Ymgynghoriad ar awdurdodi un bwyd traddodiadol i’w roi ar y farchnad ar sail hysbysiad – mis Ionawr 2026
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas ag awdurdodi un bwyd traddodiadol ar sail hysbysiad.
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, awdurdodau iechyd lleol a phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae ymgynghoriad cyfochrog ar wahân yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS).
Pwnc yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, a gyflwynwyd o dan Erthygl 14 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2015/2283 (“y Rheoliadau Bwydydd Newydd”) – Hysbysiad o fwyd traddodiadol o drydedd wlad.
- Awdurdodiad newydd ar gyfer cnau daear Bambara (hadau a blawd hadau Vigna subterranea (L.) Verdc.)
Diben yr ymgynghoriad
Wrth ymgynghori, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y telerau awdurdodi arfaethedig ac unrhyw ofynion labelu. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau neu i nodi unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn i sylw gweinidogion cyn i’r hysbysiad gael ei awdurdodi.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn rhoi’r wybodaeth gefndirol, y manylion a’r cwestiynau y gwahoddir chi i ymateb iddynt. Mae’n darparu dolenni i’r argymhelliad rheoli risg sy’n cynnwys crynodeb o’r allbwn gwyddonol a mesurau diogelu.
Sut i ymateb
Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r arolwg ar-lein . Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:
- E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
- Enw: Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig
- Is-adran/Cangen: Awdurdodi Cynhyrchion Rheoleiddiedig i’w Rhoi ar y Farchnad
Os byddwch yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Rydym yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd o fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben a darparu dolen iddo o’r dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein Hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau.
Mwy o wybodaeth
Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy’n haws i’w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth y DU. Mae’r effeithiau posib mewn perthynas â’n cynigion wedi’u trafod yn y ddogfen ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny yn y ddogfen ymgynghori.
Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Hanes diwygio
Published: 26 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Ionawr 2026