Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Gweithredu’r rheoliad rheolaethau swyddogol

Penodol i Gymru

Ymgynghoriad yn ceisio barn rhanddeiliaid ar weithredu deddfwriaeth yng Nghymru er mwyn darparu ar gyfer arfer pwerau a gorfodi’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol dim ond mewn perthynas â’r meysydd y mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gyfrifoldeb drostynt o ran cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid ac iechyd a lles anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Tachwedd 2020

Crynodeb o ymatebion

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb fwyaf?

  • Swyddogion gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn ogystal ag unrhyw gorff arall sy'n gyfrifol am ymgymryd â rheolaethau swyddogol.

  • Gweithredwyr busnesau bwyd sy'n mewnforio cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid i mewn i'r Undeb Ewropeaidd (UE).

Beth yw pwnc yr ymgynghoriad hwn?

Mae'r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (UE) 2017/625 (y Rheoliad) yn dod i rym ar 14 Rhagfyr 2019 a bydd yn uniongyrchol weithredol yng Nghymru, os bydd y Deyrnas Unedig (DU), ar 14 Rhagfyr 2019:

  • yn parhau i fod yn rhan o’r UE
  • neu wedi cytuno ar gyfnod gweithredu/trosiannol gyda'r UE.

Mae’r Rheoliad yn mynd i’r afael â rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar weithredu deddfwriaeth yng Nghymru er mwyn darparu ar gyfer arfer pwerau a gorfodi'r Rheoliad dim ond mewn perthynas â'r meysydd y mae gan yr ASB gyfrifoldeb drostynt o ran cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid ac iechyd a lles anifeiliaid.    

Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?

Ceisio barn rhanddeiliaid mewn perthynas â:

  • Y ddeddfwriaeth gweithredu arfaethedig yng Nghymru i ddarparu ar gyfer arfer pwerau a gorfodi'r Rheoliad mewn perthynas â meysydd y mae gan yr ASB gyfrifoldeb drostynt o ran cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid ac iechyd a lles anifeiliaid.  

Mae ein hasesiad o’r effeithiau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r ddeddfwriaeth yng Nghymru yn ymwneud â meysydd cyfrifoldeb yr ASB yn unig.

Pecyn ymgynghori

Wales

Sylwadau a barn

Anfonwch unrhyw sylwadau a safbwyntiau at:

Elizabeth Hirst
Tîm Polisi Rheoleiddiol

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 11
Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW

Ffôn:    02920 678 940
E-bost: Food.Policy.Wales@food.gov.uk  

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.