Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Galwad am dystiolaeth

Galwad am Dystiolaeth: Deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys bambŵ a deunyddiau tebyg sy’n dod o blanhigion fel ychwanegion

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban yn ceisio tystiolaeth mewn perthynas â diogelwch a sefydlogrwydd deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd ac eitemau sy’n cynnwys bambŵ neu ddeunyddiau eraill sy’n dod o blanhigion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 April 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o’r ymatebion

Crynodeb o’r ymatebion ar gyfer y galwad am dystiolaeth ynghylch deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys bambŵ a deunyddiau tebyg sy’n dod o blanhigion fel ychwanegion (Saesneg yn unig)

Bydd yr alwad hon am dystiolaeth o ddiddordeb yn bennaf i’r canlynol:

  • gweithgynhyrchwyr plastig
  • manwerthwyr
  • mewnforwyr ac allforwyr
  • partïon eraill â buddiant

Pwnc yr alwad am dystiolaeth

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban yn ceisio tystiolaeth mewn perthynas â diogelwch a sefydlogrwydd deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd ac eitemau sy’n cynnwys bambŵ neu ddeunyddiau eraill sy’n dod o blanhigion.

Pwrpas yr alwad am dystiolaeth

Mae’r Pwyllgor ar Wenwyndra (COT) wedi cynnal adolygiad o gyfansoddion plastig sy’n cynnwys bambŵ. Fodd bynnag, oherwydd diffyg data sydd ar gael, nid ydynt wedi gallu cynnal asesiad risg cynhwysfawr. Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn ceisio unrhyw ddata neu wybodaeth sy’n helpu i lywio diogelwch hirdymor cyfansoddion plastig sy’n cynnwys bambŵ a deunyddiau tebyg sy’n dod o blanhigion. Bydd y dystiolaeth hon hefyd yn llywio’r meini prawf asesu ar gyfer ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig yn y dyfodol sy’n ymwneud â deunydd botanegol mewn deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cael eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr. 

Sut i ymateb

Dylid anfon ymatebion i’r alwad hon am dystiolaeth i plastic-composites@food.gov.uk

Manylion yr alwad am dystiolaeth

Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban wedi nodi deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys bambŵ a/neu ddeunyddiau tebyg sy’n dod o blanhigion fel ychwanegion fel problem drwy broses dadansoddi risg y DU. Disgrifir deunyddiau o’r fath yn aml fel ‘cyfansoddion plastig’, ‘cyfansoddion bambŵ’ neu debyg.

Nid yw diogelwch bambŵ a deunyddiau eraill sy’n dod o blanhigion fel plisg (husk) reis a gwellt gwenith, ymhlith eraill, wedi’u hasesu mewn plastig. Nid ydynt ychwaith wedi’u hawdurdodi o dan Reoliad a Ddargedwir (EU) 10/2011 i’w defnyddio mewn deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd (sy’n gymwys yng Nghymru, Lloegr a’r Alban), na Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 (sy’n gymwys yng Ngogledd Iwerddon). 

Gallai eitemau o’r fath gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gwpanau/mygiau coffi, a llestri cegin sy’n cynnwys platiau a phowlenni sy’n honni eu bod yn ‘eco’. Mae rhai wedi’u marchnata fel eitemau ‘eco-gyfeillgar’ a ‘100% bioddiraddadwy’. Ystyrir bod y ddau honiad hyn yn gamarweiniol o ran y darpariaethau yn Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 2012. 

Y llynedd, cynhaliodd corff cynghori gwyddonol annibynnol y DU, y COT, adolygiad o’r data sydd ar gael ar gyfansoddion plastig sy’n cynnwys bambŵ. Cyhoeddodd y COT bapur sefyllfa dros dro ar gyfansoddion bambŵ mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol, daeth i’r casgliad y gellir ystyried bod ymfudiad fformaldehyd a melamin o gwpanau cyfansawdd bambŵ yn bryder posib i iechyd pobl. Felly, byddai’n briodol cynnal asesiad risg mwy cynhwysfawr unwaith y bydd data pellach ar gyfansoddiad a chysylltiad, er enghraifft, ar gael.

O ystyried y diffyg data prawf a gwybodaeth am gyfansoddiadau sydd ar gael i allu cynnal asesiad risg, rydym wedi lansio’r alwad hon am dystiolaeth. O ystyried na ellir rhoi’r eitemau hyn ar y farchnad heb awdurdodiad, rydym yn deall y gallai gweithredwyr busnesau ddymuno gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig gyda’r bwriad o geisio awdurdodiad i ddefnyddio bambŵ a/neu ddeunyddiau eraill sy’n dod o blanhigion mewn deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd y bwriedir eu rhoi ar farchnad Prydain Fawr. Fodd bynnag, oherwydd diffyg dealltwriaeth bresennol a diffyg gwybodaeth am ddefnyddio cyfansoddion plastig yn ddiogel a defnyddio deunyddiau o’r fath mewn plastig, gallai fod yn heriol i’r pwyllgorau gwyddonol perthnasol gynnal asesiadau unigol heb fwy o ddata prawf a gwybodaeth. Mae hyn hefyd oherwydd nad oes unrhyw feini prawf cyfeirio sylweddol y gellid cymharu’r wybodaeth yn eu herbyn. Gallai hefyd fod yn anodd pennu pa wybodaeth ychwanegol a meini prawf asesu sydd eu hangen ar gyfer cais sy’n ymwneud â deunyddiau sy’n dod o blanhigion fel ychwanegion. Byddai gennym ddiddordeb mewn cael gwybodaeth berthnasol, yn enwedig mewn perthynas â diogelwch a sefydlogrwydd y deunyddiau. Efallai y byddai hefyd o fudd i chi gyflwyno data o’r fath mewn ymateb i’r alwad hon am dystiolaeth os ydych yn ystyried gwneud cais am awdurdodiad rywbryd i roi’r cynhyrchion hyn ar y farchnad. 

