Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ceisiadau am un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid

Ymgynghoriad sy’n ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar gyfer un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 July 2022

Crynodeb o ymatebion

Crynodeb o’r Ymatebion

Crynodeb o ymatebion rhandeiliaid i'r ymgynghoriad ar geisiadau am un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid (Saesneg yn unig) - Fersiwn hygyrch
 

Pwysig

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyfeirio at geisiadau sydd bellach yn cael eu gwneud yng Nghymru, Lloegr a’r Alban am gynhyrchion lle cafodd cais ei werthuso gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) cyn diwedd y cyfnod pontio.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym ni hefyd wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban gyda safbwyntiau gwyddonol sy’n ymwneud â’r un ar ddeg o ychwanegion bwyd anifeiliaid perthnasol, ar ôl i’r sefydliadau gynnal adolygiad sicrhau ansawdd o asesiadau risg EFSA.

Safbwyntiau gwyddonol

Rydym ni’n croesawu sylwadau ar y safbwyntiau gwyddonol hyn, wedi’u cyflwyno ar wahân i ymatebion i’r ymgynghoriad. Bydd unrhyw sylwadau a ddarperir ar safbwyntiau’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cael eu cyhoeddi a’u hystyried i’w cynnwys yn ein cyngor terfynol i Weinidogion. Cofiwch gyflwyno sylwadau, wedi’u marcio’n glir fel rhai sy’n ymwneud â'r safbwyntiau gwyddonol hyn, trwy anfon e-bost at: RPconsultations@food.gov.uk.

I bwy bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

  • Gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid
  • Pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
  • Cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd
  • Undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio
  • Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid
  • Awdurdodau gorfodi

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae un ar ddeg o ychwanegion bwyd anifeiliaid wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi ym mhob un o wledydd Prydain Fawr, lle caiff y penderfyniad o ran awdurdodi ei wneud gan y Gweinidogion priodol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Dyma swyddogaeth a gyflawnid yn flaenorol ar lefel yr Undeb Ewropeaidd (UE). Ers diwedd y cyfnod pontio, cyfrifoldeb yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban yw asesu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU, a chyfrifoldeb yr awdurdod priodol perthnasol yw awdurdodi ychwanegion bwyd anifeiliaid ym mhob un o wledydd Prydain Fawr.

Bydd safbwyntiau terfynol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, ynghyd â’r safbwyntiau a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn, yn cael eu hystyried ochr yn ochr â barn Swyddogion y Llywodraethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac adrannau eraill Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) heblaw’r ASB er mwyn llywio penderfyniadau Gweinidogion o ran a ddylid awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol i’w defnyddio yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr.

Diben yr ymgynghoriad

Ceisio barn, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a gyflwynwyd i’w hawdurdodi. Gofynnwn i randdeiliaid ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir (retained) a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy'n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol a ffactorau amgylcheddol) sy’n berthnasol i’r ceisiadau hyn. Dyma gyfle rhanddeiliaid i leisio eu barn am y cyngor a roddwyd i Weinidogion i lywio penderfyniadau.

Pecyn ymgynghori

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r ymgynghoriad hwn at:

E-bost: RPconsultations@food.gov.uk

Enw: Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion wedi’u Rheoleiddio

Is-adran/Cangen: Yr Uned Polisi Diogelwch Cemegol

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.