Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Dull yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o Reoli Buddiannau ei Chynghorwyr Gwyddonol Allanol

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn diweddaru ei chanllawiau ar reoli buddiannau ei chynghorwyr gwyddonol allanol. Datblygwyd y ddogfen hon i fodloni argymhelliad a wnaed yn yr 'Adolygiad Tair Blynedd o Chwe Phwyllgor Cynghori Gwyddonol yr ASB' (2016). Mae'r pecyn ymgynghori llawn a'r arolwg ymateb ar gael isod (Saesneg yn unig).

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 March 2018

Crynodeb o ymatebion

England, Northern Ireland and Wales

Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?

Unigolion sy'n gweithredu fel cynghorwyr gwyddonol allanol i'r ASB, fel aelodau o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol, arfarnwyr allanol neu mewn rolau cynghori arbenigol eraill, a phobl sydd â diddordeb yn y gwaith hwn.

Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?

Canllawiau diwygiedig ar reoli buddiannau ac unrhyw wrthdaro buddiannau mewn perthynas â chynghorwyr gwyddonol yr ASB. Mae'r ddogfen hon wedi'i datblygu i fodloni argymhelliad yr 'Adolygiad Tair Blynedd o Chwe Phwyllgor Cynghori Gwyddonol yr ASB' (2016).

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Ceisio sylwadau a safbwyntiau pawb sydd â diddordeb ar y dull a'r canllawiau diwygiedig, gan gynnwys ar ei effeithiolrwydd, ei eglurder a ph'un a yw'r mesurau a amlinellir yn gymesur i'r risgiau.

Dylech anfon eich holl sylwadau at

Patrick Miller

Tîm y Prif Gynghorydd Gwyddonol
Yr Is-adran Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil
Aviation House
125 Kingsway
​Llundain WC2B 6NH

Gallwch ymateb i gwestiynau'r ymgynghoriad drwy ein harolwg ar-lein drwy: http://bit.ly/2wMZpv3.

Ffôn: 020 7276 8277

E-bost: Patrick.Miller@food.gov.uk

Rhaid i ymatebion ddod i law erbyn: Dydd Llun, 18 Rhagfyr 2017

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.