Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar drefniadau pontio ar gyfer pryfed bwytadwy ym Mhrydain Fawr

Penodol i Gymru a Lloegr

Ymgynghoriad ar gyfnod pontio arfaethedig wedi’i ddeddfu o dan y rheoliadau bwydydd newydd ar gyfer pryfed bwytadwy yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban. Mae’r cynnig wedi’i ddatblygu gyda mewnbwn gan Safonau Bwyd yr Alban.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 July 2022

Crynodeb o ymatebion

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb mwyaf i’r canlynol: 

  • Y diwydiant
  • Awdurdodau gorfodi
  • Defnyddwyr
  • Rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant yn y polisi a’r ddeddfwriaeth mewn perthynas â phryfed bwytadwy

Pwnc yr ymgynghoriad  

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau rhanddeiliaid ar gyfnod pontio arfaethedig wedi’i ddeddfu o dan y rheoliadau bwydydd newydd ar gyfer pryfed bwytadwy yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r cynnig wedi’i ddatblygu gyda mewnbwn gan Safonau Bwyd yr Alban.   

Yng Ngogledd Iwerddon, mae angen awdurdodi pryfed bwytadwy a ystyrir yn fwydydd newydd o dan Gyfraith Bwyd yr UE yn unol â Rheoliad (EU) 2015/2283, fel y’i cymhwysir o dan delerau cyfredol Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon, cyn eu rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Proses awdurdodi’r Comisiwn Ewropeaidd, gan gynnwys dilysu, sy’n gymwys yng Ngogledd Iwerddon. 

Diben yr ymgynghoriad  

Mae’r ASB wedi adolygu’r dull polisi ar gyfer awdurdodi rhai pryfed bwytadwy  ym Mhrydain Fawr o fewn cwmpas y mesurau pontio cyfredol yn y rheoliadau bwydydd newydd a ddargedwir o’r Undeb Ewropeaidd (UE) (gweler yn benodol Erthygl 35(2) o Reoliad a Ddargedwir (EU) 2015/2283)

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio sylwadau gan y diwydiant, awdurdodau gorfodi, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant ar y cynnig polisi i gyflwyno mesur trosiannol deddfwriaethol, sy’n benodol i Brydain Fawr, a fydd yn egluro’r trefniadau ar gyfer busnesau sy’n ceisio awdurdodiad bwyd newydd ar gyfer eu cynnyrch pryfed bwytadwy. 

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu'r wybodaeth gefndirol a'r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. 

England and Wales

Sut i ymateb  

Rhaid i ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd ar 10 Awst 2022. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Os ydych yn ymateb i’r cynnig polisi o ran pryfed bwytadwy, anfonwch eich ymateb i: Novelfoods@food.gov.uk  

I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd yr ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd. 

Dogfennau perthnasol eraill

Rheoliad (EU) 2015/2283 Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd ar 25 Tachwedd 2015 ar fwydydd newydd, sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 258/97 Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1852/2001 (Testun sy’n berthnasol i EEA) (legislation.gov.uk) 

Rhagor o wybodaeth   

Os ydych chi angen y ddogfen hon mewn fformat sy'n haws i'w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi. 

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn. 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.