Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ceisiadau am chwe bwyd newydd

Ymgynghoriad sy’n ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar gyfer chwe bwyd newydd, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 May 2022
Pwysig

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyfeirio at geisiadau sydd bellach yn cael eu gwneud yng Nghymru, Lloegr a’r Alban am gynhyrchion lle cafodd cais ei werthuso gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) cyn diwedd y cyfnod pontio.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym ni hefyd wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban gyda safbwyntiau gwyddonol sy’n ymwneud â’r chwe bwyd newydd perthnasol, ar ôl i’r sefydliadau gynnal adolygiad sicrhau ansawdd o asesiadau risg EFSA.

Crynodeb o'r ymatebion

Crynodeb o ymatebion rhandeiliaid i'r ymgynghoriad ar geisiadau am chew bwyd newydd (Fersiwn hygyrch) (Saesneg yn unig)

Safbwyntiau gwyddonol

Diweddarwyd ar 31 Mawrth 2022: Mae dogfen safbwyntiau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban wedi'i diwygio ar ôl y cyfnod ymgynghori. Darllenwch yr esboniad llawn ar y dudalen 'Diwygio safbwyntiau'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)/Safonau Bwyd yr Alban ar bum cais i awdurdodi bwydydd newydd ac mae'r ddogfen safbwyntiau ddiwygiedig wedi'i diweddaru uchod (Saesneg yn unig).

Diweddarwyd ar 21 Ionawr 2022: O ganlyniad i fân wall mewn perthynas â halen sodiwm 3’-Sialyl-lactos (3’-SL), diweddarwyd y lefel defnydd uchaf arfaethedig yn Nhabl 1 ar dudalennau 5 a 6 y ddogfen safbwyntiau ar gyfer y canlynol:

  • cynhyrchion llaeth eplesedig sydd wedi’u cyflasynnu, gan gynnwys cynhyrchion sydd wedi’u trin â gwres (cynhyrchion heblaw diodydd), o 0.5 g/kg i 2.5 g/kg
  • cynhyrchion llaeth eplesedig heb eu cyflasynnu (cynhyrchion heblaw diodydd) o 2.5 g/kg i 0.5 g/kg

I bwy bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

  • Gwneuthurwyr fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol a busnesau bwyd eraill sy’n dymuno defnyddio’r bwydydd newydd yn y categorïau defnydd arfaethedig, fel gwneuthurwyr a dosbarthwyr atchwanegiadau bwyd.
  • Awdurdodau Gorfodi, gan gynnwys awdurdodau lleol, Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, a Chynghorau Dosbarth 
  • Defnyddwyr y cynhyrchion terfynol, gan gynnwys grwpiau defnyddwyr sy’n ymwneud â fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol, a rhieni/gofalwyr babanod.

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae chwe bwyd newydd wedi'u cyflwyno i'w hawdurdodi ym mhob un o wledydd Prydain Fawr, lle caiff y penderfyniad o ran awdurdodi ei wneud gan y Gweinidogion priodol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Dyma swyddogaeth a gyflawnid yn flaenorol ar lefel yr Undeb Ewropeaidd (UE). Ers diwedd y cyfnod pontio, cyfrifoldeb yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban yw asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig (DU), a chyfrifoldeb yr awdurdod priodol perthnasol yw awdurdodi bwydydd newydd ym mhob un o wledydd Prydain Fawr.

Bydd safbwyntiau terfynol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, ynghyd â’r safbwyntiau a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn, yn cael eu hystyried ochr yn ochr â barn Swyddogion y Llywodraethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac adrannau eraill Llywodraeth y DU heblaw’r ASB er mwyn llywio penderfyniadau Gweinidogion o ran a ddylid awdurdodi’r bwydydd newydd unigol i’w defnyddio yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr.

Pwrpas yr ymgynghoriad

Ceisio barn, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r bwydydd newydd a gyflwynwyd i’w hawdurdodi. Gofynnwn i randdeiliaid ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir (retained) a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy'n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol a ffactorau amgylcheddol) sy’n berthnasol i’r ceisiadau hyn. Dyma gyfle rhanddeiliaid i leisio eu barn am y cyngor a roddwyd i Weinidogion i lywio penderfyniadau..

Pecyn ymgynghori

Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, rydym ni’n anelu at gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd a darparu dolen iddo o'r dudalen hon.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym ni’n trin data a ddarparwyd mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi. Os cynhyrchwyd Asesiad Effaith, mae wedi'i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na chynhyrchwyd Asesiad Effaith, rhoddir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori.