Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ymgynghoriad ar awdurdodiadau (dros dro) arfaethedig ar gyfer pedwar ychwanegyn bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar awdurdodiadau dros dro (brys) arfaethedig ar gyfer pedwar cyfansoddyn Cobalt(II). Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir parhau i gyflenwi cyfansoddion cobalt hanfodol i farchnad Prydain Fawr a diogelu lles anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 June 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 June 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

Ymgynghoriad ar awdurdodiadau (dros dro) arfaethedig ar gyfer pedwar ychwanegyn bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid – Crynodeb o ymatebion rhanddeiliaid (Saesneg yn unig) 

Bydd awdurdodiad presennol y cyfansoddion hyn yn dod i ben ar 15 Gorffennaf 2023. Rydym wedi byrhau’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus arferol er mwyn caniatáu i’r darpariaethau newydd ddod i rym cyn i’r awdurdodiadau presennol ddod i ben. 

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, bydd yr ASB yn gofyn i weinidogion benderfynu ar awdurdodi’r ychwanegion hyn am 5 mlynedd yn unol ag Erthygl 15 o Reoliad a Ddargedwir (EU) 1831/2003.

Rydym yn gofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar farn yr ASB a’r ffactorau cyfreithlon eraill sy’n ymwneud ag awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn dros dro (gallai hyn gynnwys pryderon ynghylch iechyd anifeiliaid, buddiannau defnyddwyr a dichonoldeb technegol). 

England and Wales

Sut i ymateb

Anfonwch eich ymatebion, erbyn 9 Mehefin 2023, i: RPconsultations@food.gov.uk 

Nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad/cwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae’ch sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad yn y DU rydych wedi’ch lleoli.  

Bydd y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i ymgyngoriadau hefyd yn berthnasol i unrhyw sylwadau a dderbynnir. Gallwch ddod o hyd i’n hysbysiad preifatrwydd sy’n berthnasol i ymgyngoriadau yma.

Y camau nesaf

Bydd y safbwyntiau a gesglir fel rhan o’r ymgynghoriad hwn yn llywio cyngor yr ASB i Weinidogion ac yn eu galluogi i benderfynu ar awdurdodiadau ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol a ddefnyddir fel bwyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr. 

Ar ddiwedd y broses ymgynghori, bydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. 

Ynglŷn â’r cais hwn am ychwanegyn bwyd anifeiliaid 

Daeth un cais i law yn gofyn am gael awdurdodi pedwar cyfansoddyn cobalt(II) gyda’i gilydd, sef: cobalt(II) asetad tetrahydrad, cobalt(II) carbonad, cobalt(II) carbonad hydrocsid (2:3) monohydrad a chobalt(II) sylffad heptahydrad. Daeth y cais i law gyda nodyn yn gofyn am iddo gael ei drin ar frys.

Mae gan yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn hanes hir o ddefnydd diogel, dros sawl degawd. Mae dull yr ASB wrth geisio awdurdodiadau brys wedi’i ddylanwadu gan farn a gyhoeddwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) (2012) ar ddiogelwch yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn (gweler yr Atodiad am fanylion).

Bydd eu hawdurdodiad presennol yn dod i ben ar 15 Gorffennaf 2023. Ar ôl y dyddiad hwn, ni all cynhyrchion sy’n cynnwys yr ychwanegyn gael eu rhoi ar y farchnad yn gyfreithlon, ac ni ellir chwaith eu prosesu na’u defnyddio’n gyfreithlon, oni bai y ceir awdurdodiad pellach. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddewisiadau eraill yn lle’r cyfansoddion hyn a allai fodloni gofynion maethol. 

Mae gennym ddigon o dystiolaeth i ddod i’r casgliad fod perygl difrifol y bydd effaith negyddol a difrifol ar iechyd anifeiliaid (bron ar unwaith) pe na bai cobalt ar gael mewn bwyd anifeiliaid. Bydd yr effaith hon yn cynyddu dros amser. Mae crynodeb o’r dystiolaeth ar gael yn yr Atodiad.

Yn dilyn yr awdurdodiadau dros dros arfaethedig (ar frys), bydd y ceisiadau am yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn yn destun asesiad risg llawn fel rhan o’r broses Cynhyrchion Rheoleiddiedig.