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cael gwybodaeth am y canlynol:

  • unrhyw wybodaeth/data sydd ar gael ar asesiadau diogelwch y cynhyrchion hyn, gan gynnwys profion gwenwynegol a data gwenwynegol perthnasol.
  • unrhyw brofion sydd wedi’u cynnal sy’n rhoi gwybod am ddiogelwch a sefydlogrwydd cyfansoddion plastig mewn perthynas â’u defnydd arfaethedig (mae’n ofynnol i unrhyw gynhyrchion sy’n cynnwys plastig ddod â datganiad cydymffurfio (DoC).
  • ffynhonnell a manylebau’r deunyddiau sy’n dod o blanhigion a ddefnyddir yn y plastig. A allwch roi manylion unrhyw gynlluniau sicrwydd allforwyr?
  • rhestr lawn o gynhwysion y cynnyrch terfynol (gan gynnwys cymarebau/canrannau) a manyleb. Rydym wedi gweld gwahanol gyfuniadau o ddeunyddiau sy’n cynnwys cyfrannau amrywiol o blastig (er enghraifft, melamin), i ddeunyddiau sy’n dod o blanhigion yn yr eitemau hyn. Rydym hefyd wedi nodi bod gweithgynhyrchwyr gwahanol yn defnyddio’r deunyddiau sy’n dod o blanhigion mewn gwahanol ffyrdd. Felly, byddem yn croesawu gwybodaeth am ffurf y deunydd hwn o fewn y cyfansawdd – er enghraifft, pryd, ffibrau, llwch mân, ac ati. Bydd yr asesiad risg cynhwysfawr yn ystyried faint o effaith y mae hyn yn ei gael ar ddiogelwch a sefydlogrwydd eitem mewn perthynas â’i ddefnydd disgwyliedig.
  • proses weithgynhyrchu’r deunyddiau hyn. Mae rhai arwyddion bod hyn yn cael dylanwad cryf ar wydnwch y cynnyrch terfynol.
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall neu faterion sy’n ymwneud â’r cynhyrchion hyn.

Bydd yr holl wybodaeth sy’n dod i law yn cael ei hadolygu, a bydd yn rhan o ystyriaeth ehangach y COT o gyfansoddion plastig sy’n cynnwys bambŵ neu ddeunyddiau tebyg sy’n dod o blanhigion. Bydd gwybodaeth yn ddarostyngedig i rwymedigaethau’r ASB o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, ac os bydd gwybodaeth o’r fath yn cynnwys data personol, bydd yn cael ei phrosesu yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau. Yn yr un modd, bydd gwybodaeth yn ddarostyngedig i rwymedigaethau Safonau Bwyd yr Alban o dan Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Yr Alban) 2022 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (Yr Alban) 2004. Dylid nodi gwybodaeth fasnachol sensitif a/neu wybodaeth gyfrinachol ei natur yn glir yn eich ymateb. Bydd hyn yn cael ei ystyried ar y cyd â’r gofynion a amlinellir uchod.

Marchnad Gogledd Iwerddon

Mae deddfwriaeth Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd y Comisiwn Ewropeaidd yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon. Wrth gyflenwi marchnad Gogledd Iwerddon, rhaid i fusnesau bwyd gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol yr UE. Dim ond ychwanegion awdurdodedig yn Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011 y gellir eu defnyddio mewn deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd a’u rhoi ar y farchnad yn yr UE/Gogledd Iwerddon. 

Ym mis Mehefin 2020, daeth Arbenigwyr y Gweithgor Ewropeaidd ar Ddeunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd i’r casgliad nad yw deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sy'n cynnwys ffibr bambŵ a deunyddiau bambŵ eraill wedi’u rhestru yn Atodiad I o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 10/2011. Felly, rhaid peidio â rhoi deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys ffibr bambŵ a deunyddiau bambŵ eraill ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon gan nad ydynt yn cydymffurfio.

Rhaid i weithredwyr busnesau sydd am roi deunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys ffibr bambŵ a deunyddiau bambŵ eraill ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon wneud cais i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) trwy awdurdod cymwys un o aelod-wladwriaethau’r UE.

Ymatebion

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno unrhyw ddata yw 12 Rhagfyr 2023. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Anfonwch eich ymateb i plastic-composites@food.gov.uk

Bydd ymatebion yn cael eu rhannu rhwng yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban.  I gael mwy o wybodaeth am sut bydd yr ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd. I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.

Os oes angen fformat mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, cysylltwch â ni a byddwn yn ystyried eich cais.

Mae’r alwad hon am dystiolaeth wedi’i pharatoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr alwad hon am dystiolaeth gan y cyhoedd. 

Yn gywir,

Tim Chandler, Cangen Ychwanegion, Cyflasynnau a Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd, Is-adran Polisi Bwyd
Barbara Doerr, Is-adran Asesu Risg Cemegol, Gwyddoniaeth a Thystiolaeth.

Mae crynodeb o’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth ar ddeunyddiau plastig a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys bambŵ neu ddeunyddiau tebyg sy’n seiliedig ar blanhigion ar gael yma (Saesneg yn unig).