwy clir (gan fod o gymorth arbennig i'r rhai hynny nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf)
  • mwy o ddiagramau i'w gwneud hi'n haws deall yr wybodaeth
  • dulliau newydd o amlygu 'gwybodaeth' 
  • egluro'r adran wahanu
  • egluro'r adran diheintio cemegol
  • cyfeiriadau cyfreithiol wedi'u symud i flychau 'Y Gyfraith'

Mae'r newidiadau i'r canllawiau hyn wedi'u datblygu gyda mewnbwn gan gynrychiolwyr busnes ac awdurdodau lleol. Rydym wedi ymgynghori'n helaeth â nhw drwy gydol y broses. Rydym ni wedi penderfynu bod ymgynghoriad 6 wythnos o hyd yn briodol i geisio barn rhanddeiliaid ehangach. 

Rydym ni'n croesawu barn gan randdeiliaid ar y newidiadau i'r canllawiau. Yn benodol, p'un a ydych chi'n cytuno bod y canllawiau diwygiedig yn welliant ar fersiwn bresennol y canllawiau, a ph'un a yw'r canllawiau diwygiedig yn cyflawni'r gwelliannau a amlinellir uchod.

Effaith y canllawiau diwygiedig

Er bod y newidiadau i'r canllawiau wedi'u bwriadu i fod yn fwy clir a darllenadwy drwy symleiddio, mae'n anodd mesur y manteision hyn. Mae gan y canllawiau diwygiedig nifer geiriau ychydig yn uwch y gellir ei gyfiawnhau'n ddigon hawdd, a hynny am fod yr ASB yn ystyried nad yw'r nifer geiriau uwch o bwys nac yn faich sylweddol i'r darllenydd. Am y rheswm hwn, nid ydym wedi ceisio mesur manteision y canllawiau, gan ein bod o'r farn y byddai hyn yn gofyn am ymdrech anghymesur.

Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar effaith y canllawiau a'n hasesiad o hyn.  Byddai'n ddefnyddiol, lle bo'n bosibl, i randdeiliaid roi tystiolaeth i gefnogi eu barn.

Dogfen ymgynghori 

Sylwadau a barn 


Dylech anfon eich ymatebion i'r ymgynghoriad hwn at FoodlawCOP@food.gov.uk erbyn 21 Rhagfyr 2018. 


 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.