Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Diwygio darpariaethau gwybodaeth am alergenau mewn deddfwriaeth gwybodaeth am fwyd ddomestig ar gyfer bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol

Rydym ni'n croesawu barn rhanddeiliaid ar y newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth gwybodaeth am alergenau ar fwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol. Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i ddatblygu ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, Safonau Bwyd yr Alban, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Mawrth 2019

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i'r canlynol:  

  • defnyddwyr ag alergedd bwyd, anoddefiad bwyd a chlefyd seliag 
  • grwpiau cleifion 
  • sefydliadau diwydiant 
  • awdurdodau gorfodi 

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi pedwar dewis polisi i wella darpariaeth yr wybodaeth am alergenau i ddefnyddwyr ar fwyd sy'n cael ei becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol.

Diben yr Ymgynghoriad 

Rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb roi sylwadau ac adborth ar y newidiadau arfaethedig i Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd ddomestig 2014 (FIR) (Cymru) a rheoliadau FIR cyfochrog yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Mae'r rhain yn ymwneud â gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd sy'n cael ei becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr.

ASB yn Esbonio

Mae 'bwyd wedi'i becynnu ymlaen llaw i'w werthu'n uniongyrchol' yn cyfeirio at fwyd sydd wedi ei becynnu ar yr un safle y caiff ei werthu, er enghraifft brechdan wedi'i phecynnu neu salad a wnaed gan staff yn gynharach yn y dydd a'i roi ar silff i'w brynu. Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i'r bwyd yma gario labeli a gwybodaeth am alergenau, gan y disgwylir i'r cwsmer siarad â'r person a baratôdd neu a becynnodd y cynnyrch am yr wybodaeth hon.

Pecyn ymgynghori

Darllenwch y pecyn ymgynghori a chael gwybod sut i ymateb.  

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.