Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Diwygiadau i Reoliad a Ddargedwir 2019/1793: Rheolaethau a Gynhelir ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid a Fewnforir nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Pan ymadawodd y DU â’r UE, cafodd deddfwriaeth bwyd a oedd mewn grym ar y pryd ei dargadw a’i domestigeiddio er mwyn iddi barhau’n weithredol. Cyn i’r DU ymadael â’r UE, roedd diweddariadau rheolaidd i ddeddfwriaeth bwyd a fewnforir, a wneir gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn uniongyrchol gymwysadwy yn y DU. Wrth symud ymlaen, mae'r awdurdodau priodol ym Mhrydain Fawr bellach yn gyfrifol am adolygu a diwygio'r ddeddfwriaeth yn ôl y gofyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 July 2022

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae Safonau Bwyd yr Alban wedi lansio ymgynghoriad cyfochrog ar wahân yn yr Alban.  

Pwnc yr ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau rheolaidd arfaethedig i Reoliad a Ddargedwir 2019/1793 sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.

Diben yr ymgynghoriad

Gofyn am sylwadau rhanddeiliaid ar ddiwygiadau arfaethedig i’r Atodiadau i Reoliad a Ddargedwir 2019/1793.

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu'r wybodaeth gefndirol a'r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn.

England and Wales

Sut i ymateb

Dylid ymateb i’r ymgynghoriad hwn trwy anfon neges âr teitl 'Ymgynghoriad Rheoliad 2019/1793' i:

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.