Atodiad

  • Mae cobalt yn elfen hybrin hanfodol a ddefnyddir i fodloni’r gofynion maethol ar gyfer anifeiliaid cnoi cil, ceffylau ac, i raddau llai, rywogaethau anifeiliaid eraill oherwydd ei gysylltiad â fitamin B12 nad oes dewis arall ar ei gyfer. 
  • Nid yw’r rhan fwyaf o borthiannau (porfa) a bwydydd sy’n cael eu bwydo i anifeiliaid cnoi cil (er enghraifft: defaid, gwartheg) yn cynnwys digon o gobalt i fodloni gofynion maethol yr anifail cnoi cil heb ddefnyddio cobalt fel ychwanegyn. 
  • Mae angen nodweddion gwahanol y cyfansoddion cobalt (er enghraifft, hydoddedd, crynodiadau awdurdodedig) i fodloni’r meini prawf fformiwleiddio ar gyfer y mathau niferus o fwyd anifeiliaid, o ddognau safonol i atchwanegiadau arbenigol. 
  • Yn ôl adroddiad gan yr Asiantaeth Iechyd Planhigion ac Anifeiliaid (APHA) o Chwarter 4, 2021, ynghylch gwyliadwriaeth afiechydon, roedd diffyg cobalt mewn 7.8% o anifeiliaid a gyflwynwyd ar gyfer post-mortem, er gwaethaf defnydd helaeth o atchwanegiadau cobalt. Mae cael gwared ar ychwanegion cobalt yn debygol o gynyddu nifer yr anifeiliaid yr effeithir arnynt yn sylweddol ac o effeithio’n negyddol ar y fuches a’r praidd cenedlaethol.  

Safbwynt yr UE 

Barn EFSA 2012, Rhif 2791 a Rhif 2727 

  • Argymhellodd y panel y dylid cyfyngu ar ddefnydd ymhlith anifeiliaid cnoi cil, ceffylau a chwningod, gostwng y cyfanswm cobalt uchaf a chyfyngu ar drin yr ychwanegyn yn y diwydiant rhag-gymysgeddau. 
  • Ystyrir bod bwydo cobalt atodol fel yr awdurdodwyd yn flaenorol hyd at uchafswm y cynnwys a ganiateir yn ddiogel ar gyfer pob rhywogaeth/categori o anifeiliaid ac nad yw gwneud hynny’n peri pryderon o ran diogelwch i ddefnyddwyr. 
  • Ystyrir bod y cyfansoddion cobalt yn llidwyr (irritants) croen a llygaid ac yn sensiteiddwyr dermol ac anadlol. Mae ganddynt botensial amrywiol i ddal llwch ac, o ystyried eu proffil gwenwynegol, maent yn beryglus i’w trin. Rhaid osgoi dod i gysylltiad â’r cyfansoddion hyn drwy eu hanadlu. 
  • Ni fydd defnyddio cobalt o unrhyw ffynhonnell ar y crynodiad uchaf mewn bwyd anifeiliaid yn arwain at gynnydd sylweddol mewn crynodiadau amgylcheddol, ac fe’i hystyrir yn effeithiol ar gyfer anifeiliaid cnoi cil, ceffylau a chwningod. 

Safbwynt y diwydiant

Mae’r ASB wedi ymgysylltu’n anffurfiol â rhanddeiliaid i ddeall yr effaith pe na bai’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn ar gael i’r farchnad pan ddaw’r awdurdodiad presennol i ben. 

  • Mae risg i iechyd anifeiliaid oherwydd diffyg cobalt digonol os na fydd y cyfansoddion a gwmpesir gan yr awdurdodiad arfaethedig ar gael. 
  • Ni all defnyddio carbonad cobalt(II) gorchuddiedig (y cyfansoddyn cobalt a fydd yn aros ar y farchnad ym Mhrydain Fawr) ddisodli’r cyfansoddion yn yr awdurdodiad hwn gan ei fod yn anhydawdd mewn dŵr; felly ni all gymryd lle’r cyfansoddion hyn mewn cynhyrchion sy’n galw am gyfansoddion sy’n hydoddi mewn dŵr.
  • Mae’r cyfansoddion cobalt hyn wedi’u defnyddio’n helaeth ers 10 mlynedd o dan yr awdurdodiad presennol heb unrhyw bryderon o ran diogelwch. 
  • Byddai ailfformiwleiddio cynhyrchion sy’n cynnwys cobalt yn golygu cost sylweddol i’r diwydiant, a byddai angen eu tynnu oddi ar y farchnad am 6-20 mis wrth i gynhyrchion gael eu datblygu. 
  • Mae risg uwch y bydd anifeiliaid yn datblygu diffygion mwynol eraill gan fod y cynhyrchion hyn yn cynnwys mwynau ac ychwanegion pwysig eraill. 
  • Mae cael gwared ar bob ffynhonnell cobalt ac eithrio un mewn bwyd anifeiliaid yn peri risg uchel i ddiogelwch y gadwyn gyflenwi.  

Cyflwynwyd tystiolaeth bellach trwy AIC a BAFSAM (Saesneg yn unig):