Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ceisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: un bwyd newydd ac un ychwanegyn bwyd

Penodol i Gymru a Lloegr

Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ar gyfer awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: un bwyd newydd ac un ychwanegyn bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 January 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 January 2023

Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ar gyfer awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: un bwyd newydd ac un ychwanegyn bwyd.

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:

  • Cymdeithasau masnach y diwydiant bwyd. 
  • Gweithredwyr busnesau bwyd yn y DU sy'n dymuno defnyddio'r bwyd newydd neu’r ychwanegyn bwyd. 
  • Awdurdodau Gorfodi, gan gynnwys awdurdodau lleol, Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, a Chynghorau Dosbarth.   
  • Defnyddwyr a rhanddeiliaid ehangach.
     

Pwnc a diben yr ymgynghoriad

Gwnaethom ymgynghori’n ddiweddar ar bedwar cais ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: un bwyd newydd ac un ychwanegyn bwyd. Fodd bynnag, rydym wedi nodi gwall a hepgoriad yn yr wybodaeth a gyhoeddwyd ar gyfer un o'r bwydydd newydd, a hepgoriad yn yr wybodaeth am yr ychwanegyn bwyd yn yr ymgynghoriad gwreiddiol.  Dyma sicrhau felly fod rhanddeiliaid yn cael gwybod am y rhain ac yn cael cyfle pellach i gyflwyno sylwadau.

RP1158    Powdr madarch Fitamin D2 – bwyd newydd
RP1194    Rebaudiosid M – ychwanegyn bwyd

Gofynnwn i randdeiliaid ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir (retained) a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy'n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol, a chyfiawnadwy fel dichonoldeb technegol a ffactorau amgylcheddol) sy’n berthnasol i’r ceisiadau hyn. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gael barn rhanddeiliaid, er mwyn hysbysu Gweinidogion. 

Mae ymgynghoriad cyfochrog ar gyfer yr hepgoriad yn yr wybodaeth am yr ychwanegyn bwyd yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban. Sylwch nad oedd y gwall a'r hepgoriad ar gyfer y bwyd newydd yn bresennol yn ymgynghoriad gwreiddiol Safonau Bwyd yr Alban.   

Darllenwch y pecyn ymgynghori llawn

Mae’r pecynnau ymgynghori hyn yn darparu'r wybodaeth gefndirol a'r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.  Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd.

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno sylwadau o fewn pythefnos i ddyddiad y cyhoeddiad hwn ac mae’r un datganiad preifatrwydd yn berthnasol i unrhyw sylwadau sy’n dod i law ag sy’n berthnasol i ymgynghoriadau. Gellir gellir dod o hyd i fanylion y datganiad yn ein hysbysiad preifatrwydd Ymgynghoriadau.

Dylid anfon sylwadau dros e-bost i:  RPconsultations@food.gov.uk gan nodi’r llinell destun 'Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig’ a’r rhif RP perthnasol.

Nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.

Y camau nesaf

Bydd unrhyw adborth i’r adolygiad hwn yn cael ei ystyried, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, wrth benderfynu’n derfynol ar gyngor i Weinidogion y DU.