Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â diwygiadau pellach i reoliadau bwyd a bwyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig (DU), gan gynnwys y rhai sy'n ofynnol trwy gymhwyso'r Cytundeb Ymadael a Phrotocol Gogledd Iwerddon, sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir sy'n ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid yn parhau i fod yn effeithiol ar ddiwedd y Cyfnod Pontio.
Pwrpas yr Ymgynghoriad
Ceisio barn busnesau, defnyddwyr, rhanddeiliaid eraill, awdurdodau lleol a'r cyhoedd ehangach ar newidiadau y mae Gweinidogion yn bwriadu eu gwneud i gyfraith yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid.
I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?
Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yn y Deyrnas Unedig (DU), awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn cyfraith diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid.
Pecyn ymgynghori
Sut i ymateb
Mae'n rhaid i ymatebion ddod i law erbyn 16 Medi 2020.
Dylid anfon ymatebion dros e-bost at: EUExitPolicy@food.gov.uk
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym ni’n gobeithio cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a ddaw i law o fewn tri mis i ddiwedd yr ymgynghoriad a darparu dolen i’r crynodeb o’r dudalen hon.
Yn unol ag egwyddor yr Asiantaeth o fod yn agored, byddwn yn cadw copi o'r ymgynghoriad a'r ymatebion llawn, a fydd ar gael i'r cyhoedd ar gais. Gallai’r crynodeb o'r ymatebion hefyd gynnwys data personol, fel eich enw llawn. Ni fyddwn yn datgelu unrhyw ddata personol arall oni bai y ceir cais am yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad. Os nad ydych am i’r wybodaeth hon gael ei rhyddhau, ewch ati i lenwi a dychwelyd y Ffurflen Cyhoeddi Data Personol. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i baratoi yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Llywodraeth EM. Os oes Asesiad Effaith wedi cael ei gynhyrchu, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os nad oes Asesiad Effaith wedi cael ei ddarparu, bydd y rheswm yn cael ei nodi yn y ddogfen ymgynghori.